Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Ydw i’n Edrych?

Sut Ydw i’n Edrych?

 Pam ddylet ti boeni am dy ddillad? Oherwydd gall dy ddillad ddangos sut fath o berson wyt ti. Beth mae dy ddillad di yn ei ddweud amdanat ti?

 Tri chamgymeriad ffasiwn a sut i’w hosgoi

Camgymeriad #1: Gadael i’r cyfryngau ddweud wrthot ti am beth i’w wisgo.

 “Weithiau dw i’n cael fy nenu at steil penodol ar ôl imi weld hysbysebion,” meddai Theresa sydd yn ei harddegau. “Pan wyt ti’n gweld pobl yn gwisgo rhyw steil penodol drwy’r adeg, mae’n gwneud iti eisiau dilyn y ffasiwn hwnnw.”

 Nid merched yw’r unig rai sy’n teimlo dylanwad hysbysebion. “Mae ffasiwn yn ddylanwad mawr ar fechgyn hefyd,” meddai’r llyfr The Everything Guide to Raising Adolescent Boys. “Hyd yn oed pan maen nhw’n ifanc iawn, mae’r diwydiant marchnata yn ceisio dylanwadu arnyn nhw.”

 Cyngor gwell: Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.” (Diarhebion 14:15) Mae’r egwyddor honno yn ein hatgoffa ni i feddwl yn ofalus am beth rydyn ni’n ei weld mewn hysbysebion. Er enghraifft, pan weli di ddillad rhywiol yn cael eu hysbysebu, gofynna i ti dy hun:

  •  ‘Pwy sydd ar ei ennill os ydw i’n dilyn y ffasiwn hwn?’

  •  ‘Pa argraff fydd y dillad hyn yn ei gwneud ar eraill?’

  •  ‘Ai dyna sut fath o berson ydw i go iawn?’

 Awgrym ffasiwn: Am wythnos, gwylia hysbysebion sy’n canolbwyntio ar ffasiwn a’u hystyried yn ofalus. Pa ffordd o fyw maen nhw’n eu hyrwyddo? Oes negeseuon cynnil ynddyn nhw sy’n gwneud iti deimlo bod angen iti ddilyn y steil hwnnw? “Mae pwysau enfawr ar bobl i edrych yn berffaith, i wisgo’n berffaith, ac i ddangos dy ‘gorff perffaith,’” meddai Karen, sydd yn ei harddegau. “Mae cwmnïau’n gwybod bod pobl ifanc yn teimlo fel hyn ac yn ceisio manteisio ar hynny.”

Camgymeriad #2: Dilyn steil poblogaidd er mwyn bod fel pawb arall.

 “Os yw rhyw ffasiwn arbennig yn boblogaidd,” meddai dyn ifanc o’r enw Manuel, “bydd pawb yn gwisgo fel hynny. Os wyt ti’n wahanol, bydd pobl yn edrych i lawr arnat ti.” Mae merch o’r enw Anna yn cytuno. Mae hi’n dweud: “Fel arfer, mae cael dy dderbyn yn bwysicach na’r ffasiwn.”

 Cyngor gwell: Dywed y Beibl: “Stopiwch gael eich mowldio gan y byd hwn.” (Rhufeiniaid 12:2) Wrth ddilyn y cyngor hwnnw, edrycha ar dy ddillad a gofyn:

  •  ‘Beth sy’n dylanwadu ar fy newis o ddillad?’

  •  ‘Ydy hi’n bwysig iawn imi gael enw brand penodol ar fy nillad?’

  •  ‘Ydw i’n ceisio defnyddio fy nillad i gael sylw pobl eraill?’

 Awgrym ffasiwn: Yn lle meddwl bod rhaid iti wisgo mewn ffordd benodol er mwyn cael dy dderbyn gan eraill, ceisia ddatblygu dy hunanhyder. Os wyt ti’n hapus yn dy groen, fyddi di ddim yn poeni gymaint am fod yr un fath â phawb arall.

Camgymeriad #3: Meddwl bod gwisgo’n rhywiol yn beth da

 Mae merch o’r enw Jennifer yn cyfaddef: “A bod yn onest, weithiau dw i eisiau gwisgo rhywbeth pryfoclyd, rhywbeth sy’n rhy fyr neu’n rhy dynn.”

 Cyngor gwell: Dywed y Beibl: “Peidiwch ag addurno eich hunain â phethau allanol . . . ond gadewch i’ch harddwch gael ei weld yn yr hyn yr ydych chi yn eich calon.” (1 Pedr 3:3, 4) Wrth ddilyn y cyngor hwnnw, meddylia am beth sy’n fwy deniadol—harddwch allanol neu harddwch mewnol.

 Awgrym ffasiwn: Un o’r pethau mwyaf deniadol ydy bod yn wylaidd. Dydy hynny ddim yn syniad poblogaidd heddiw, ond meddylia am hyn:

 Wyt ti erioed wedi cael sgwrs â rhywun sy’n siarad amdano ef ei hun drwy’r amser? Mae’n debyg nad yw’n sylweddoli ei fod yn creu argraff negyddol arnat ti.

Mae dillad sy’n gweiddi ‘edrycha arna i’ yn gallu dy wneud ti’n llai deniadol i eraill.

 Pan fyddi di’n gwisgo’n bryfoclyd, rwyt ti’n ymddwyn fel y person hwnnw. Mae fel petai dy ddillad yn dweud ‘edrycha arna i,’ a gall hynny wneud iti ymddangos naill ai’n ansicr neu’n llawn ohonot ti dy hun—neu’r ddau. Gall hefyd wneud iti edrych fel dy fod ti’n cystadlu am sylw gan eraill—hyd yn oed y math anghywir o sylw.

 Os nad wyt ti eisiau’r math hwnnw o sylw, ceisia wisgo’n weddus “Dydy gwisgo’n weddus ddim yn golygu bod yn rhaid iti wisgo fel dy nain,” meddai Monica sydd yn ei harddegau. “Mae’n golygu dy fod ti’n parchu dy hun, ac yn parchu pobl eraill.”