Yn Ôl Luc 7:1-50

  • Ffydd swyddog y fyddin (1-10)

  • Iesu’n atgyfodi mab gwraig weddw yn Nain (11-17)

  • Canmol Ioan Fedyddiwr (18-30)

  • Cenhedlaeth ddiymateb yn cael ei chondemnio (31-35)

  • Dynes bechadurus yn cael maddeuant (36-50)

    • Dameg y dynion mewn dyled (41-43)

7  Ar ôl iddo orffen yr hyn roedd ganddo i’w ddweud wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum.  Nawr roedd caethwas i swyddog y fyddin, a oedd yn annwyl iddo, yn ddifrifol wael ac ar fin marw.  Pan glywodd am Iesu, anfonodd ato rai o henuriaid yr Iddewon i ofyn iddo ddod ac iacháu ei gaethwas.  Daethon nhw at Iesu a dechrau ymbil yn daer arno, gan ddweud: “Mae’n haeddu cael ei helpu gen ti,  oherwydd mae’n caru ein cenedl, ac ef ei hun wnaeth adeiladu ein synagog.”  Felly aeth Iesu gyda nhw. Ond pan nad oedd yn bell o’r tŷ, roedd swyddog y fyddin eisoes wedi anfon ffrindiau i ddweud: “Syr, paid â thrafferthu, oherwydd dydw i ddim yn deilwng iti ddod o dan fy nho.  Dyna pam doeddwn i ddim yn fy ystyried fy hun yn deilwng i ddod atat ti. Ond dyweda’r gair, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.  Oherwydd rydw innau hefyd yn ddyn sydd wedi cael ei osod o dan awdurdod, sydd â milwyr odana i, ac rydw i’n dweud wrth hwn, ‘Dos!’ ac mae’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd!’ ac mae’n dod, ac wrth fy nghaethwas, ‘Gwna hyn!’ ac mae’n ei wneud.”  Pan glywodd Iesu’r pethau hyn, roedd wedi rhyfeddu ato, ac fe drodd at y dyrfa a oedd yn ei ddilyn a dweud: “Rydw i’n dweud wrthoch chi, dydw i ddim wedi dod o hyd i ffydd mor fawr, hyd yn oed yn Israel.” 10  A phan wnaeth y rhai a oedd wedi cael eu hanfon fynd yn ôl i’r tŷ, roedd y caethwas yn hollol iach. 11  Yn fuan wedyn teithiodd i ddinas o’r enw Nain, ac roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn teithio gydag ef. 12  Wrth iddo ddod yn agos at borth y ddinas, edrycha! roedd ’na ddyn wedi marw yn cael ei gario allan, unig fab ei fam. Ar ben hynny, roedd hi’n wraig weddw. Roedd tyrfa sylweddol o’r ddinas hefyd gyda hi. 13  Pan welodd yr Arglwydd hi, roedd yn teimlo trueni tuag ati, a dywedodd wrthi: “Stopia wylo.” 14  Ar hynny daeth yn nes at y stretsier angladd* a’i gyffwrdd, a safodd y cludwyr yn stond. Yna dywedodd: “Fy machgen i, rydw i’n dweud wrthot ti, cod!” 15  A dyma’r dyn a oedd wedi marw yn eistedd i fyny a dechrau siarad, a rhoddodd Iesu ef i’w fam. 16  Nawr cydiodd ofn ynddyn nhw i gyd, a dechreuon nhw ogoneddu Duw, gan ddweud: “Mae proffwyd mawr wedi cael ei godi yn ein plith,” ac, “Mae Duw wedi troi ei sylw at ei bobl.” 17  Ac aeth y newyddion hyn amdano ar led drwy Jwdea gyfan a’r holl wlad oddi amgylch. 18  Nawr rhoddodd disgyblion Ioan adroddiad iddo am yr holl bethau hyn. 19  Felly dyma Ioan yn galw dau o’i ddisgyblion ato a’u hanfon at yr Arglwydd i ofyn: “Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?” 20  Pan ddaethon nhw ato, dywedodd y dynion: “Ioan Fedyddiwr wnaeth ein hanfon ni atat ti i ofyn, ‘Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?’” 21  Yr awr honno, iachaodd ef lawer o bobl o salwch, afiechydon difrifol, ac ysbrydion drwg, ac fe roddodd i lawer o bobl ddall eu golwg yn ôl. 22  Ac meddai wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth Ioan am yr hyn rydych chi wedi ei glywed ac wedi ei weld: Mae’r dall nawr yn gweld, mae’r cloff yn cerdded, mae’r rhai gwahanglwyfus yn cael eu glanhau, mae’r byddar yn clywed, mae’r meirw yn cael eu hatgyfodi, a’r tlawd yn cael clywed y newyddion da. 23  Hapus yw’r un sydd ddim yn baglu o fy achos i.” 24  Pan oedd negeswyr Ioan wedi mynd i ffwrdd, dechreuodd Iesu siarad â’r tyrfaoedd am Ioan: “Beth gwnaethoch chi fynd allan i’r anialwch i’w weld? Corsen yn cael ei hysgwyd gan y gwynt? 25  Beth, felly, y gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth?* Yn wir, mae’r rhai sy’n gwisgo dillad crand ac sy’n byw bywyd moethus yn byw mewn tai brenhinol. 26  Felly, beth gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Proffwyd? Ie, medda i wrthoch chi, a llawer mwy na phroffwyd. 