Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’ i Golli Pwysau?

Sut Galla’ i Golli Pwysau?

 Oes gwir angen imi golli pwysau?

 Mae rhai pobl yn eu harddegau yn dweud eu bod nhw eisiau colli pwysau. Sut bynnag . . .

  •   Mae llawer yn poeni mwy am y ffordd maen nhw’n edrych yn hytrach na’u hiechyd. I gael gwared ar y pwysau’n sydyn, mae rhai yn methu prydau bwyd neu’n cymryd tabledi colli pwysau. Gan amlaf, dydy’r dulliau hyn ddim yn gweithio, ac weithiau maen nhw’n beryglus.

     “Er mwyn colli pwysau’n gyflymach, mae rhai merched yn mynd heb fwyd. Mae hyn fel arfer yn creu problemau eraill, ac yna mae’n cymryd amser hir iddyn nhw gael eu hiechyd yn ôl.”—Hailey.

  •   Mae llawer yn poeni am eu pwysau heb reswm. Does dim problem gyda’u pwysau—ond efallai eu bod nhw’n teimlo’n dew o’u cymharu â’u ffrindiau, neu â’r corff tenau “perffaith” sy’n cael ei hybu yn y cyfryngau.

     “Pan o’n i’n 13, ro’n i’n cymharu fy hun â fy ffrindiau. Ro’n i’n credu bydden nhw’n meddwl mwy ohono i, ’taswn i’n edrych yr un fath â nhw—ac roedd hynny’n golygu mod i’n gorfod bod yn denau fel styllen.”—Paola.

 Ar y llaw arall, mae gwir angen i rai pobl ifanc golli pwysau. Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd . . .

  •   Mae oddeutu 340 miliwn o bobl ifanc ledled y byd rhwng 5 ac 19 mlwydd oed dros eu pwysau.

  •   Ym 1975 dim ond 4 y cant o bobl rhwng 5 ac 19 mlwydd oed oedd dros eu pwysau. Erbyn 2016 roedd y ffigwr hwnnw wedi codi i 18 y cant.

  •   Yn y rhan fwyaf o wledydd yn y byd, mae’n fwy cyffredin i bobl fod yn ordew nac i fod o dan bwysau.

  •   Mae gordewdra hefyd yn gyffredin mewn gwledydd incwm isel, hyd yn oed mewn cartrefi lle mae rhai heb gael digon o faeth.

 Beth yw’r ffordd orau i golli pwysau?

 Pa ddull y byddet ti’n ei ddewis?

  1.   Methu prydau bwyd.

  2.   Cyfuno ymarfer corff â deiet cytbwys.

  3.   Cymryd tabledi colli pwysau.

 Yr ateb cywir: Dull 2: Cyfuno ymarfer corff â deiet cytbwys.

 Efallai cei canlyniadau cyflym drwy fethu prydau bwyd neu hepgor grwpiau cyfan o fwydydd. Ond fydd y dulliau hynny ddim bob amser yn iachus, ac mae’n debyg y byddi di’n rhoi’r pwysau yn ôl pan wyt ti’n dechrau bwyta’n normal eto.

 Ar y llaw arall, os wyt ti’n anelu at fod yn iach, byddi di’n teimlo’n well ac yn edrych yn dda. Dywed Dr. Michael Bradley: “Mae’r canlyniadau mwyaf parhaol, iachus, a diogel i’w cael drwy newid eich bywyd mewn ffordd y gallwch gadw ati am weddill eich oes.” a Felly, os oes angen iti golli pwysau, meddylia am newid dy ffordd o fyw yn hytrach na dilyn deiet.

 Cynllun

 Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni “ymddwyn yn gyfrifol”—ac mae hynny’n cynnwys y ffordd rydyn ni’n bwyta. (1 Timotheus 3:2) Yn fwy penodol, mae’n dweud y dylen ni osgoi gorfwyta. (Diarhebion 23:20) Gan gadw’r egwyddorion hynny mewn cof, rho gynnig ar y syniadau canlynol er mwyn dilyn ffordd iachach o fyw.

  •   Dysgu sut mae bwyta’n iach.

     Does dim angen mynd dros ben llestri, ond gall gwybod rywfaint am fwyd maethlon dy helpu di i fwyta’n iach. Ac mae deiet cytbwys yn un o’r ffyrdd gorau i gadw dy bwysau dan reolaeth.

  •   Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

     Meddylia am bethau syml y gelli di eu gwneud i gadw’n heini. Er enghraifft, yn lle defnyddio’r lifft, defnyddia’r grisiau. Dos am dro am hanner awr yn lle chwarae gemau fideo.

  •   Dewis bwyd iach yn lle bwyd sothach.

     “Dw i’n ceisio cadw bwydydd iach fel ffrwythau a llysiau wrth law,” meddai Sophia sydd yn eu harddegau. “Yna dw i ddim yn cael fy nhemtio i fwyta llawer o bethau sydd heb faeth.”

  •   Bwyta’n fwy araf deg.

     Mae rhai pobl yn bwyta mor gyflym nad ydyn nhw’n “clywed” y corff yn dweud ei fod yn llawn! Felly cymer dy amser. Arhosa am dipyn cyn mynd yn ôl am ychwaneg. Efallai byddi di’n sylweddoli nad wyt ti eisiau mwy wedi’r cwbl.

  •   Cadw llygad ar y calorïau.

     Darllena’r labeli i weld faint o galorïau sydd yn dy fwyd. Tip bach: Mae diodydd melys, prydau parod, a phwdinau yn llawn calorïau sy’n cyfrannu at fagu pwysau.

  •   Cadw’r cydbwysedd.

     Dywed Sara, sy’n 16 oed: “Ar un adeg roedd cyfri calorïau wedi mynd yn obsesiwn gen i, a phob tro edrychais ar lond plât o fwyd yr unig beth ro’n i’n gallu ei weld oedd rhifau!” Paid â throi’n “gyfrifydd calorïau.” Fe gei di sbwylio dy hun bob hyn a hyn.

 Awgrym: Siarada â’r doctor os wyt ti’n poeni am dy bwysau. Fe fydd y doctor yn ystyried dy hanes meddygol ac yn dy helpu i ddilyn rhaglen a fydd yn gweithio i ti.

a O’r llyfr When Things Get Crazy With Your Teen.