Yn Ôl Ioan 13:1-38

  • Iesu’n golchi traed ei ddisgyblion (1-20)

  • Iesu’n amlygu Jwdas fel bradychwr (21-30)

  • Gorchymyn newydd (31-35)

    • “Os ydych chi’n caru eich gilydd” (35)

  • Rhagfynegi Pedr yn gwadu (36-38)

13  Cyn Gŵyl y Pasg, roedd Iesu’n gwybod bod ei awr wedi dod iddo adael y byd hwn a mynd at y Tad. Oherwydd ei fod wedi caru ei ddilynwyr a oedd yn byw yn y byd, fe barhaodd i’w caru nhw hyd y diwedd.  Roedden nhw’n bwyta’r swper, ac roedd y Diafol eisoes wedi rhoi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, y syniad i’w fradychu ef.  Gan fod Iesu’n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo a’i fod wedi dod oddi wrth Dduw ac yn mynd at Dduw,  cododd o’r bwrdd a rhoddodd ei gôt ar un ochr. Gan gymryd tywel, dyma’n ei lapio am ei ganol.  Ar ôl hynny, fe roddodd ddŵr i mewn i fowlen a dechrau golchi traed y disgyblion a’u sychu nhw â’r tywel a oedd wedi ei lapio am ei ganol.  Yna fe ddaeth at Simon Pedr. Dywedodd Pedr wrtho: “Arglwydd, wyt ti’n golchi fy nhraed?”  Atebodd Iesu: “Dwyt ti ddim yn deall beth rydw i’n ei wneud nawr, ond fe fyddi di’n deall ar ôl y pethau hyn.”  Dywedodd Pedr wrtho: “Yn bendant, chei di byth olchi fy nhraed i.” Atebodd Iesu: “Oni bai fy mod i’n dy olchi di, dwyt ti ddim yn gallu bod gyda mi.”  Dywedodd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, paid â golchi fy nhraed yn unig, ond hefyd fy nwylo a fy mhen.” 10  Dywedodd Iesu wrtho: “Pwy bynnag sydd wedi ymolchi drosto, does dim angen iddo olchi mwy na’i draed, ond mae’n hollol lân. Ac rydych chi ddynion yn lân, ond nid pob un ohonoch chi.” 11  Oherwydd roedd yn gwybod pwy oedd y dyn a oedd yn ei fradychu. Dyma pam y dywedodd: “Dydy pob un ohonoch chi ddim yn lân.” 12  Ar ôl iddo olchi eu traed a rhoi ei gôt amdano, cymerodd ei le wrth y bwrdd eto a dywedodd wrthyn nhw: “Ydych chi’n deall beth rydw i wedi ei wneud ichi? 13  Rydych chi’n fy ngalw i’n ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd,’ ac rydych chi’n gywir, oherwydd dyna beth ydw i. 14  Felly, os gwnes i, yr Arglwydd a’r Athro, olchi eich traed chi, dylech chithau hefyd* olchi traed eich gilydd. 15  Oherwydd rydw i’n gosod y patrwm ichi, sef y dylech chithau hefyd wneud yn union beth rydw i wedi ei wneud i chi. 16  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, dydy caethwas ddim yn fwy na’i feistr, a dydy’r un sy’n cael ei anfon ddim yn fwy na’r un a wnaeth ei anfon. 17  Os ydych chi’n gwybod y pethau hyn, rydych chi’n hapus os ydych chi’n eu gwneud nhw. 18  Dydw i ddim yn siarad amdanoch chi i gyd; rydw i’n gwybod pwy ydy’r rhai rydw i wedi eu dewis. Ond roedd hyn er mwyn i’r ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Mae’r un a oedd yn bwyta’r bara gyda mi wedi codi ei sawdl yn fy erbyn i.’* 19  O’r foment hon ymlaen, rydw i’n dweud wrthoch chi cyn i’r peth ddigwydd, felly, pan fydd yn digwydd, gallwch chi gredu mai fi ydy ef. 20  Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, mae pwy bynnag sy’n derbyn rhywun rydw i’n ei anfon yn fy nerbyn innau hefyd, ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i hefyd yn derbyn yr Un a wnaeth fy anfon i.” 21  Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, dyma Iesu’n cynhyrfu drwyddo, ac fe dystiolaethodd, gan ddweud: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i.” 22  Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, oherwydd doedd ganddyn nhw ddim clem pwy roedd ef yn siarad amdano. 23  Roedd un o’r disgyblion, yr un roedd Iesu’n ei garu, yn eistedd yn agos at Iesu. 24  Felly dyma Simon Pedr yn nodio ei ben ar hwnnw ac yn dweud wrtho: “Dyweda wrthon ni am bwy mae’n sôn.” 25  Felly gwnaeth y disgybl hwn bwyso yn ôl ar frest Iesu a dweud wrtho: “Arglwydd, pwy ydy ef?” 26  Atebodd Iesu: “Yr un y bydda i’n rhoi iddo’r darn o fara rydw i’n ei ddipio.” Felly ar ôl dipio’r bara, dyma’n ei gymryd a’i roi i Jwdas, mab Simon Iscariot. 27  Ar ôl i Jwdas gymryd y darn o fara, aeth Satan i mewn iddo. Felly dywedodd Iesu wrtho: “Yr hyn rwyt ti’n ei wneud, gwna hynny’n gyflymach.” 28  Fodd bynnag, doedd neb o’r rhai a oedd yn eistedd wrth y bwrdd yn gwybod pam y dywedodd Iesu hyn wrtho. 29  Yn wir, gan fod Jwdas yn dal y blwch arian, roedd rhai yn meddwl bod Iesu’n dweud wrtho, “Pryna beth rydyn ni’n ei angen ar gyfer yr ŵyl,” neu y dylai roi rhywbeth i’r tlawd. 30  Felly ar ôl iddo dderbyn y darn o fara, fe aeth allan ar unwaith. Ac roedd hi’n nos. 31  Felly, ar ôl iddo fynd allan, dywedodd Iesu: “Nawr mae Mab y dyn yn cael ei ogoneddu, ac mae Duw’n cael ei ogoneddu trwyddo ef. 32  Bydd Duw ei hun yn ei ogoneddu, ac fe fydd yn ei ogoneddu ef ar unwaith. 33  Blant bach, rydw i gyda chi am ychydig mwy o amser. Fe fyddwch chi’n chwilio amdana i; ac yn union fel y dywedais wrth yr Iddewon, ‘Lle rydw i’n mynd dydych chi ddim yn gallu dod,’ rydw i nawr yn dweud wrthoch chithau hefyd. 34  Rydw i’n rhoi gorchymyn newydd ichi: Mae’n rhaid ichi garu eich gilydd; yn union fel rydw i wedi eich caru chi, dylech chithau garu eich gilydd hefyd. 35  Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.” 36  Dywedodd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, ble rwyt ti’n mynd?” Atebodd Iesu: “Lle rydw i’n mynd, dwyt ti ddim yn gallu fy nilyn i nawr, ond fe fyddi di’n dilyn yn nes ymlaen.” 37  Dywedodd Pedr wrtho: “Arglwydd, pam dydw i ddim yn gallu dy ddilyn di nawr? Fe wna i aberthu fy mywyd drostot ti.” 38  Atebodd Iesu: “A wnei di aberthu dy fywyd drosto i? Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, ni fydd ceiliog yn canu ar unrhyw gyfri nes dy fod ti wedi fy ngwadu i dair gwaith.”

Troednodiadau

Neu “rydych chithau hefyd o dan ddyletswydd i.”
Neu “wedi troi yn fy erbyn i.”