27  Dyma’r un mae’n ysgrifenedig amdano: ‘Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di,* a fydd yn paratoi dy ffordd o dy flaen di.’ 28  Rydw i’n dweud wrthoch chi, ymhlith y rhai sydd wedi cael eu geni o ferched,* does neb yn fwy na Ioan, ond mae’r un lleiaf yn Nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.” 29  (Pan wnaeth yr holl bobl a’r casglwyr trethi glywed hyn, fe gyhoeddon nhw fod Duw yn gyfiawn, oherwydd roedden nhw wedi cael eu bedyddio â bedydd Ioan. 30  Ond fe wnaeth y Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith ddiystyru cyngor* Duw iddyn nhw, gan nad oedden nhw wedi cael eu bedyddio gan Ioan.) 31  “Felly, â phwy y dylwn i gymharu dynion y genhedlaeth hon, ac i bwy maen nhw’n debyg? 32  Maen nhw’n debyg i blant bach sy’n eistedd yn y farchnad ac yn siarad â’i gilydd, gan ddweud: ‘Gwnaethon ni ganu’r ffliwt ichi, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; gwnaethon ni lefain, ond wnaethoch chi ddim wylo.’ 33  Yn yr un modd, mae Ioan Fedyddiwr wedi dod heb fwyta bara nac yfed gwin, ond rydych chi’n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ 34  Mae Mab y dyn wedi dod yn bwyta ac yn yfed, ond rydych chi’n dweud, ‘Edrychwch! Dyn barus sy’n yfed gormod o win, ffrind i gasglwyr trethi a phechaduriaid!’ 35  Fodd bynnag, mae doethineb yn cael ei brofi’n gyfiawn* gan ei ganlyniadau.”* 36  Nawr roedd un o’r Phariseaid yn parhau i ofyn iddo fwyta gydag ef. Felly aeth Iesu i mewn i dŷ’r Pharisead ac eistedd wrth y bwrdd. 37  Ac edrycha! dyma ddynes* a oedd yn adnabyddus yn y ddinas am fod yn bechadures yn clywed ei fod yn bwyta yn nhŷ’r Pharisead, a daeth hi â jar alabastr o olew persawrus. 38  Yn cymryd ei lle y tu ôl iddo wrth ei draed, dechreuodd hi wylo a gwlychu ei draed â’i dagrau, a gwnaeth hi eu sychu nhw â gwallt ei phen. Hefyd, gwnaeth hi gusanu ei draed yn dyner a thywallt* yr olew persawrus arnyn nhw. 39  Yn gweld hyn, dyma’r Pharisead a oedd wedi ei wahodd yn dweud wrtho’i hun: “Petai’r dyn hwn yn wir yn broffwyd, fe fyddai’n gwybod pwy ydy hon a pha fath o ddynes* sy’n ei gyffwrdd ef, ei bod hi’n bechadures.” 40  Ond atebodd Iesu ef: “Simon, mae gen i rywbeth i’w ddweud wrthot ti.” Meddai yntau: “Dyweda wrtho i, Athro!” 41  “Roedd dau ddyn mewn dyled i ryw fenthyciwr arian; dyled un oedd 500 denariws, ond dyled y llall oedd 50. 42  Pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i’w dalu yn ôl iddo, ni wnaeth ddal yn ôl rhag maddau i’r ddau ohonyn nhw. Felly, p’run ohonyn nhw fydd yn ei garu fwyaf?” 43  Atebodd Simon: “Mae’n debyg mai’r un a gafodd faddeuant am y ddyled fwyaf.” Dywedodd Iesu wrtho: “Rwyt ti wedi barnu’n gywir.” 44  Ar hynny, trodd ef at y ddynes* a dweud wrth Simon: “Wyt ti’n gweld y ddynes* hon? Des i i mewn i dy dŷ; wnest ti ddim rhoi unrhyw ddŵr imi ar gyfer fy nhraed. Ond fe wnaeth y ddynes* hon wlychu fy nhraed â’i dagrau a’u sychu nhw â’i gwallt. 45  Wnest ti ddim rhoi cusan imi, ond o’r awr y des i i mewn, ni wnaeth y ddynes* hon stopio cusanu fy nhraed yn dyner. 46  Wnest ti ddim tywallt* olew ar fy mhen, ond fe wnaeth y ddynes* hon dywallt* olew persawrus ar fy nhraed. 47  Oherwydd hyn, rydw i’n dweud wrthot ti, mae ei phechodau hi, er bod ’na lawer ohonyn nhw,* wedi cael eu maddau iddi, oherwydd ei bod hi wedi dangos cariad mawr. Ond pan fydd rhywun yn cael maddeuant am ychydig o bechodau, dim ond ychydig o gariad y bydd yn ei ddangos.” 48  Yna dywedodd wrthi hi: “Mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 49  Dechreuodd y rhai a oedd yn eistedd wrth y bwrdd gydag ef ddweud wrth ei gilydd: “Pwy ydy’r dyn hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” 50  Ond dywedodd ef wrth y ddynes:* “Mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn heddwch.”

Troednodiadau

Neu “yr elor.”
Neu “dillad o’r ansawdd gorau; dillad cain?”
Llyth., “o flaen dy wyneb.”
Neu “o fenywod.”
Neu “cyfarwyddyd.”
Neu “yn cael ei gyfiawnhau.”
Neu “gan ei holl blant.”
Neu “dyma fenyw.”
Neu “ac arllwys.”
Neu “o fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “arllwys.”
Neu “y fenyw.”
Neu “arllwys.”
Neu “er eu bod nhw’n fawr.”
Neu “y fenyw.”