Neidio i'r cynnwys

Ai Iesu Yw Enw Duw?

Ai Iesu Yw Enw Duw?

Ateb y Beibl

 Cyfeiriodd Iesu at ei hun fel “Mab Duw.” (Ioan 10:36; 11:4) Ni wnaeth Iesu erioed gyfeirio at ei hun fel Duw Hollalluog.

 Ar ben hyn, gweddïodd Iesu ar Dduw. (Mathew 26:39) Ac wrth iddo ddysgu ei ddilynwyr sut i weddïo, dywedodd Iesu: “Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.”—Mathew 6:9.

 Datgelodd Iesu enw Duw pan ddyfynnodd hen ddarn o Ysgrythur gan ddweud: “Clyw, Israel; Iehofah ein Duw, un Iehofah yw.”—Marc 12:29, Thomas Briscoe; Deuteronomium 6:4.