Genesis 18:1-33

  • Tri angel yn ymweld ag Abraham (1-8)

  • Addo mab i Sara; hithau’n chwerthin (9-15)

  • Abraham yn ymbil dros Sodom (16-33)

18  Ar ôl hynny, ymddangosodd Jehofa iddo ymhlith coed mawr Mamre tra oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yn ystod adeg boethaf y dydd.  Edrychodd i fyny a gwelodd dri dyn yn sefyll dipyn o ffordd oddi wrtho. Ar ôl iddo eu gweld nhw, fe wnaeth redeg o ddrws y babell i’w cyfarfod nhw, a dyma’n ymgrymu i’r llawr.  Yna dywedodd: “Jehofa, os ydw i wedi dy blesio di, plîs paid â phasio heibio dy was.  Plîs, gadewch i ychydig o ddŵr gael ei gario yma a golchwch eich traed; yna gorffwyswch o dan y goeden.  Gan eich bod chi wedi dod yma at eich gwas, gadewch imi ddod â darn o fara er mwyn ichi gael eich nerth yn ôl.* Yna cewch chi fynd ar eich ffordd.” Ar hynny dywedon nhw: “Iawn. Cei di wneud fel rwyt ti wedi dweud.”  Felly brysiodd Abraham i’r babell at Sara a dywedodd: “Brysia! Dos i nôl tri mesur* o flawd mân, tylina’r toes, a gwna dorthau o fara.”  Nesaf rhedodd Abraham at y gwartheg a dewis llo tyner a da. Rhoddodd ef i’r gwas, a wnaeth frysio i’w baratoi.  Yna cymerodd ef fenyn a llaeth a’r llo roedd ef wedi ei baratoi, a gosododd y bwyd o’u blaenau nhw. Yna dyma’n sefyll wrth eu hymyl nhw o dan y goeden wrth iddyn nhw fwyta.  Dywedon nhw wrtho: “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd ef: “Yma yn y babell.” 10  Felly aeth un ohonon nhw ymlaen i ddweud: “Bydda i’n sicr o ddod yn ôl atat ti yr adeg hon flwyddyn nesaf, ac edrycha! bydd gan dy wraig Sara fab.” Nawr roedd Sara’n gwrando wrth ddrws y babell, a oedd y tu ôl i’r dyn. 11  Roedd Abraham a Sara yn hen, mewn oed mawr. Roedd Sara yn rhy hen i gael plant. 12  Felly dyma Sara’n dechrau chwerthin iddi hi ei hun, gan ddweud: “Ar ôl imi a fy arglwydd fynd yn hen, a fydda i wir yn cael y pleser hwn?” 13  Yna dywedodd Jehofa wrth Abraham: “Pam gwnaeth Sara chwerthin a dweud, ‘Ydw i wir am eni plentyn er fy mod i’n hen?’ 14  Ydy unrhyw beth yn amhosib i Jehofa? Bydda i’n dod yn ôl atat ti flwyddyn nesaf ar yr amser penodedig hwn, a bydd gan Sara fab.” 15  Ond dyma Sara’n gwadu’r peth gan ddweud, “Wnes i ddim chwerthin!” oherwydd roedd hi mewn ofn. Ar hyn dywedodd ef: “Do! Fe wnest ti chwerthin.” 16  Pan gododd y dynion i adael ac edrychon nhw i lawr tua Sodom, roedd Abraham yn cerdded gyda nhw i’w tywys nhw. 17  Dywedodd Jehofa: “Ydw i’n cuddio’r hyn rydw i am ei wneud oddi wrth Abraham? 18  Mae Abraham yn sicr o ddod yn genedl fawr a chryf, a bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio drwyddo ef. 19  Oherwydd rydw i wedi dod i’w adnabod ef er mwyn iddo allu gorchymyn i’w feibion a’i deulu ar ei ôl i gadw ffordd Jehofa drwy wneud yr hyn sy’n iawn ac yn deg, er mwyn i Jehofa allu gwneud yr hyn mae wedi ei addo ynglŷn ag Abraham.” 20  Yna dywedodd Jehofa: “Mae’r gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn wir yn fawr, ac mae eu pechod yn ddifrifol* iawn. 21  Fe wna i fynd i lawr i weld a ydyn nhw’n ymddwyn yn ôl y gŵyn sydd wedi fy nghyrraedd i. Ac os ddim, galla i ddod i wybod am y peth.” 22  Yna aeth y dynion oddi yno tuag at Sodom, ond arhosodd Jehofa gydag Abraham. 23  Yna daeth Abraham yn nes a dywedodd: “A fyddi di’n wir yn cael gwared ar y cyfiawn ynghyd â’r drygionus? 24  Petai ’na 50 o ddynion cyfiawn yn y ddinas, a fyddi di’n cael gwared arnyn nhw, heb faddau i’r lle er mwyn y 50 cyfiawn sydd yno? 25  Mae’n amhosib meddwl byddet ti’n ymddwyn fel ’na drwy ladd y dyn cyfiawn gyda’r un drwg fel bod y canlyniad i’r dyn cyfiawn a’r un drwg yr un fath! Mae’n amhosib meddwl hynny amdanat ti. Oni fydd Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn?” 26  Yna dywedodd Jehofa: “Os bydda i’n dod o hyd i 50 dyn cyfiawn yn Sodom, bydda i’n maddau i’r holl le er eu mwyn nhw.” 27  Ond dyma Abraham yn ateb unwaith eto: “Plîs, rydw i wedi mentro siarad â Jehofa, a dim ond llwch a lludw ydw i. 28  Petai ’na bump yn llai na’r 50 cyfiawn, a fyddi di’n dinistrio’r holl ddinas oherwydd y pump?” Atebodd yntau: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas os oes ’na 45 yno.” 29  Ond siaradodd ef unwaith eto a dywedodd: “Beth petai 40 i’w cael yno?” Atebodd yntau: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y 40.” 30  Ond aeth ymlaen: “Jehofa, plîs, paid â gwylltio gyda mi, ond gad imi barhau i siarad: Beth petai dim ond 30 i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn ei dinistrio os ydw i’n cael hyd i 30 yno.” 31  Ond aeth ymlaen: “Plîs, rydw i wedi mentro siarad â Jehofa: Beth petai dim ond 20 i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y 20.” 32  Yn y diwedd dywedodd ef: “Jehofa, plîs, paid â gwylltio gyda mi, ond gad imi siarad un tro arall: Beth petai dim ond deg i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y deg.” 33  Pan oedd Jehofa wedi gorffen siarad ag Abraham, aeth i ffwrdd ac aeth Abraham yn ôl i’w babell.

Troednodiadau

Llyth., “er mwyn cryfhau eich calon.”
Llyth., “mesur sea.” Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.
Neu “yn drwm.”