Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’ i Siarad â Fy Rhieni am eu Rheolau?

Sut Galla’ i Siarad â Fy Rhieni am eu Rheolau?

 “Roedd rheolau fy rhieni yn gwneud synnwyr pan o’n i’n 15, ond nawr dw i’n 19 ac yn teimlo dylwn i gael mwy o ryddid.”​—Sylvia.

 Wyt ti’n teimlo’n debyg i Sylvia? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i drafod y sefyllfa gyda dy rieni.

 Beth ddylet ti ei wybod?

 Cyn siarad â dy rieni am eu rheolau, ystyria’r canlynol:

  •  Heb reolau, byddai bywyd yn llanast llwyr. Meddylia am briffordd brysur. Beth os doedd ’na ddim arwyddion, dim goleuadau traffig, na therfynau cyflymder? Mae rheolau yn y cartref​—fel rheolau ar y ffyrdd​—yn helpu cadw trefn.

  •  Mae rheolau yn dangos bod dy rieni yn gofalu amdanat ti. Os nad oedden nhw’n gosod unrhyw reolau, gall hynny olygu dydyn nhw ddim yn becso beth sy’n digwydd iti. Pa fath o rieni fydden nhw mewn gwirionedd?

 OEDDET TI’N GWYBOD? Mae gan rieni reolau i’w dilyn hefyd! Os wyt ti’n amau hynny, darllena Genesis 2:​24; Deuteronomium 6:​6, 7; Effesiaid 6:4; a 1 Timotheus 5:8.

 Ond beth os wyt ti’n dal i deimlo bod rheolau dy rieni yn annheg?

 Beth elli di ei wneud?

 Meddylia cyn trafod y peth. Wyt ti fel arfer yn dilyn rheolau dy rieni? Os nad wyt ti, efallai dydy hi ddim yn amser da i ofyn am fwy o ryddid. Yn hytrach, gweler y fideo, “Sut Galla’ i Ennill Mwy o Ryddid?

 Os wyt ti fel arfer yn dilyn eu rheolau, paratoa beth fyddet ti’n hoffi ei ddweud wrth dy rieni. Bydd nodi dy syniadau o flaen llaw yn dy helpu i weld a ydy’r hyn rwyt ti’n gofyn amdano yn rhesymol. Nesaf, gofynna i dy rieni ddewis amser a lleoliad ble rydych chi i gyd yn teimlo’n gyffyrddus ac yn gallu ymlacio. Wedyn, wrth iti sgwrsio gyda nhw, cofia’r canlynol:

 Bydda’n barchus. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae . . . dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” (Diarhebion 15:1) Felly cofia hyn: Os wyt ti’n dadlau gyda dy rieni neu’n eu cyhuddo nhw o fod yn annheg, fydd y sgwrs ddim yn mynd yn dda.

 “Y mwyaf dw i’n parchu fy rhieni, y mwyaf maen nhw’n dangos parch tuag ata’ i. Mae’n lot hawsach inni gytuno pan ’dyn ni’n parchu’n gilydd.”​—Bianca, 19.

 Gwranda. Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni “fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll.” (Iago 1:​19) Cofia, rwyt ti’n sgwrsio gyda dy rieni, nid rhoi araith iddyn nhw.

 “Wrth inni dyfu, efallai ’dyn ni’n teimlo ein bod ni’n gwybod yn well na’n rhieni, ond dydy hynny yn bendant ddim yn wir. Mae er ein lles ni i dderbyn eu cyngor.”​—Devan, 20.

 Dangosa empathi. Ceisia weld y mater o safbwynt dy rieni. Dilyna gyngor y Beibl, sy’n dweud: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain”​—yn yr achos hwn, meddylia am dy rieni.​—Philipiaid 2:4.

Pa ddull sy’n fwy tebygol o lwyddo?

 “O’n i’n arfer meddwl bod fy rhieni yn fy erbyn i, yn lle cefnogi fi. Ond nawr dw i’n deall roedden nhw jest yn dysgu sut i fod yn rhieni da, fel o’n i’n dysgu sut i fod yn oedolyn cyfrifol. Oedden nhw’n gwneud popeth mas o gariad.”​—Joshua, 21.

 Cynigia awgrymiadau. Dychmyga, er enghraifft, dy fod ti eisiau mynd i barti a bydd hi’n cymryd awr i gyrraedd yna, ond mae dy rieni wedi dweud na. Ceisia ddarganfod beth sy’n eu poeni nhw fwyaf​—y daith, neu’r parti?

  •   Os mai’r daith yw hi, a fydden nhw’n ailystyried os wyt ti’n mynd gyda ffrind sy’n yrrwr profiadol?

  •   Os mai’r parti yw hi, a fydd hi’n helpu os wyt ti’n rhoi gwybod iddyn nhw am bwy fydd yna, a phwy fydd yn gyfrifol am y parti?

 Cofia siarad yn barchus, a gwrando’n amyneddgar ar yr hyn mae dy rieni yn ei ddweud. Dangosa dy fod ti’n ‘parchu dy dad a dy fam’ yn dy eiriau ac yn dy agwedd. (Effesiaid 6:​2, 3) A fydden nhw’n newid eu meddyliau? Efallai. Efallai ddim. Beth bynnag sy’n digwydd . . .

 Derbynia benderfyniad dy rieni yn barchus. Mae hyn yn gam hollbwysig ond mae’n cael ei anghofio yn aml. Os nad wyt ti’n cael yr hyn rwyt ti eisiau ac yn dechrau dadlau gyda dy rieni, byddi di’n ei gwneud hi’n anoddach i ti dy hun y tro nesaf rydych chi’n cael sgwrs. Ar y llaw arall, os wyt ti’n fodlon gwrando arnyn nhw, bydden nhw yn fwy tebygol o lacio rhai o’u rheolau.