Yn Ôl Ioan 15:1-27

  • Dameg y wir winwydden (1-10)

  • Gorchymyn i ddangos cariad fel mae’r Crist (11-17)

    • “Does gan neb gariad mwy na hyn” (13)

  • Y byd yn casáu disgyblion Iesu (18-27)

15  “Fi ydy’r wir winwydden, a fy Nhad ydy’r garddwr.  Mae’n cymryd i ffwrdd bob cangen yno i sydd ddim yn dwyn ffrwyth, ac mae’n glanhau pob un sy’n dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.  Rydych chithau eisoes yn lân oherwydd y gair rydw i wedi ei ddweud wrthoch chi.  Arhoswch mewn undod â mi, a bydda innau’n aros mewn undod â chi. Yn union fel na allai cangen ddwyn ffrwyth ar ei phen ei hun oni bai ei bod hi’n aros yn y winwydden, ni allwch chithau chwaith oni bai eich bod chi’n aros mewn undod â mi.  Fi ydy’r winwydden; chi ydy’r canghennau. Mae pwy bynnag sy’n aros mewn undod â mi, a minnau mewn undod ag ef, yn dwyn llawer o ffrwyth; oherwydd ar wahân i mi ni allwch chi wneud unrhyw beth o gwbl.  Os nad ydy rhywun yn aros mewn undod â mi, mae’n cael ei daflu allan fel cangen ac yn gwywo. Ac mae dynion yn casglu’r canghennau hynny ac yn eu taflu nhw i mewn i’r tân, ac maen nhw’n cael eu llosgi.  Os ydych chi’n aros mewn undod â mi ac mae fy ngeiriau’n aros ynoch chi, gofynnwch beth bynnag rydych chi eisiau ac fe fydd yn digwydd ichi.  Mae fy Nhad yn cael ei ogoneddu yn hyn o beth, eich bod chi’n parhau i ddwyn llawer o ffrwyth ac yn eich profi eich hunain yn ddisgyblion imi.  Yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i, rydw innau wedi eich caru chi; arhoswch yn fy nghariad. 10  Os ydych chi’n cadw fy ngorchmynion, byddwch chi’n aros yn fy nghariad, yn union fel rydw innau wedi cadw gorchmynion y Tad ac wedi aros yn ei gariad ef. 11  “Rydw i wedi dweud y pethau yma wrthoch chi, er mwyn i fy llawenydd i fod ynoch chi ac i’ch llawenydd orlifo. 12  Dyma fy ngorchymyn, eich bod chi’n caru eich gilydd yn union fel rydw innau wedi eich caru chi. 13  Does gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn aberthu ei fywyd dros ei ffrindiau. 14  Rydych chi’n ffrindiau imi os ydych chi’n gwneud beth rydw i’n ei orchymyn ichi. 15  Dydw i ddim yn eich galw chi’n gaethweision bellach, oherwydd dydy caethwas ddim yn gwybod beth mae ei feistr yn ei wneud. Ond rydw i wedi eich galw chi’n ffrindiau, oherwydd rydw i wedi rhoi gwybod ichi am yr holl bethau rydw i wedi eu clywed gan fy Nhad. 16  Wnaethoch chi ddim fy newis i, ond gwnes i eich dewis chi, a gwnes i eich penodi chi i fynd a pharhau i ddwyn ffrwyth sy’n aros. Felly beth bynnag rydych chi’n ei ofyn gan y Tad yn fy enw i, fe fydd yn ei roi ichi. 17  “Dyma’r pethau rydw i’n eu gorchymyn ichi, eich bod chi’n caru eich gilydd. 18  Os ydy’r byd yn eich casáu chi, rydych chi’n gwybod ei fod wedi fy nghasáu i cyn iddo eich casáu chi. 19  Petasech chi’n rhan o’r byd, byddai’r byd yn hoff o’r hyn sy’n perthyn iddo. Nawr, oherwydd dydych chi ddim yn rhan o’r byd, ond rydw i wedi eich dewis chi allan o’r byd, am y rheswm hwn mae’r byd yn eich casáu chi. 20  Cadwch mewn cof beth ddywedais i wrthoch chi: Dydy caethwas ddim yn fwy na’i feistr. Os ydyn nhw wedi fy erlid i, fe fyddan nhw’n eich erlid chithau hefyd; os ydyn nhw wedi cadw fy ngair i, fe fyddan nhw’n cadw eich geiriau chithau hefyd. 21  Ond byddan nhw’n gwneud yr holl bethau hyn yn eich erbyn chi o achos fy enw i, oherwydd dydyn nhw ddim yn adnabod yr Un a wnaeth fy anfon i. 22  Petaswn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechu. Ond nawr does ganddyn nhw ddim esgus dros eu pechod. 23  Mae pwy bynnag sy’n fy nghasáu i yn casáu fy Nhad hefyd. 24  Petaswn i heb wneud y gweithredoedd a wnes i yn eu plith nhw, gweithredoedd does neb arall wedi eu gwneud, fydden nhw ddim yn euog o bechu; ond nawr maen nhw wedi fy ngweld i ac wedi fy nghasáu i yn ogystal â fy Nhad. 25  Ond digwyddodd hyn er mwyn cyflawni beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yn eu Cyfraith nhw: ‘Fe wnaethon nhw fy nghasáu i heb achos.’ 26  Pan fydd yr helpwr bydda i’n ei anfon atoch chi o’r Tad yn dod, ysbryd y gwir, sy’n dod oddi wrth y Tad, bydd yr un hwnnw’n tystiolaethu amdana i; 27  ac yna, rydych chi am dystiolaethu, oherwydd eich bod chi wedi bod gyda mi o’r dechrau.

Troednodiadau