Neidio i'r cynnwys

A Oes Angen Perthyn i Grefydd Gyfundrefnol?

A Oes Angen Perthyn i Grefydd Gyfundrefnol?

Ateb y Beibl

 Oes, am fod Duw eisiau i’w bobl ddod at ei gilydd i addoli. Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd.”—Hebreaid 10:24, 25.

 Dangosodd Iesu y byddai ei ddilynwyr yn ffurfio grŵp trefnus pan ddywedodd wrthyn nhw: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13:35) Un o’r prif ffyrdd y byddai disgyblion Crist yn dangos y cariad hwn, yw cymdeithasu â chyd-gredinwyr. Mi fydden nhw’n cael eu trefnu mewn cynulleidfaoedd sy’n cyfarfod yn rheolaidd i addoli. (1 Corinthiaid 16:19) Gyda’i gilydd, bydden nhw’n ffurfio brawdoliaeth fyd-eang.—1 Pedr 2:17.

Mae angen mwy na pherthyn i grefydd

 Er bod y Beibl yn dangos y dylai pobl ddod at ei gilydd i addoli Duw, dydy ef ddim yn dysgu y gall rhywun blesio Duw dim ond iddo fod yn aelod o grefydd. I gael ei gymeradwyo gan Dduw mae rhaid i grefydd rhywun effeithio ar ei fywyd bob dydd. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud: “Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy’r grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac sy’n gwrthod dylanwad y byd.”—Iago 1:27.