Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 2

Pwy Yw Duw?

Pwy Yw Duw?

1. Pam y dylen ni addoli Duw?

Y gwir Dduw yw Creawdwr pob peth. Nid oedd ganddo ddechreuad ac ni fydd ganddo ddiwedd. (Salm 90:2) Ef yw Ffynhonnell y newyddion da sydd yn y Beibl. (1 Timotheus 1:11) Gan mai Duw a roddodd fywyd inni, dylen ni addoli ef a neb arall.​—Darllenwch Datguddiad 4:11.

2. Sut un yw Duw?

Ysbryd yw Duw ac felly nid oes neb dynol erioed wedi ei weld. Mae Duw yn ffurf uwch ar fywyd na’r creaduriaid sy’n byw ar y ddaear. (Ioan 1:18; 4:24) Er hynny, rydyn ni’n gweld natur a meddwl Duw yn y pethau y mae wedi eu creu. Er enghraifft, mae’r amrywiaeth o ffrwythau a blodau yn dangos ei gariad a’i ddoethineb. Mae maint y bydysawd yn dangos ei rym.​—Darllenwch Rhufeiniaid 1:20.

Fe allwn ni ddysgu mwy am feddwl Duw drwy ddarllen y Beibl. Mae’n dweud wrthon ni beth sy’n plesio Duw a beth nad yw’n ei blesio. Mae’n dangos sut y mae’n trin pobl a sut y mae’n ymateb i wahanol sefyllfaoedd.​—Darllenwch Salm 103:7-10.

3. A oes gan Dduw enw?

Dywedodd Iesu: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.” (Mathew 6:9) Er bod gan Dduw sawl teitl, dim ond un enw sydd ganddo. Mae’r enw yn cael ei ynganu’n wahanol mewn ieithoedd gwahanol. Yr ynganiad Cymraeg yw “Jehofah.” Ond mae rhai pobl yn dweud “Iafe.”​—Darllenwch Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-lân.

Mewn llawer o Feiblau, mae enw Duw wedi cael ei ddileu, a theitlau fel Arglwydd neu Dduw wedi eu rhoi yn ei le. Ond pan ysgrifennwyd y Beibl, roedd enw Duw yn y testun oddeutu 7,000 o weithiau. Roedd Iesu’n gwneud enw Duw’n hysbys.​—Darllenwch Ioan 17:26.

Gwyliwch y fideo Oes Gan Dduw Enw?

4. A oes gan Jehofah ddiddordeb ynon ni?

Fel y tad cariadus hwn, mae Duw yn gweithredu er ein lles yn y tymor hir

Ydy’r dioddefaint yn y byd yn golygu nad oes gan Dduw ddiddordeb ynon ni? Mae rhai pobl yn dweud mai dioddefaint yw ffordd Duw o’n profi ni, ond nid yw hynny’n wir.​—Darllenwch Iago 1:13.

Mae Duw wedi anrhydeddu dyn drwy roi ewyllys rhydd iddo. Onid ydyn ni’n ddiolchgar ein bod ni’n gallu dewis gwasanaethu Duw o’n gwirfodd? (Josua 24:15) Ond mae llawer yn dewis gwneud drwg i eraill, ac felly mae dioddefaint yn parhau. Mae Jehofah yn teimlo’n drist o weld y fath anghyfiawnder.​—Darllenwch Genesis 6:5, 6.

Mae Jehofah yn ein caru ni ac yn dymuno inni fwynhau ein bywydau. Yn fuan, fe fydd yn cael gwared ar yr holl ddioddefaint yn y byd ac ar y rhai sydd yn ei achosi. Yn y cyfamser, mae rheswm da ganddo dros ganiatáu i ddioddefaint barhau dros dro. Yng Ngwers 8, byddwn ni’n dysgu am y rheswm hwnnw.​—Darllenwch 2 Pedr 2:9; 3:7, 13.

5. Sut gallwn ni nesáu at Dduw?

Mae Jehofah yn ein gwahodd ni i weddïo arno. Mae ganddo ddiddordeb ym mhob un ohonon ni. (Salm 65:2; 145:18) Mae’n barod i faddau inni. Mae’n gweld yr ymdrech rydyn ni’n ei gwneud i’w blesio, hyd yn oed os ydyn ni’n methu ar adegau. Felly, er gwaethaf ein ffaeleddau, mae hi’n bosibl inni gael perthynas agos â Duw.​—Darllenwch Salm 103:12-14; Iago 4:8.

Gan fod Jehofah wedi rhoi bywyd inni, dylen ni ei garu yn fwy na neb arall. (Marc 12:30) Trwy ddysgu amdano ac ufuddhau iddo, byddwch yn dangos eich bod chi’n ei garu a byddwch yn teimlo’n agosach ato.​—Darllenwch 1 Timotheus 2:4; 1 Ioan 5:3.