Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?

Ateb y Beibl

 Nid yw Duw yn achosi’r trychinebau naturiol sy’n digwydd heddiw, ond y mae’n caru’r bobl sy’n dioddef o’u herwydd. Bydd Teyrnas Dduw yn dileu popeth sy’n achosi dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol. Yn y cyfamser mae Duw yn cynnig cysur i’r rhai sy’n dioddef.​—2 Corinthiaid 1:3.

 Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?

 Rydyn ni’n gwybod o’r Beibl bod Jehofa wedi defnyddio grymoedd natur yn y gorffennol i weithredu ei farn. Ond mae hynny yn wahanol i’r ffordd y mae trychinebau naturiol yn taro.

  •   Mae trychinebau naturiol yn lladd ac yn anafu’r da a’r drwg. Ar y llaw arall, pan oedd Duw yn defnyddio grymoedd natur, dim ond pobl ddrwg oedd yn cael eu dinistrio. Er enghraifft, pan ddinistriodd Duw ddinasoedd Sodom a Gomorra gynt, achubodd y dyn da Lot a’i ddwy ferch. (Genesis 19:29, 30) Edrychodd Duw ar galonnau unigolion a dinistrio dim ond y rhai yr oedd ef yn eu barnu’n ddrwg.​—Genesis 18:23-​32; 1 Samuel 16:7.

  •   Fel arfer mae trychinebau naturiol yn taro yn ddirybudd. Ar y llaw arall, roedd Duw yn rhybuddio pobl ddrwg cyn iddo ddefnyddio grym natur yn eu herbyn. Roedd cyfle ganddyn nhw i wrando ar y rhybuddion ac osgoi’r trychineb.​—Genesis 7:​1-5; Mathew 24:38, 39.

  •   I ryw raddau mae bodau dynol wedi cyfrannu at drychinebau naturiol. Ym mha ffordd? Drwy ddifetha’r amgylchedd a chodi adeiladau mewn ardaloedd lle mae daeargrynfeydd, llifogydd a thywydd eithafol yn debygol o ddigwydd. (Datguddiad 11:18) Nid yw Duw ar fai am ganlyniadau’r dewisiadau hyn.​—Diarhebion 19:3.

 A yw trychinebau naturiol yn un o arwyddion yr oes?

 Ydyn. Mae proffwydoliaethau yn y Beibl yn dweud y byddai trychinebau yn digwydd yn ystod “y cyfnod olaf.” (Mathew 24:3; 2 Timotheus 3:1) Er enghraifft, wrth sôn am ein hoes ni, dywedodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.” (Mathew 24:7) Yn fuan iawn, bydd Duw yn dileu popeth sy’n achosi poen a dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol.​—Datguddiad 21:​3, 4.

 Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?

  •   Mae Duw yn cysuro pobl drwy ei Air, y Beibl. Mae’r Beibl yn dweud yn glir bod Duw yn ein caru ni ac yn teimlo ein poen. (Eseia 63:9; 1 Pedr 5:​6, 7) Mae hefyd yn addo y daw amser pan na fydd trychinebau naturiol yn digwydd mwyach.​—Gweler “Adnodau o’r Beibl i gysuro’r rhai sy’n dioddef.”

  •   Mae Duw yn defnyddio ei addolwyr i helpu pobl. Mae Duw yn dysgu ei addolwyr ar y ddaear i ddilyn esiampl Iesu. Roedd y Beibl yn proffwydo y byddai Iesu yn cysuro “y rhai sydd wedi torri eu calonnau” a’r “rhai sy’n galaru.” (Eseia 61:​1, 2) Mae addolwyr Duw yn ceisio gwneud yr un fath.​—Ioan 13:15.

     Mae Duw hefyd yn defnyddio ei addolwyr i roi cymorth ymarferol i’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol.​—Actau 11:28-30; Galatiaid 6:​10.

Tystion Jehofa yn rhoi cymorth ymarferol i bobl ar ôl corwynt yn Puerto Rico

 Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?

 Ydy. Nid llawlyfr paratoi ar gyfer trychinebau yw’r Beibl ond mae’n cynnig egwyddorion a all fod yn help mawr. Er enghraifft:

  •   Cynlluniwch o flaen llaw ar gyfer trychinebau posib. “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi,” meddai’r Beibl. (Diarhebion 22:3) Peth call yw gwneud cynllun argyfwng o flaen llaw. Gall hyn gynnwys paratoi bag argyfwng a fydd yn barod i’w godi, ac ymarfer gyda’ch teulu lle y byddwch yn cyfarfod mewn achos brys.

  •   Cofiwch fod bywyd yn bwysicach nag eiddo. Mae’r Beibl yn dweud: “Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.” (1 Timotheus 6:​7, 8) Mae angen bod yn barod i adael ein cartrefi a’n heiddo er mwyn dianc rhag trychineb. Call yw cofio bod ein bywydau yn werth llawer mwy nag unrhyw bethau materol.​—Mathew 6:​25.