Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 12

Sut Gallwch Chi Nesáu at Dduw?

Sut Gallwch Chi Nesáu at Dduw?

1. A yw Duw yn gwrando ar bob gweddi?

Mae Duw yn gwahodd pobl o bob cefndir i nesáu ato drwy weddïo arno. (Salm 65:2) Ond eto, nid yw’n gwrando ar bob gweddi. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd Duw yn gwrando ar weddi dyn sy’n cam-drin ei wraig. (1 Pedr 3:7) Hefyd, pan oedd pobl Israel yn glynu’n ystyfnig wrth ddrygioni, roedd Duw yn gwrthod gwrando ar eu gweddïau. Heb os, braint yw gweddi. Ar y llaw arall, mae Duw yn gwrando ar weddïau pobl sydd wedi pechu’n ddifrifol, os ydyn nhw’n edifarhau.​—Darllenwch Eseia 1:15; 55:7.

Gwyliwch y fideo Ydy Duw yn Gwrando ar Bob Gweddi?

2. Sut dylen ni weddïo?

Gan ein bod ni’n addoli Duw wrth weddïo, dylen ni weddïo ar Jehofah, ein Creawdwr, a neb arall. (Mathew 4:10; 6:9) Ac oherwydd ein bod ni’n amherffaith, dylen ni weddïo yn enw Iesu, yr un a fu farw dros ein pechodau. (Ioan 14:6) Dydy Jehofah ddim eisiau inni ailadrodd gweddïau rydyn ni wedi eu dysgu ar ein cof nac ychwaith eu darllen o ryw lyfr. Y mae’n dymuno inni weddïo arno o’r galon.​—Darllenwch Mathew 6:7; Philipiaid 4:6, 7.

Mae ein Creawdwr yn clywed hyd yn oed y gweddïau rydyn ni’n eu dweud yn ein pennau. (1 Samuel 1:12, 13) Y mae yn ein gwahodd ni i weddïo ar unrhyw adeg, gan gynnwys ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd, cyn pryd o fwyd, ac wrth inni wynebu problemau.​—Darllenwch Salm 55:22; Mathew 15:36.

3. Pam mae Cristnogion yn dod at ei gilydd i addoli?

Mae byw mewn byd sy’n llawn pobl heb ffydd yn Nuw, ac sy’n gwawdio ei addewid am heddwch ar y ddaear, yn ei gwneud hi’n anodd inni nesáu at Dduw. (2 Timotheus 3:1, 4; 2 Pedr 3:3, 13) Mae angen cefnogaeth ein cyd-addolwyr arnon ni.​—Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.

Mae cymdeithasu â phobl sy’n caru Duw yn ein helpu ni i nesáu ato. Mae cyfarfodydd Tystion Jehofah yn rhoi’r cyfle inni gael ein calonogi gan ffydd pobl eraill.​—Darllenwch Rhufeiniaid 1:11, 12.

4. Sut gallwch chi nesáu at Dduw?

Gallwch chi nesáu at Jehofah drwy fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn ei Air. Meddyliwch am ei weithredoedd, ei gyngor, a’i addewidion. Mae gweddïo a myfyrio yn ein helpu ni i werthfawrogi cariad a doethineb Duw.​—Darllenwch Josua 1:8; Salm 1:1-3.

Dim ond drwy ymddiried yn Nuw a rhoi ein ffydd ynddo y gallwn ni deimlo’n agos ato. Mae ffydd yn rhywbeth byw sy’n gorfod cael ei fwydo. Mae’n rhaid ichi borthi eich ffydd yn rheolaidd drwy fyfyrio ar y rhesymau dros eich daliadau.​—Darllenwch Mathew 4:4; Hebreaid 11:1, 6.

5. Sut mae nesáu at Dduw yn dod â bendithion ichi?

Mae Jehofah yn gofalu am y rhai sydd yn ei garu. Y mae’n medru eu hamddiffyn rhag unrhyw beth sy’n peryglu eu ffydd a’u gobaith am fywyd tragwyddol. (Salm 91:1, 2, 7-10) Mae Duw yn ein rhybuddio ni rhag byw mewn ffordd sy’n difetha ein hiechyd a’n hapusrwydd. Mae Jehofah yn dangos inni’r ffordd orau i fyw.​—Darllenwch Salm 73:27, 28; Iago 4:4, 8.