Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 5

Beth Yw Bwriad Duw ar Gyfer y Ddaear?

Beth Yw Bwriad Duw ar Gyfer y Ddaear?

1. Pam y creodd Duw’r ddaear?

Rhoddodd Jehofah y ddaear yn gartref i ddynolryw. Nid er mwyn poblogi’r nefoedd y cafodd Adda ac Efa eu creu, felly, ond er mwyn poblogi’r ddaear. Roedd Jehofah eisoes wedi creu’r angylion i fyw yn y nefoedd. (Job 38:4, 7) Gardd Eden, paradwys hyfryd, oedd cartref y dyn cyntaf. (Genesis 2:15-17) Y gobaith a roddodd Jehofah gerbron Adda a’i ddisgynyddion oedd cael byw am byth ar y ddaear.​—Darllenwch Salm 37:29; 115:16.

Yn wreiddiol, dim ond gardd Eden oedd yn baradwys. Tasg y pâr cyntaf oedd llenwi’r ddaear â’u disgynyddion. Ymhen amser, y bwriad oedd iddyn nhw ymledu trwy’r ddaear a throi’r cyfan yn baradwys. (Genesis 1:28) Ni fydd y ddaear byth yn cael ei dinistrio. Hi yw cartref parhaol dynolryw.​—Darllenwch Salm 104:5.

Gwyliwch y fideo Pam Creodd Duw y Ddaear?

2. Pam nad yw’r ddaear yn baradwys heddiw?

Roedd Adda ac Efa’n anufudd i Dduw, ac felly fe gawson nhw eu troi allan o’r ardd. Collwyd y baradwys ac nid oes neb wedi llwyddo i’w hadfer. Ers hynny, mae drygioni wedi llenwi’r ddaear.​—Darllenwch Genesis 3:23, 24.

Ydy bwriad gwreiddiol Jehofah ar gyfer dynolryw wedi newid? Naddo! Ef yw’r Hollalluog. Mae hi’n amhosibl iddo beidio â llwyddo. (Eseia 45:18) Fe fydd yn adfer yr hil ddynol i’w chyflwr perffaith gwreiddiol.​—Darllenwch Salm 37:11, 34.

3. Sut bydd Paradwys yn cael ei hadfer?

Caiff Paradwys ei hadfer ar y ddaear yn ystod teyrnasiad Iesu fel Brenin Duw. Mewn brwydr o’r enw Armagedon, bydd Iesu yn arwain yr angylion ac yn dinistrio pawb sy’n gwrthwynebu Duw. Yna, bydd Iesu yn carcharu Satan am fil o flynyddoedd. Bydd pobl Dduw yn goroesi oherwydd y bydd Iesu yn eu hamddiffyn ac yn eu harwain. Fe fydden nhw’n cael byw am byth ym Mharadwys ar y ddaear.​—Darllenwch Datguddiad 20:1-3; 21:3, 4.

4. Pa bryd y daw dioddefaint i ben?

Pa bryd y bydd Duw yn rhoi terfyn ar holl ddrygioni’r ddaear? Dywedodd Iesu y byddai “arwydd” yn dangos bod yr amser hwnnw’n agos. Erbyn hyn, mae’r problemau yn y byd yn bygwth bywyd dyn ac yn dangos bod diwedd y drefn sydd ohoni yn agos.​—Darllenwch Mathew 24:3, 7-14, 21, 22.

O’i orsedd yn y nef, bydd Iesu’n teyrnasu dros y ddaear am fil o flynyddoedd, ac yn rhoi terfyn ar bob dioddefaint. (Eseia 9:6, 7; 11:9) Mae Iesu yn Frenin, ond y mae hefyd yn Archoffeiriad, sy’n golygu ei fod yn medru dileu pechodau pob un sy’n caru Duw. Felly, trwy Iesu, bydd Duw yn cael gwared ar salwch, henaint, a marwolaeth.​—Darllenwch Eseia 25:8; 33:24.

5. Pwy fydd yn byw yn y Baradwys sydd i ddod?

Yn Neuaddau’r Deyrnas, byddwch yn cyfarfod pobl sy’n caru Duw ac sydd eisiau dysgu plesio Duw

Bydd pobl sy’n ufudd i Dduw yn cael byw yn y Baradwys. (1 Ioan 2:17) Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr y dylen nhw fynd allan i chwilio am bobl ostyngedig sy’n fodlon dysgu plesio Duw. Heddiw, mae Jehofah yn hyfforddi miliynau o bobl ar gyfer byw yn y Baradwys a fydd yn dod ar y ddaear. (Seffaneia 2:3) Yn Neuaddau’r Deyrnas, sef mannau cyfarfod Tystion Jehofah, mae pobl yn dysgu bod yn wŷr ac yn wragedd gwell ac yn dadau ac yn famau gwell. Mae rhieni a phlant yn addoli gyda’i gilydd ac yn dysgu elwa ar y newyddion da.​—Darllenwch Micha 4:1-4.