Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Da a Drwg: Arweiniad Sy’n Gweithio

Da a Drwg: Arweiniad Sy’n Gweithio

Ystyriwch bedair elfen o fywyd lle mae’r Beibl wedi helpu miliynau o bobl.

1. Priodas

Mae gan bobl syniadau gwahanol am briodas, ac am beth sydd ei angen i gael priodas hapus.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi garu ei wraig fel y mae’n ei garu ei hun; ar y llaw arall, dylai’r wraig ddangos parch dwfn tuag at ei gŵr.”—Effesiaid 5:33.

YSTYR: Mae priodas yn drefniant mae Duw wedi ei roi inni, felly mae’n gwybod beth sydd ei angen ar gwpl er mwyn iddyn nhw fod yn hapus. (Marc 10:​6-9) Os ydy gŵr a gwraig yn canolbwyntio mwy ar y person arall nag arnyn nhw eu hunain, gall y ddau ohonyn nhw fod yn hapus. Mae gŵr yn dangos ei fod yn caru ei wraig drwy ofalu amdani, ac mae gwraig yn dangos ei bod hi’n parchu ei gŵr yn y ffordd mae hi’n siarad ac yn ymddwyn.

MAE ARWEINIAD O’R BEIBL YN GWEITHIO: Roedd Quang a Thi, o Fietnam yn teimlo’n gaeth i’w priodas anhapus. Roedd Quang yn aml yn angharedig. Dywedodd: “Doedd gen i ddim ots am deimladau Thi, ac o’n i’n ei bychanu hi’n aml.” Roedd Thi eisiau ysgaru. Dywedodd hi: “O’n i’n teimlo fel doeddwn i ddim bellach yn gallu trystio na pharchu fy ngŵr.”

Yn y pen draw, gwnaeth Quang a Thi ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud a sut i roi Effesiaid 5:33 ar waith yn eu priodas. “Gwnaeth yr adnod hon fy helpu i weld yr angen i fod yn garedig,” meddai Quang, “ac i helpu Thi i deimlo fy nghariad a’m gofal yn faterol, yn gorfforol, ac yn emosiynol. Drwy wneud hyn i gyd, dwi’n ennill ei pharch a’i chariad.” Ac mae Thi yn dweud: “Y mwyaf dwi’n rhoi Effesiaid 5:33 ar waith ac yn dangos parch at fy ngŵr, y mwyaf dwi’n teimlo ei gariad. Dwi hefyd yn teimlo’n saff ac mae gynnon ni heddwch.”

Am fwy o wybodaeth ar briodas, darllenwch Deffrwch! Rhif 2 2018, “12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus” ar jw.org.

2. Sut i Drin Eraill

Mae pobl yn aml yn cam-drin eraill oherwydd eu hil, eu cenedl, eu crefydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, neu’r ffordd maen nhw’n edrych.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Anrhydeddwch ddynion o bob math.”—1 Pedr 2:17.

YSTYR: Dydy’r Beibl ddim yn cymeradwyo hiliaeth, homoffobia, neu senoffobia. I’r gwrthwyneb, mae’n ein hannog ni i barchu pawb, ni waeth beth ydy eu hil neu genedl, os ydyn nhw’n dlawd neu’n gyfoethog. (Actau 10:34) Hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno â beth mae eraill yn ei gredu neu sut maen nhw’n ymddwyn, gallwn ni eu trin nhw gyda charedigrwydd a pharch.—Mathew 7:12.

MAE ARWEINIAD O’R BEIBL YN GWEITHIO: Roedd Daniel yn credu bod pobl o Asia yn fygythiad i’w wlad. Oherwydd hyn, roedd ef yn casáu pawb oedd yn dod o Asia ac yn eu hamharchu nhw’n gyhoeddus. “Gwnes i gyfiawnhau beth o’n i’n ei wneud gan feddwl fy mod i’n cefnogi fy ngwlad,” meddai Daniel. “Felly doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl bod fy ymddygiad yn anghywir.”

Gwnaeth Daniel ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud. “Roedd rhaid imi newid fy ffordd o feddwl yn gyfan gwbl,” meddai Daniel. “Roedd rhaid imi ddechrau gweld pobl yn yr un ffordd y mae Duw yn eu gweld nhw, a deall ein bod ni i gyd yr un fath, ni waeth o le rydyn ni’n dod.” Mae Daniel yn disgrifio sut mae ef yn teimlo wrth iddo gyfarfod pobl nawr. Mae’n dweud: “Dydw i ddim hyd yn oed yn meddwl am le maen nhw’n dod o bellach. Dwi’n caru pobl o bob math, ac mae gen i ffrindiau agos o bob cwr o’r byd.”

