Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gall y Beibl Fy Helpu i?—Rhan 3: Elwa’n Llawn o Ddarllen y Beibl

Sut Gall y Beibl Fy Helpu i?—Rhan 3: Elwa’n Llawn o Ddarllen y Beibl

 Wrth edrych yn y Beibl, byddi di’n gweld lot o eiriau. Ond paid a phoeni! Yn hytrach, meddylia am y Beibl fel gwledd enfawr. Elli di ddim bwyta popeth, ond mi elli di ddewis digon i lenwi dy fol.

 I elwa’n llawn o ddarllen y Beibl, mae’n rhaid iti ganolbwyntio ar beth rwyt ti’n ei ddarllen. Bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i wneud hynny.

Yn yr erthygl hon

 Pam canolbwyntio ar beth rwyt ti’n ei ddarllen yn y Beibl?

 Y mwyaf o ymdrech rwyt ti’n ei roi i mewn i ddarllen y Beibl, y mwyaf byddi di’n elwa ohono. Meddylia am hyn: Os wyt ti’n dipio bag te i mewn i ddŵr poeth yn sydyn, cei di ychydig o flas allan ohoni. Ond cei di fwy o flas os wyt ti’n ei adael yn y dŵr yn hirach.

 Mae’r un peth yn wir am ddarllen y Beibl. Yn hytrach na’i ddarllen yn sydyn, cymera yr amser i feddwl amdano a gadael iddo gyrraedd dy galon. Dyna wnaeth ysgrifennwr Salm 119. Dywedodd ei fod yn “myfyrio ynddi drwy’r dydd.”—Salm 119:97.

 Ond wrth gwrs, dydy hynny dim yn golygu bod rhaid iti dreulio diwrnod cyfan yn darllen ac yn meddwl am y Beibl. Y pwynt ydy, cymerodd y salmydd amser i feddwl am Air Duw, a gwnaeth hynny ei helpu i wneud penderfyniadau da.—Salm 119:98-100.

 “Dywedodd mam wrtho i unwaith, ‘Mae gen ti saith diwrnod yn yr wythnos, ac rwyt ti’n gwneud llawer o bethau i ti dy hun yn yr amser hynny. Beth am roi ychydig o amser i Jehofa? Mae hynny ond yn deg!’”—Melanie.

 Os wyt ti’n meddwl am egwyddorion o’r Beibl, byddi di’n gallu gwneud penderfyniadau da—er enghraifft, pan wyt ti’n dewis ffrindiau, neu pan wyt ti’n cael dy demtio i wneud rhywbeth anghywir.

 Sut gelli di elwa’n llawn o ddarllen y Beibl?

  •   Gwna gynllun. “Mae Julia yn ei harddegau, a dyma mae hi’n ei awgrymu: “Gwna gynllun o beth byddi di’n ei ddarllen, pryd byddi di’n ei ddarllen, a lle byddi di’n ei ddarllen.”

  •   Creu awyrgylch da i ddarllen. Mae dynes ifanc o’r enw Gianna yn awgrymu: “Ffeindia rywle distaw, a gadael i eraill yn dy deulu wybod pryd byddi di’n darllen y Beibl, fel na fyddan nhw’n torri ar draws.”

     Gosoda dy ddyfais electronig fel na fydd negeseuon a hysbysiadau yn tynnu dy sylw. Gelli di hyd yn oed drio ddefnyddio copi caled o’r Beibl. Mae ymchwil yn dangos ei bod hi’n anoddach canolbwyntio’n iawn wrth ddarllen oddi ar sgrin. Ar y llaw arall, rydyn ni’n deall yn well o ddarllen oddi ar bapur.

     “Dwi’n gweld hi’n anodd canolbwyntio wrth ddarllen oddi ar sgrin oherwydd dw i’n cael negeseuon, neu mae’r batri’n mynd yn isel, neu mae’r we yn mynd i lawr. Ond oll dw i’n gorfod poeni amdano wrth ddarllen llyfr yw cael digon o olau.”—Elena.

  •   Gweddïa yn gyntaf. Gofynna i Jehofa dy helpu di i ddeall, i gofio, ac i elwa o’r rhan o’r Beibl rwyt ti eisiau ei ddarllen.—Iago 1:5.

     Er mwyn dangos i Jehofa dy fod ti o ddifri am yr hyn rwyt ti wedi gweddïo amdano, cloddia’n ddyfnach i’r hanes rwyt ti’n ei ddarllen. Sut gelli di wneud hynny? Os wyt ti’n defnyddio’r ap JW Library neu’n darllen yn y Beibl ar lein, gelli di glicio ar adnod i weld mwy o wybodaeth ac erthyglau amdano.

  •   Gofynna gwestiynau. Er enghraifft: ‘Beth mae’r hanes hwn yn ei ddysgu imi am Jehofa? Ydy’r hanes yn pwysleisio un o’i rinweddau alla i ei efelychu?’ (Effesiaid 5:1) ‘Pa wersi o’r hanes hwn alla i ei roi ar waith yn fy mywyd i?’ (Salm 119:105) ‘Sut fedra i ddefnyddio hyn i helpu eraill?’—Rhufeiniaid 1:11.

     Hefyd, gofynna i ti dy hun, ‘Sut mae hyn yn cysylltu â thema’r Beibl?’ Mae’r cwestiwn hwnnw yn hynod o bwysig. Pam? Oherwydd mae popeth yn y Beibl—o Genesis i Datguddiad—yn cysylltu mewn rhyw ffordd â’r brif thema, hynny ydy, sut bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas yn y nef i sancteiddio ei enw ac yn profi, nid yn unig bod ganddo’r hawl i reoli, ond mai ei ffordd ef o reoli yw’r un gorau.