Y Cyntaf at Timotheus 6:1-21

  • Caethweision i anrhydeddu eu meistri (1, 2)

  • Gau athrawon a chariad at arian (3-10)

  • Cyfarwyddiadau i weision Duw (11-16)

  • Bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da (17-19)

  • Gwarchod beth sydd yn dy ofal di (20, 21)

6  Dylai’r rhai sy’n gaethweision barhau i ystyried eu meistri yn deilwng o anrhydedd llawn, fel nad oes neb yn gallu lladd ar enw Duw na’i ddysgeidiaeth.  Ar ben hynny, dylai’r rhai sydd â meistri Cristnogol beidio â bod yn amharchus tuag atyn nhw oherwydd eu bod nhw’n frodyr. Yn hytrach, dylen nhw fod yn fwy awyddus i wasanaethu, oherwydd bod y rhai sy’n elwa ar eu gwasanaeth da yn gredinwyr ac yn annwyl. Dal ati i ddysgu’r pethau hyn i eraill ac i roi’r anogaeth hwn.  Os oes unrhyw ddyn yn dysgu athrawiaeth wahanol, ac nid yw’n cytuno â’r cyfarwyddyd buddiol sydd wedi dod oddi wrth ein Harglwydd Iesu Grist, nac yn cytuno â’r ddysgeidiaeth sy’n unol â defosiwn duwiol,  mae’n llawn balchder ac nid yw’n deall unrhyw beth. Mae ganddo obsesiwn afiach â chweryla a dadlau dros eiriau. Mae’r pethau hyn yn arwain i genfigen, codi twrw,* siarad cas, amheuon drwg am bobl eraill,  ffraeo di-baid am bethau bach gan ddynion sydd â meddwl llwgr ac sydd ddim yn deall y gwir bellach, gan feddwl bod defosiwn duwiol yn ffordd o gael mantais bersonol.  Yn wir, mae ’na fantais fawr yn dod gyda defosiwn duwiol ynghyd â bodlonrwydd.  Oherwydd dydyn ni ddim wedi dod ag unrhyw beth i mewn i’r byd, a dydyn ni ddim yn gallu mynd ag unrhyw beth allan ohono chwaith.  Felly, gan fod gynnon ni fwyd a dillad,* byddwn ni’n fodlon ar y pethau hyn.  Ond mae’r rhai sy’n benderfynol o fod yn gyfoethog yn disgyn i mewn i demtasiwn a magl a llawer o chwantau disynnwyr a niweidiol sy’n bwrw dynion i mewn i ddinistr llwyr. 10  Oherwydd mae cariad at arian wrth wraidd pob math o bethau niweidiol, a thrwy estyn allan at y cariad hwn mae rhai wedi cael eu harwain i ffwrdd oddi wrth y ffydd ac wedi eu trywanu eu hunain dros eu cyrff i gyd â llawer o boenau. 11  Fodd bynnag, dylet tithau, sy’n was i Dduw, ffoi rhag y pethau hyn. Ond ceisia gyfiawnder, defosiwn duwiol, ffydd, cariad, dyfalbarhad, ac addfwynder. 12  Brwydra ym mrwydr dda y ffydd; gafaela yn dynn yn y bywyd tragwyddol. Mae Duw wedi dy alw di i dderbyn y bywyd hwn, ac fe wnest ti siarad yn gyhoeddus am y bywyd hwn o flaen llawer o dystion. 13  O flaen Duw, sy’n cadw pob peth yn fyw, ac o flaen Crist Iesu, a roddodd dystiolaeth dda yn gyhoeddus o flaen Pontius Peilat, rydw i’n dy orchymyn di 14  i gadw’r gorchymyn mewn ffordd ddi-nam heb fai ar dy gymeriad hyd nes i’n Harglwydd Iesu Grist ymddangos. 15  Ar yr amser penodedig, bydd y Pennaeth hapus yn ei amlygu ei hun. Mae ef yn Frenin ar y rhai sy’n rheoli fel brenhinoedd ac yn Arglwydd ar y rhai sy’n rheoli fel arglwyddi, 16  yr unig un anfarwol, sy’n byw mewn goleuni na all neb fynd yn agos ato, un nad oes neb wedi ei weld nac yn gallu ei weld. Mae’r anrhydedd a’r nerth tragwyddol yn perthyn iddo ef. Amen. 17  Gorchymyn y rhai sy’n gyfoethog yn y system bresennol* i beidio â bod yn hunanbwysig, ac i roi eu gobaith, nid mewn cyfoeth ansicr, ond yn Nuw, sy’n darparu’n hael yr holl bethau rydyn ni’n eu mwynhau. 18  Dyweda wrthyn nhw am wneud daioni, am fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, am fod yn hael, yn barod i rannu, 19  gan osod sylfaen dda a diogel iddyn nhw eu hunain fel trysor ar gyfer y dyfodol, fel eu bod nhw’n gallu gafael yn dynn yn y bywyd go iawn. 20  Timotheus, gwarchoda’r hyn sydd wedi cael ei roi yn dy ofal di, gan droi i ffwrdd oddi wrth siarad gwag sy’n diystyru beth sy’n sanctaidd ac oddi wrth yr hyn sy’n cael ei alw ar gam yn “wybodaeth,” gwybodaeth sy’n gwrth-ddweud yr hyn sy’n wir. 21  Drwy wneud sioe fawr o’r fath wybodaeth, mae rhai wedi crwydro oddi wrth y ffydd. Rydw i’n dymuno i’r caredigrwydd rhyfeddol fod gyda ti.

Troednodiadau

Neu “cwffio; ymladd.”
Neu efallai, “a chysgod.”
Neu “yr oes bresennol.” Gweler Geirfa.