Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Iesu’n Cael Ei Alw’n Fab Duw?

Pam Mae Iesu’n Cael Ei Alw’n Fab Duw?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn cyfeirio at Iesu yn aml fel “Mab Duw.” (Ioan 1:49, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’r ymadrodd “Mab Duw” yn cydnabod Duw fel Creawdwr neu Ffynhonnell pob bywyd, gan gynnwys bywyd Iesu. (Salm 36:9; Datguddiad 4:11) Nid yw’r Beibl yn dweud bod Duw wedi dod yn dad i Iesu yn yr un modd ag y mae bodau dynol yn cael plant.

 Mae’r Beibl yn galw’r angylion hefyd yn “feibion Duw.” (Job 1:6, Beibl Cysegr-lân) Ac mae’r Beibl yn dweud mai “mab Duw” oedd y dyn cyntaf, Adda. (Luc 3:38) Sut bynnag, Iesu oedd yr un cyntaf i Dduw ei greu, a’r unig un i gael ei greu’n uniongyrchol gan Dduw. Felly yn y Beibl, ef yw Mab Duw yn yr ystyr mwyaf pwysig.

 Oedd Iesu’n byw yn y nef cyn iddo ddod i’r ddaear?

 Oedd. Roedd Iesu’n byw yn y nef cyn iddo gael ei eni ar y ddaear. Iesu ei hun a ddywedodd: “Yr wyf wedi disgyn o’r nef.”—Ioan 6:38, BCND; 8:23.

 Creodd Duw Iesu cyn iddo greu unrhyw beth arall. Mae’r Beibl yn dweud am Iesu:

  •   “Hwn yw . . . cyntafanedig yr holl greadigaeth.”—Colosiaid 1:15, BCND.

  •   Ef yw “dechreuad creadigaeth Duw.”—Datguddiad 3:14, BCND.

 Iesu a gyflawnodd y broffwydoliaeth am yr un sydd “a’i wreiddiau yn mynd yn ôl i’r dechrau yn y gorffennol pell.”—Micha 5:2; Mathew 2:4-6.

 Beth roedd Iesu’n ei wneud cyn iddo ddod i’r ddaear?

 Roedd gan Iesu safle anrhydeddus yn y nefoedd. Cyfeiriodd Iesu at y safle hwnnw wrth weddïo: “Dad, rho i mi eto yr anrhydedd . . . oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i’r byd ddechrau.”—Ioan 17:5.

 Gweithiodd gyda’i Dad, gan helpu i greu popeth arall. Gweithiodd Iesu “fel crefftwr” wrth ochr Duw. (Diarhebion 8:30) Ynglŷn â Iesu, mae’r Beibl yn dweud: “Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.”—Colosiaid 1:16, BCND.

 Gweithiodd Duw drwy Iesu i greu popeth arall. Mae’r greadigaeth hon yn cynnwys yr angylion eraill, yn ogystal â’r bydysawd materol. (Datguddiad 5:11) Mewn rhai ffyrdd, gellir cymharu’r cydweithio rhwng Duw a Iesu â’r berthynas rhwng pensaer ac adeiladwr. Y pensaer sy’n paratoi’r cynllun, a’r adeiladwr sy’n gwireddu syniadau’r pensaer.

 Iesu oedd y Gair. Wrth sôn am fywyd Iesu cyn iddo ddod i’r ddaear, mae’r Beibl yn cyfeirio ato fel “y Gair.” (Ioan 1:1) Ystyr hyn, mae’n debyg, yw bod Duw yn defnyddio ei Fab i gyfleu gwybodaeth a chyfarwyddiadau i fodau nefol eraill.

 Ymddengys fod Iesu hefyd wedi siarad â bodau dynol ar y ddaear ar ran Duw. Mae’n debyg bod Duw wedi defnyddio Iesu fel y Gair i siarad ag Adda ac Efa yng ngardd Eden. (Genesis 2:16, 17) Iesu efallai oedd yr angel a arweiniodd yr Israeliaid gynt drwy’r anialwch, yr un yr oedd yr Israeliaid i wrando’n ofalus ar ei lais.—Exodus 23:20-23. a

a Roedd Duw yn llefaru drwy angylion eraill yn ogystal â’r Gair. Er enghraifft, defnyddiodd angylion eraill yn hytrach na’i Gyntaf-anedig i roi’r Gyfraith i’r Israeliaid gynt.—Actau 7:53; Galatiaid 3:19; Hebreaid 2:2, 3.