Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 9

Sut Gallwch Chi Fod yn Hapus Fel Teulu?

Sut Gallwch Chi Fod yn Hapus Fel Teulu?

1. Pam mae priodas yn hanfodol ar gyfer bywyd teuluol hapus?

Mae’r newyddion da yn dod oddi wrth y Duw hapus Jehofah sy’n dymuno i deuluoedd fod yn hapus. (1 Timotheus 1:11) Trefniant wedi ei sefydlu gan Dduw yw priodas. Mae priodi yng ngolwg y gyfraith yn hanfodol i fywyd teuluol hapus oherwydd ei fod yn creu awyrgylch sefydlog ar gyfer magu plant. Dylai Cristnogion barchu cyfraith y wlad ynglŷn â chofrestru priodasau.​—Darllenwch Luc 2:1, 4, 5.

Beth yw agwedd Duw tuag at briodas? Y mae’n dymuno iddi fod yn bartneriaeth barhaol rhwng dyn a dynes. Mae Jehofah yn dymuno i’r gŵr a’r wraig aros yn ffyddlon i’w gilydd. (Hebreaid 13:4) Y mae’n casáu ysgariad. (Malachi 2:16) Ond, os yw un partner yn anffyddlon yn rhywiol, y mae’n caniatáu i Gristnogion ysgaru ac ail-briodi.​—Darllenwch Mathew 19:3-6, 9.

2. Sut dylai gŵr a gwraig drin ei gilydd?

Mae Jehofah wedi creu gwŷr a gwragedd i gefnogi ei gilydd mewn priodas. (Genesis 2:18) Ac yntau’n ben ar y teulu, cyfrifoldeb y gŵr yn bennaf yw darparu’n faterol ar gyfer aelodau’r teulu a’u dysgu nhw am Dduw. Dylai cariad y gŵr tuag at ei wraig fod yn anhunanol. Dylai’r gŵr a’r wraig ddangos cariad a pharch tuag at ei gilydd. Gan fod pob gŵr a gwraig yn amherffaith, mae dysgu maddau i’w gilydd yn hanfodol mewn priodas.​—Darllenwch Effesiaid 4:31, 32; 5:22-25, 33; 1 Pedr 3:7.

3. A ddylech chi roi’r gorau i briodas anhapus?

Os ydych chi’n cael problemau yn eich priodas, dylech chi weithio’n galed i ddangos cariad tuag at eich gilydd. (1 Corinthiaid 13:4, 5) Nid yw Gair Duw o blaid gwahanu fel modd i ddatrys problemau sy’n gyffredin mewn priodasau.​—Darllenwch 1 Corinthiaid 7:10-13.

4. Chi blant, beth mae Duw yn dymuno ichi ei gael?

Mae Jehofah yn dymuno ichi fod yn hapus. Mae’n rhoi’r cyngor gorau posibl ar sut i fwynhau eich ieuenctid. Y mae’n dymuno ichi fanteisio ar ddoethineb a phrofiadau eich rhieni. (Colosiaid 3:20) Mae Jehofah hefyd eisiau ichi brofi’r hapusrwydd sy’n dod o wasanaethu eich Creawdwr a’i Fab.​—Darllenwch Pregethwr 11:9–12:1; Mathew 19:13-15; 21:15, 16.

5. Chi rieni, beth fydd yn rhoi gwir hapusrwydd i’ch plant?

Mae’n bwysig ichi weithio’n galed i roi bwyd, dillad, a rhywle i fyw i’ch plant. (1 Timotheus 5:8) Ond er mwyn i’ch plant fod yn hapus, mae angen iddyn nhw wybod sut i garu Duw a dysgu oddi wrtho. (Effesiaid 6:4) Mae eich esiampl yn hyn o beth yn gallu dylanwadu’n fawr ar galon eich plentyn. Drwy ddysgu eich plentyn ar sail Gair Duw, gallwch chi effeithio ar ei feddwl mewn modd cadarnhaol.​—Darllenwch Deuteronomium 6:4-7; Diarhebion 22:6.

Mae’n bwysig iawn ichi ganmol a chalonogi eich plant. Mae angen eu cywiro a’u disgyblu hefyd. Mae hyfforddiant yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau trist ymddygiad drwg. (Diarhebion 22:15) Ond ni ddylai disgyblaeth byth fod yn llym neu’n greulon.​—Darllenwch Colosiaid 3:21.

Mae Tystion Jehofah wedi cyhoeddi sawl llyfr pwrpasol i helpu rhieni a phlant. Mae’r llyfrau hyn wedi eu seilio ar y Beibl.​—Darllenwch Salm 19:7, 11.