Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 4

Pwy Yw Iesu Grist?

Pwy Yw Iesu Grist?

1. O le daeth Iesu?

Pam roedd hi’n hawdd mynd at Iesu?—MATHEW 11:29; MARC 10:13-16.

Yn wahanol i fodau dynol, roedd Iesu’n byw fel angel yn y nefoedd cyn iddo gael ei eni ar y ddaear. (Ioan 8:23) Iesu oedd creadigaeth gyntaf Duw ac fe helpodd Duw i greu pob peth arall. Ef yw’r unig un i gael ei greu’n uniongyrchol gan Jehofah, ac felly mae’n cael ei ddisgrifio fel “unig Fab” Duw. (Ioan 1:14) Teitl arall arno yw “y Gair” oherwydd Llefarydd Duw yw Iesu.​—Darllenwch Diarhebion 8:22, 23, 30; Colosiaid 1:15, 16.

2. Pam daeth Iesu i’r ddaear?

Anfonodd Duw ei Fab i’r ddaear drwy drosglwyddo ei fywyd i groth Iddewes ifanc o’r enw Mair. Felly, nid oedd gan Iesu dad dynol. (Luc 1:30-35) Daeth Iesu i’r ddaear (1) i ddysgu’r gwirionedd am Dduw, (2) i osod esiampl o ran gwneud ewyllys Duw, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd, a (3) i roi ei fywyd perffaith “yn bridwerth.”​—Darllenwch Mathew 20:28.

3. Pam mae angen pridwerth arnon ni?

Pridwerth yw’r pris a delir yn gyfnewid am fywyd rhywun. (Exodus 21:29, 30) Nid oedd henaint a marwolaeth yn rhan o fwriad gwreiddiol Duw ar gyfer dynolryw. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Dywedodd Duw wrth y dyn cyntaf, Adda, y byddai’n marw petai’n pechu. Felly, pe na byddai Adda wedi pechu, ni fyddai wedi marw. (Genesis 2:16, 17; 5:5) Yn ôl y Beibl, “daeth pechod i’r byd” drwy Adda. Fe wnaeth pob un o ddisgynyddion Adda etifeddu pechod, ac yn sgil hynny, farwolaeth. Mae angen pridwerth i’n rhyddhau ni rhag y farwolaeth rydyn ni wedi ei hetifeddu gan Adda.​—Darllenwch Rhufeiniaid 5:12; 6:23.

Pwy sy’n gallu talu’r pridwerth i’n rhyddhau ni rhag marwolaeth? Pan fyddwn ni’n marw, rydyn ni’n talu am ein pechodau ni ein hunain yn unig. Mae’n amhosibl i rywun amherffaith dalu dros bechodau pobl eraill.​—Darllenwch Salm 49:7-9.

4. Pam roedd rhaid i Iesu farw?

Yn wahanol i ni, roedd Iesu’n berffaith. Doedd dim rhaid i Iesu farw am ei bechodau oherwydd nid oedd erioed wedi pechu. Bu farw Iesu dros bechodau pobl eraill. Dangosodd Duw ei gariad mawr tuag at ddynolryw drwy anfon ei Fab i farw droston ni. Dangosodd Iesu hefyd ei gariad drwy ufuddhau i’w Dad ac aberthu ei fywyd dros ein pechodau.​—Darllenwch Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:18, 19.

Gwyliwch y fideo Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?

5. Beth mae Iesu yn ei wneud nawr?

Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn iacháu’r cleifion, yn atgyfodi’r meirw, ac yn achub pobl mewn perygl. Roedd hyn i gyd yn dangos yr hyn y bydd Iesu yn ei wneud yn y dyfodol ar gyfer pobl ufudd. (Mathew 15:30, 31; Ioan 5:28) Ar ôl i Iesu farw, cafodd ei atgyfodi i fywyd yn y nef. (1 Pedr 3:18) Arhosodd Iesu ar ddeheulaw Duw nes i Jehofah roi’r awdurdod iddo deyrnasu fel Brenin dros y ddaear i gyd. (Hebreaid 10:12, 13) Heddiw, mae Iesu’n Frenin yn y nefoedd, ac mae ei ddilynwyr yn cyhoeddi’r newyddion da am hynny ledled y byd.​—Darllenwch Daniel 7:13, 14; Mathew 24:14.

Cyn bo hir, bydd Iesu’n defnyddio ei awdurdod fel Brenin i roi terfyn ar yr holl ddioddefaint sydd yn y byd ac i ddifa’r rhai sydd yn ei achosi. Bydd pawb sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu drwy ufuddhau iddo yn cael byw am byth mewn paradwys ar y ddaear.​—Darllenwch Salm 37:9-11.