Genesis 19:1-38
19 Cyrhaeddodd y ddau angel Sodom gyda’r hwyr, ac roedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan wnaeth Lot eu gweld nhw, fe gododd i’w cyfarfod nhw a phlygu i lawr gyda’i wyneb tua’r ddaear.
2 Ac fe ddywedodd: “Plîs, fy arglwyddi, dewch, plîs, i dŷ eich gwas ac arhoswch dros nos a gadewch i rywun olchi eich traed. Yna codwch yn gynnar ac ewch ar eich taith.” Atebon nhw: “Na, rydyn ni’n mynd i aros dros nos yn y sgwâr cyhoeddus.”
3 Ond gan ei fod yn erfyn yn daer arnyn nhw fe aethon nhw gydag ef i mewn i’w dŷ. Yna fe wnaeth wledd iddyn nhw, a phobi bara croyw, a dyma nhw’n bwyta.
4 Ond cyn iddyn nhw orwedd i lawr i gysgu, gwnaeth dynion y ddinas—dynion Sodom, hen ac ifanc, pawb ohonyn nhw—amgylchynu’r tŷ yn un dyrfa swnllyd.
5 Ac roedden nhw’n dal i alw ar Lot gan ddweud wrtho: “Ble mae’r dynion a ddaeth i mewn i dy dŷ heno? Tyrd â nhw allan er mwyn inni fedru cael rhyw gyda nhw.”
6 Yna aeth Lot allan atyn nhw i’r drws, a chau’r drws y tu ôl iddo.
7 Fe ddywedodd: “Plîs, fy mrodyr, peidiwch â gwneud rhywbeth mor ddrwg.
8 Plîs, edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. Plîs, gadewch imi ddod â nhw allan atoch chi er mwyn ichi fedru gwneud iddyn nhw fel rydych chi’n dymuno. Ond peidiwch â gwneud dim i’r dynion hyn, oherwydd eu bod nhw wedi dod o dan gysgod fy nho.”
9 Ond medden nhw: “Dos allan o’r ffordd!” Ac fe ychwanegon nhw: “Mae’r dieithryn unig hwn wedi dod yma i fyw, ac eto mae’n meiddio ein beirniadu ni! Nawr rydyn ni’n mynd i wneud yn waeth i ti nag iddyn nhw.” A dyma nhw’n gwthio* yn erbyn Lot a symud yn eu blaenau i dorri’r drws i lawr.
10 Felly gwnaeth y dynion a oedd y tu mewn i’r tŷ estyn eu dwylo a thynnu Lot i mewn i’r tŷ gyda nhw, a chau’r drws.
11 Ond fe wnaethon nhw daro’r dynion a oedd wrth ddrws y tŷ yn ddall, yr hen a’r ifanc, nes iddyn nhw flino’n lân yn ceisio chwilio am y drws.
12 Yna dywedodd y dynion wrth Lot: “Oes gen ti unrhyw un arall yma? Dos â dy feibion-yng-nghyfraith, dy feibion, dy ferched, ac unrhyw deulu arall yn y ddinas allan o’r lle hwn!
13 Oherwydd rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r lle hwn, gan fod y gŵyn yn eu herbyn nhw yn wir yn fawr iawn gerbron Jehofa, fel bod Jehofa wedi ein hanfon ni i ddinistrio’r ddinas.”
14 Felly aeth Lot allan a dechrau siarad â’i feibion-yng-nghyfraith a oedd am briodi ei ferched, ac roedd yn dal i ddweud: “Codwch! Ewch allan o’r lle hwn, oherwydd bod Jehofa yn mynd i ddinistrio’r ddinas!” Ond roedd ei feibion-yng-nghyfraith yn meddwl ei fod yn tynnu coes.
15 Ar doriad gwawr, gwnaeth yr angylion geisio gwneud i Lot frysio, gan ddweud: “Cod! Dos â dy wraig a dy ddwy ferch sydd gyda ti yn y tŷ, rhag ofn ichi gael eich ysgubo i ffwrdd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio o ganlyniad i’w phechod!”
16 Pan oedd yn dal i oedi, dangosodd Jehofa drugaredd tuag ato, felly cydiodd y dynion yn ei law ac yn llaw ei wraig ac yn nwylo ei ferched, a mynd â nhw a’u gosod y tu allan i’r ddinas.
