Neidio i'r cynnwys

A Yw Proffwydoliaethau Meseianaidd yn Profi Mai Iesu Oedd y Meseia?

A Yw Proffwydoliaethau Meseianaidd yn Profi Mai Iesu Oedd y Meseia?

Ateb y Beibl

 Ydyn. Tra oedd Iesu ar y ddaear, cyflawnodd lawer o broffwydoliaethau am “y blaenor Meseia,” yr un a fyddai’n dod “i achub y byd.” (Daniel 9:25, Beibl Cysegr-lân; 1 Ioan 4:14) Hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth, fe wnaeth Iesu gyflawni proffwydoliaethau Meseianaidd.—Salm 110:1; Actau 2:34-36.

 Beth yw ystyr “Meseia”?

 Ystyr y gair Hebraeg Ma·shiʹach (Meseia) a’r gair Groeg cyfatebol Chri·stos (Crist) yw “Un Eneiniog.” Felly, ystyr “Iesu Grist” yw “Iesu yr Un Eneiniog,” neu “Iesu’r Meseia.”

 Yn nyddiau’r Beibl, tywelltid olew ar ben dyn wrth ei benodi i swydd gydag awdurdod arbennig. (Lefiticus 8:12; 1 Samuel 16:13) Duw a benododd Iesu fel y Meseia—swydd ag awdurdod mawr iddi. (Actau 2:36) Ond, yn hytrach nag eneinio Iesu ag olew, fe wnaeth Duw ei eneinio a’i ysbryd glân.—Mathew 3:16.

 A allai mwy nag un person gyflawni proffwydoliaethau Meseianaidd?

 Na allen. Fel y mae ôl bys yn perthyn i un person yn unig, mae cyflawniad proffwydoliaethau yn y Beibl yn cyfeirio at un Meseia yn unig. Sut bynnag, mae’r Beibl yn rhybuddio: “Bydd llawer i ‘Feseia’ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw’n twyllo’r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai’r fath beth yn bosib!”—Mathew 24:24.

 A yw’n bosib y bydd y Meseia yn ymddangos yn y dyfodol?

 Nac ydy. Dywedodd y Beibl y byddai’r Meseia yn un o ddisgynyddion Dafydd, brenin Israel. (Salm 89:3, 4) Sut bynnag, mae’r achau Iddewig sy’n rhestru disgynyddion Dafydd wedi cael eu colli, yn ôl pob tebyg wedi eu difa pan ddinistriwyd Jerwsalem gan y Rhufeiniaid yn 70 OG. a Ers hynny, ni fu’n bosib i neb brofi ei fod yn perthyn i linach frenhinol Dafydd. Ar y llaw arall, er bod yr achau hynny ar gael yn amser Iesu, nid oedd hyd yn oed ei elynion yn llwyddo i brofi nad oedd Iesu yn ddisgynnydd i Dafydd.​—Mathew 22:41-46.

 Faint o broffwydoliaethau Meseianaidd sydd yn y Beibl?

 Ni ellir fod yn bendant ynglŷn â’r nifer o broffwydoliaethau sy’n cyfeirio at y Meseia. Er enghraifft, gellir cyfri proffwydoliaethau mewn ffyrdd gwahanol, hyd yn oed mewn testunau sydd yn amlwg yn cyfeirio at y Meseia. Mae Eseia 53:2-7 yn rhestru sawl nodwedd a fyddai’n perthyn i’r Meseia. Bydd rhai yn gweld y darn cyfan yn un broffwydoliaeth, tra bydd eraill yn gweld pob nodwedd yn broffwydoliaeth unigol.

