Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Ydw i Wastad yn Dweud y Peth Anghywir?

Pam Ydw i Wastad yn Dweud y Peth Anghywir?

 “Weithiau dw i’n gallu rheoli fy nhafod, ond ar adegau mae fel bod fy ngheg yn bwrw mlaen heb help fy ’mennydd!”​—James.

 “Pan dw i’n nerfus dw i’n siarad heb feddwl, ond pan dw i wedi ymlacio dw i’n dweud gormod. Felly, dw i wastad yn dweud y peth anghywir.”​—Marie.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Fflam . . . ydy’r tafod” a hefyd, “Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân.” (Iago 3:​5, 6) Ydy dy eiriau yn achosi trafferthion iti? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu.

 Pam ydw i’n dweud y peth anghywir?

 Amherffeithrwydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o’i le byth, dyna i chi berson perffaith!” (Iago 3:2) Oherwydd ein gwendidau, rydyn ni’n gwneud pob math o gamgymeriadau, ac felly’n dueddol o wneud a dweud y peth anghywir.

 “Gan fod gen i ymennydd a thafod amherffaith, mae’n wirion imi ddweud bod gen i reolaeth berffaith arnyn nhw.”​—Anna.

 Siarad yn ormodol. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun.” (Diarhebion 10:19) Mae pobl sy’n siarad gormod​—a ddim yn gwrando digon​—yn fwy tebygol o bechu eraill trwy ddweud y peth anghywir.

 “Nid siaradus yw doethion pob ystafell. Iesu yw’r person doethaf erioed i droedio’r ddaear, ond ar adegau mi arhosodd yn dawel.”​—Julia.

 Geiriau sarcastig. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu.” (Diarhebion 12:18) Un esiampl o siarad yn ddideimlad yw bod yn sarcastig​—defnyddio geiriau pigog gyda’r nod o fychanu eraill. Gall rhywun sarcastig ddweud, “Dim ond jocian oeddwn i!” Ond nid mater chwerthin yw bychanu eraill. Cyngor y Beibl yw i beidio â “bod yn faleisus.”​—Effesiaid 4:​31.

 “Fy nhueddiad yw bod yn gyflym i ateb, a dw i’n hoffi bod yn ddoniol​—pethau sy’n arwain at fod yn sarcastig, sydd yn aml yn dod â helynt imi.”​—Oksana.

Fel na fedri di wasgu past dannedd yn ôl i’w le, ni fedri di gymryd dy eiriau’n ôl

 Tawelu’r tafod

 Nid yw’n hawdd dysgu sut mae tawelu’r tafod, ond gall egwyddorion y Beibl helpu. Er enghraifft, ystyria’r canlynol.

 “Myfyriwch ar y peth ar eich gwely.”​—Salm 4:4.

 Weithiau yr ymateb gorau yw peidio ag ymateb. “Gallaf deimlo’n flin yn yr eiliad honno, ond efallai na fydda’ i’n teimlo’r un fath nes ymlaen,” dywedodd merch ifanc o’r enw Laura. “Fel arfer, ar ôl imi dawelu, dw i’n falch fy mod i heb ddweud yr hyn oeddwn i’n bwriadu ei ddweud.” Gall seibio am ychydig o eiliadau dy rwystro rhag dweud y peth anghywir.

 “Ydy’r glust ddim yn profi geiriau fel mae’r geg yn blasu bwyd?”​—Job 12:11.

 Gelli di osgoi sefyllfa drafferthus trwy feddwl am yr hyn rwyt ti’n bwriadu ei ddweud yng ngoleuni’r cwestiynau canlynol:

  •   Ydy’n wir? Ydy’n garedig? Ydy’n angenrheidiol?​—Rhufeiniaid 14:19.

  •   Sut bydda’ i’n teimlo os byddai rhywun yn ei ddweud wrtho i?​—Mathew 7:​12.

  •   Ydy hyn yn dangos parch at safbwynt y person arall?​—Rhufeiniaid 12:10.

  •   Ai dyma’r sefyllfa orau i’w ddweud?​—Pregethwr 3:7.

 “Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.”​—Philipiaid 2:3.

 Bydd y cyngor hwn yn dy helpu i feithrin teimladau da tuag at eraill, ac o ganlyniad bydd yn dy helpu i frathu dy dafod ac i feddwl cyn siarad. Hyd yn oed os ydy hi’n rhy hwyr, a ti wedi dweud rhywbeth cas, bydd gostyngeiddrwydd yn dy helpu i ymddiheuro​—ac i wneud hynny cyn gynted â phosib! (Mathew 5:​23, 24) Wedyn, bydda’n benderfynol o dawelu dy dafod yn well y tro nesaf.