17 Unwaith iddyn nhw fynd â nhw y tu allan i’r ddinas, dywedodd un ohonyn nhw: “Dianc am dy fywyd! Paid ag edrych y tu ôl iti a phaid â sefyll yn stond yn unrhyw le yn y rhanbarth! Dianc i’r mynyddoedd fel na fyddi di’n cael dy ysgubo i ffwrdd!”
18 Yna dywedodd Lot wrthyn nhw: “Nid i fan ’na, plîs, Jehofa!
19 Plîs, mae dy was wedi ennill ffafr yn dy olwg ac rwyt ti’n garedig iawn tuag ata i drwy fy nghadw i’n fyw, ond dydw i ddim yn gallu dianc i’r mynyddoedd oherwydd fy mod i’n ofni y bydd trychineb yn dod arna i a bydda i’n marw.
20 Plîs, mae’r dref hon yn agos ac fe fedra i ddianc yno; mae ond yn lle bach. Ga i, plîs, ddianc yno? Mae ond yn lle bach. Yna fe alla i oroesi.”
21 Felly dywedodd yntau wrtho: “O’r gorau, fe wna i ganiatáu’r hyn rwyt ti’n gofyn amdano drwy beidio â dinistrio’r dref rwyt ti’n siarad amdani.
22 Brysia! Dianc yno, oherwydd dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth nes dy fod ti wedi cyrraedd yno!” Dyna pam y rhoddodd yr enw Soar* ar y dref.
23 Roedd yr haul wedi codi dros y tir pan wnaeth Lot gyrraedd Soar.
24 Yna achosodd Jehofa iddi fwrw sylffwr a thân ar Sodom a Gomorra—fe ddaeth o Jehofa, o’r nefoedd.
25 Felly dinistriodd y dinasoedd hyn, y rhanbarth cyfan, gan gynnwys holl drigolion y dinasoedd a phlanhigion y tir.
26 Ond gwnaeth gwraig Lot, a oedd y tu ôl iddo, ddechrau edrych yn ôl, ac fe ddaeth hi’n golofn o halen.
27 Nawr cododd Abraham yn gynnar yn y bore a mynd i’r fan lle roedd wedi sefyll o flaen Jehofa.
28 Pan edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra a holl dir y rhanbarth, fe welodd olygfa ddychrynllyd. Roedd mwg trwchus yn codi o’r tir fel mwg trwchus o ffwrnais!
29 Felly pan ddinistriodd Duw holl ddinasoedd y rhanbarth, gwnaeth Duw gadw Abraham mewn cof drwy anfon Lot allan o’r dinasoedd y gwnaeth ef eu dinistrio, y dinasoedd lle roedd Lot wedi bod yn byw.
30 Yn ddiweddarach aeth Lot i fyny o Soar gyda’i ddwy ferch a dechrau byw yn yr ardal fynyddig, oherwydd ei fod yn ofni byw yn Soar. Felly dechreuodd fyw mewn ogof gyda’i ddwy ferch.
31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Mae ein tad yn hen, a does ’na ddim un dyn yn y wlad i roi plant inni fel mae pobl eraill yn gwneud.
32 Tyrd, gad inni roi gwin i’n tad i’w yfed, a chysgu gydag ef er mwyn inni gael plant drwyddo.”*
33 Felly, y noson honno dyma nhw’n dechrau rhoi gwin i’w tad nes iddo feddwi; yna aeth yr hynaf i mewn ato a chysgu gyda’i thad, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi.
34 Y diwrnod wedyn, dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Gwnes i gysgu gyda fy nhad neithiwr. Gad inni roi gwin iddo i’w yfed heno hefyd. Yna dos di i mewn a chysgu gydag ef, a gad inni gael plant drwyddo.”
35 Felly, y noson honno hefyd gwnaethon nhw roi llawer o win i’w tad i’w yfed; yna aeth yr ieuengaf i mewn i gysgu gydag ef, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi.
36 Felly daeth dwy ferch Lot yn feichiog drwy eu tad.
37 Cafodd yr hynaf fab a’i alw’n Moab. Ef yw tad y Moabiaid heddiw.
38 Cafodd yr ieuengaf fab hefyd, a’i alw’n Ben-ammi. Ef yw tad yr Ammoniaid heddiw.
Troednodiadau
^ Neu “pwyso’n drwm.”
^ Sy’n golygu “Bychander; Bach.”
^ Neu “er mwyn diogelu llinach ein tad.”