 Rhai proffwydoliaethau Meseianaidd a gyflawnwyd gan Iesu

Proffwydoliaeth

I’w chael yn

Cyflawniad

Yn ddisgynnydd i Abraham

Genesis 22:17, 18

Mathew 1:1

Yn ddisgynnydd i Isaac, mab Abraham

Genesis 17:19

Mathew 1:2

Wedi ei eni o lwyth Jwda

Genesis 49:10

Mathew 1:1, 3

Yn perthyn i linach y Brenin Dafydd

Eseia 9:7

Mathew 1:1

Wedi ei eni o wyryf

Eseia 7:14

Mathew 1:18, 22, 23

Wedi ei eni ym Methlehem

Micha 5:2

Mathew 2:1, 5, 6

Ei enwi’n Immanuel b

Eseia 7:14, BCND

Mathew 1:21-23

O gefndir tlawd

Eseia 53:2

Luc 2:7

Plant yn cael eu lladd ar ôl ei eni

Jeremeia 31:15

Mathew 2:16-18

Wedi ei alw allan o’r Aifft

Hosea 11:1

Mathew 2:13-15

Wedi ei alw’n Nasaread c

Eseia 11:1, BC

Mathew 2:23

Negesydd yn dod o’i flaen

Malachi 3:1

Mathew 11:7-10

Wedi ei eneinio’n Feseia yn 29 OG d

Daniel 9:25

Mathew 3:13-17

Wedi ei gydnabod yn Fab gan Dduw

Salm 2:7

Actau 13:33, 34

Yn selog dros dŷ Dduw

Salm 69:9

Ioan 2:13-17

Cyhoeddi newyddion da

Eseia 61:1

Luc 4:16-21

Ei weinidogaeth yng Ngalilea yn olau llachar

Eseia 9:1, 2

Mathew 4:13-16

Gwneud gwyrthiau, fel Moses

Deuteronomium 18:15

Actau 2:22

Cyhoeddi neges Duw, fel Moses

Deuteronomium 18:18, 19

Ioan 12:49

Yn iacháu llawer

Eseia 53:4

Mathew 8:16, 17

Heb dynnu sylw ato’i hun

Eseia 42:2

Mathew 12:17, 19

Tosturio wrth y rhai sy’n dioddef

Eseia 42:3

Mathew 12:9-20; Marc 6:34

Datgelu cyfiawnder Duw

Eseia 42:1, 4

Mathew 12:17-20

Cynghorwr Rhyfeddol

Eseia 9:6, 7, BCND

Ioan 6:68

Cyhoeddi enw Jehofa

Salm 22:22, BCND

Ioan 17:6, BCND

Defnyddio eglurebau

Salm 78:2

Mathew 13:34, 35

Yn Arweinydd

Daniel 9:25

Mathew 23:10, BCND

Llawer yn gwrthod credu ynddo

Eseia 53:1

Ioan 12:37, 38

Yn faen tramgwydd

Eseia 8:14, 15

Mathew 21:42-44

Cael ei wrthod gan bobl

Salm 118:22, 23

Actau 4:10, 11

Cael ei gasáu heb reswm

Salm 69:4

Ioan 15:24, 25

Ymdeithio i Jerwsalem ar gefn asyn

Sechareia 9:9

Mathew 21:4-9

Plant yn ei foli

Salm 8:2

Mathew 21:15, 16

Dod yn enw Jehofa

Salm 118:26, BCND

Ioan 12:12, 13, BCND

Wedi ei fradychu gan gyfaill

Salm 41:9

Ioan 13:18

Wedi ei fradychu am 30 darn o arian e

Sechareia 11:12, 13

Mathew 26:14-16; 27:3-10

Cyfeillion yn cefnu arno

Sechareia 13:7

Mathew 26:31, 56

Tystion celwyddog yn ei gyhuddo

Salm 35:11

Mathew 26:59-61

Yn dweud dim o flaen ei gyhuddwyr

Eseia 53:7

Mathew 27:12-14

Pobl yn poeri arno

Eseia 50:6

Mathew 26:67; 27:27, 30

Cael ei daro ar ei ben

Micha 5:1

Marc 15:19

Cael ei chwipio

Eseia 50:6

Ioan 19:1

Ni wnaeth daro’n ôl

Eseia 50:6

Ioan 18:22, 23

Arweinwyr gwleidyddol yn cynllwynio yn ei erbyn

Salm 2:2

Luc 23:10-12

Ei hoelio ar stanc gerfydd ei ddwylo a’i draed

Salm 22:16

Mathew 27:35; Ioan 20:25

Pobl yn gamblo am ei ddillad

Salm 22:18

Ioan 19:23, 24

Wedi ei gyfri gyda throseddwyr

Eseia 53:12

Mathew 27:38

Wedi ei watwar a’i sarhau

Salm 22:7, 8

Mathew 27:39-43

Wedi dioddef er mwyn pechaduriaid

Eseia 53:5, 6

1 Pedr 2:23-25

Ymddangos fel petai Duw wedi cefnu arno

Salm 22:1

Marc 15:34

Rhoddwyd finegr a chyffur chwerw iddo

Salm 69:21

Mathew 27:34

Yn sychedig cyn iddo farw

Salm 22:15

Ioan 19:28, 29

Wedi rhoi ei ysbryd yn nwylo Duw

Salm 31:5

Luc 23:46

Aberthodd ei fywyd

Eseia 53:12

Marc 15:37

Talodd y pridwerth er mwyn dileu pechod

Eseia 53:12

Mathew 20:28

Dim un asgwrn yn cael ei dorri

Salm 34:20

Ioan 19:31-33, 36

Wedi ei drywanu

Sechareia 12:10

Ioan 19:33-35, 37

Cael bedd dyn cyfoethog

Eseia 53:9

Mathew 27:57-60

Wedi ei atgyfodi

Salm 16:10

Actau 2:29-31

Un arall i gymryd lle y bradwr

Salm 109:8

Actau 1:15-20

Eistedd ar ddeheulaw Duw

Salm 110:1

Actau 2:34-36

a Dywed Y Gwyddoniadur Cymreig: “Yr ydym yn cael lle cryf i gasglu fod [achau yr Iddewon] wedi cael eu cadw gyda chryn fanylrwydd hyd ddechrau y cyfnod Cristionogol, ac yn lled debyg, hyd ddinystr Ierusalem gan y Rhufeiniaid. Wedi hyny, gan fod eu dinystr mor fawr, a’u chwalfa mor lwyr, nid yw yn ymddangos i neb o honynt allu cadw eu hachres gyda dim cyssondeb.”

b Ystyr yr enw Hebraeg Immanuel yw “Mae Duw Gyda Ni.” Mae’n ddisgrifiad da o rôl Iesu fel y Meseia. Roedd ei bresenoldeb ar y ddaear a’i weithredoedd yn profi bod Duw gyda’i addolwyr.—Luc 2:27-32; 7:12-16.

c Ymddengys fod y term “Nasaread” yn dod o’r gair Hebraeg neʹtser, sy’n golygu “blaguryn.”

d Am fanylion cronoleg y Beibl ynglŷn â 29 OG fel y flwyddyn y byddai’r Meseia’n cyrraedd, gweler yr erthygl “Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia.”

e Mae’r broffwydoliaeth hon yn dod o lyfr Sechareia, ond mae Mathew yn cyfeirio ati fel “geiriau’r proffwyd Jeremeia.” (Mathew 27:9) Ymddengys fod llyfr Jeremeia weithiau wedi ei osod yn gyntaf yn adran yr Ysgrythurau a elwid yn “llyfrau’r Proffwydi.” (Luc 24:44) Mae’n debyg bod Mathew wedi defnyddio “Jeremeia” i gyfeirio at y casgliad cyfan gan gynnwys llyfr Sechareia.