Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gallaf Stopio Meddwl am Ryw Drwy’r Amser?

Sut Gallaf Stopio Meddwl am Ryw Drwy’r Amser?

 “Mae meddyliau am ryw yn codi o nunlle ac yn cymryd drosodd yn llwyr. Mae fel petai rhywun arall yn rheoli fy meddyliau.”—Vera.

 “Mae rheoli meddyliau am ryw bron yn amhosib. Haws fyddai chwifio fy mreichiau a gobeithio hedfan.”—John.

 Wyt ti’n teimlo fel Vera a John? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu.

 Pam dylen ni geisio rheoli ein meddyliau?

 “Dywedodd fy ewythr fyddai Duw ddim wedi rhoi’r awydd am ryw imi os nad oedd o am imi ei wneud,” meddai dyn ifanc o’r enw Alex.

 Mae rhywfaint o wirionedd yn yr hyn a ddywedodd ewythr Alex—y mae Duw wedi rhoi chwantau rhywiol inni, a hynny am reswm da. Fyddai’r hil ddynol ddim yn bod heddiw oni bai am y broses o genhedlu. Felly pam dylet ti boeni o gwbl am geisio peidio â meddwl am ryw? Dyma ddau reswm da.

  •   Yn ôl y Beibl, bwriad Duw oedd i’r berthynas rywiol fod rhwng dyn a dynes sy’n briod â’i gilydd.—Genesis 1:28; 2:24.

     Os wyt ti’n sengl ac yn parchu’r safon foesol honno, bydd meddwl am ryw drwy’r amser yn gwneud iti deimlo’n rhwystredig ac anhapus. Fe allai wneud iti ildio i’r temtasiwn i gael rhyw. Ac mae llawer yn dweud wedyn eu bod nhw’n difaru gwneud.

  •   Mae dysgu sut i reoli meddyliau am ryw yn gam pwysig tuag at feithrin hunanreolaeth yn gyffredinol.—1 Corinthiaid 9:25, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 Bydd y rhinwedd honno’n dy helpu di i fod yn fwy llwyddiannus a hapus heddiw ac yn y dyfodol. Yn wir, dangosodd un astudiaeth fod plant sydd wedi meithrin hunanreolaeth yn llai tebygol fel oedolion o gael problemau iechyd, trafferthion ariannol, ac o fynd i helyntion gyda’r gyfraith. a

 Pam mae mor anodd?

 Mae hormonau—a’r ffaith bod rhyw bron yn obsesiwn gan y byd heddiw—yn gwneud hi’n anodd peidio â meddwl am ryw.

 “Mae cymaint o raglenni teledu yn rhoi darlun cadarnhaol o bobl sy’n cael rhyw cyn priodi, heb ddangos y peryglon o gwbl. Mae’n hawdd meithrin meddyliau anweddus pan nad ydyn ni’n cofio am y canlyniadau drwg sy’n dod o gael rhyw y tu allan i briodas.”—Ruth.

 “Yn y gwaith, dw i’n clywed pobl yn siarad yn fudr am ryw, ac mae’n gwneud imi deimlo mod i eisiau gwybod mwy. Maen nhw’n gwneud i bethau anfoesol swnio mor normal nes bod hi’n anodd cofio bod pethau felly yn ddrwg.”—Nicole.

 “Mae’n hawdd anghofio bod yn ofalus wrth sgrolio drwy luniau ar gyfryngau cymdeithasol. Gall un ddelwedd rywiol gael ei serio ar dy feddwl, ac mae’n andros o anodd cael gwared arni wedyn!”—Maria.

 Efallai ar ôl ystyried hyn byddi di’n teimlo fel yr apostol Paul a ysgrifennodd: “Er fy mod i eisiau gwneud beth sy’n iawn, mae’r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.”—Rhufeiniaid 7:21.

Paid â gadael i feddyliau drwg godi nyth ar dy ben

 Beth gelli di ei wneud?

 Meddwl am bethau eraill. Ceisia ganolbwyntio ar bethau ar wahân i ryw. Fe elli di ddewis hobïau, chwaraeon, ymarfer corff, neu unrhyw weithgaredd sy’n newid cyfeiriad dy feddyliau. Dywed un ddynes ifanc o’r enw Valerie: “Mae darllen y Beibl yn help. Mae’n trafod meddyliau Duw, a phan wyt ti’n cadw pethau felly yn dy feddwl, does dim llawer o le i bethau eraill.”

 Wrth gwrs fe all syniadau rhywiol groesi dy feddwl. Ond mater i ti wedyn yw beth rwyt ti’n ei wneud gyda’r meddyliau hynny. Fe elli di eu gwrthod, os dewisi di.

 “Os ydw i’n teimlo mod i’n colli rheolaeth ar fy meddyliau, dw i’n gorfodi fy hun i newid y sianel yn fy mhen. Hefyd dw i’n ceisio deall beth oedd wedi agor y drws i’r meddyliau hynny—p’un ai cân y dylwn ei dileu o’r rhestr chwarae ydy hi, neu lun y dylwn ei ddileu.”—Helena.

 Egwyddor o’r Beibl: “Meddyliwch bob amser . . . am beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus.”—Philipiaid 4:8.

 Dewis ffrindiau da. Os ydy dy ffrindiau yn siarad am ryw drwy’r amser, mae’n mynd i fod yn anodd cadw dy feddyliau’n lân.

 “Yn fy arddegau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cadw fy meddwl yn bur, a doedd fy ffrindiau ddim yn helpu. Pan wyt ti’n treulio amser efo pobl sy’n annog chwantau drwg, rwyt ti’n canolbwyntio ar dy deimladau dy hun, ac mae hynny jest yn rhoi tanwydd ar y tân.”—Sarah.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.”—Diarhebion 13:20.

 Osgoi adloniant anweddus. Mae pawb yn gwybod bod bron pob rhan o’r byd adloniant yn rhoi lle amlwg i ryw. “Cerddoriaeth yw’r peth sy’n effeithio fwyaf arna i,” meddai Nicole. “Mae’n gallu codi chwantau nes bod nhw’n bygwth dy lethu di bron.”

 “Dechreuais wylio ffilmiau a rhaglenni teledu a oedd yn rhoi lle blaenllaw i ryw. Cyn imi sylweddoli, roeddwn i’n meddwl am ryw yn aml. Roedd hi’n hawdd gweld lle roedd y meddyliau hynny wedi dechrau. Ar ôl imi stopio gwylio’r ffilmiau a rhaglenni teledu hynny, doeddwn i ddim yn meddwl am ryw gymaint. Mae dewis dy adloniant yn ofalus yn gwneud hi’n haws ennill y frwydr yn erbyn meddyliau anweddus.”—Joanne.

 Egwyddor o’r Beibl: “Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith!”—Effesiaid 5:3.

 Y gwir yw: Mae rhai pobl yn meddwl bod chwantau rhywiol mor bwysig na ddylen ni—ac na fedrwn ni—eu rheoli. Ond mae’r Beibl yn dweud fel arall. Mae’n parchu ein gallu i reoli ein meddyliau.

 Egwyddor o’r Beibl: “Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl.”—Effesiaid 4:23.

a Mae angen hunanreolaeth ar bobl briod hefyd, sy’n rheswm arall dros feithrin y rhinwedd honno tra dy fod ti’n sengl.