Am fwy o wybodaeth, darllenwch y Deffrwch! Saesneg Rhif 3 2020, “Is There a Cure for Prejudice?” ar jw.org.

3. Arian

Mae llawer o bobl yn ceisio bod yn gyfoethog er mwyn bod yn hapus a chael dyfodol gwell.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae doethineb, fel arian, yn gysgod i’n cadw’n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw’r doeth yn fyw.”—Pregethwr 7:12.

YSTYR: Er bod arian yn bwysig, nid yw’n rhoi hapusrwydd na dyfodol sicr inni. (Diarhebion 18:11; 23:​4, 5) I’r gwrthwyneb, mae hapusrwydd go iawn a dyfodol sicr yn dibynnu ar roi ar waith doethineb oddi wrth Dduw sy’n dod o’r Beibl.—1 Timotheus 6:​17-19.

MAE ARWEINIAD O’R BEIBL YN GWEITHIO: Canolbwyntiodd Cardo, dyn o Indonesia, ar ennill cyfoeth. “O’n i’n mwynhau beth roedd y rhan fwyaf o bobl ond yn gallu breuddwydio amdano,” meddai. “O’n i’n gallu teithio a phrynu pethau moethus, fel ceir a thai.” Ond ni wnaeth ei arian bara am byth. “Ges i fy nhwyllo, ac mewn chwinciad, collais yr holl arian o’n i wedi gweithio mor galed i’w ennill dros y blynyddoedd. Gweithiais yn galed trwy fy mywyd i fod yn gyfoethog, ond yn y diwedd o’n i ond yn teimlo’n wag, yn ddiwerth, ac yn siomedig.”

Dechreuodd Cardo roi ar waith beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arian. Dydy ef ddim bellach yn canolbwyntio ar ennill cyfoeth, ac mae’n cadw ei fywyd yn syml. “Y trysor go iawn ydy perthynas da â Duw,” meddai. “Dwi’n gallu cysgu’n sownd bob nos, a dwi’n wirioneddol hapus.”

Am fwy o wybodaeth am beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arian, darllenwch yr erthygl “Can Education and Money Guarantee a Secure Future?” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Rhif 3 2021, ar jw.org.

4. Rhyw

Mae gan lawer o bobl syniadau gwahanol am beth sy’n dderbyniol ynglŷn â rhyw.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Gwrthodwch anfoesoldeb rhywiol. Dylai pob un ohonoch chi wybod sut i reoli ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd, nid mewn chwant rhywiol afreolus a barus, fel yn achos y cenhedloedd sydd ddim yn adnabod Duw.’—1 Thesaloniaid 4:​3-5.

YSTYR: Mae’r Beibl yn cyfyngu ar sut dylen ni weithredu ar ein chwantau rhywiol. Mae’r term “anfoesoldeb rhywiol” yn cynnwys godineb, puteindra, rhyw rhwng pobl ddibriod, cyfunrywioldeb, a bwystfileidd-dra. (1 Corinthiaid 6:​9, 10) Mae rhyw yn rhodd oddi wrth Dduw ar gyfer dyn a dynes sy’n briod i’w gilydd yn unig.—Diarhebion 5:​18, 19.

MAE ARWEINIAD O’R BEIBL YN GWEITHIO: Mae dynes o Awstralia o’r enw Kylie yn dweud: “Fel person sengl, o’n i’n meddwl byddai cael rhyw yn gwneud imi deimlo’n saff ac fel bod rhywun arall yn fy ngharu i. Ond nid dyna ddigwyddodd. O’n i’n teimlo’n ansicr ac fel bod fy nghalon wedi ei thorri.”

Yn nes ymlaen, gwnaeth Kylie ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ryw a’i roi ar waith. “Dwi’n gallu gweld nawr fod safonau Duw yn ein helpu ni i osgoi cael ein brifo,” meddai hi. “O ganlyniad i wneud pethau ffordd Jehofa, mae gen i ŵr sy’n fy ngharu i ac sy’n gwneud imi deimlo’n ddiogel. Mae dilyn arweiniad y Beibl wedi fy helpu i osgoi cymaint o dristwch!”

Am fwy o wybodaeth, darllenwch yr erthygl “Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?” ar jw.org.

Mae ein Creawdwr yn ein helpu ni i wybod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Dydy dilyn ei safonau moesol ddim yn hawdd. Ond, pan ydyn ni’n cadw atyn nhw, mae’n wastad yn dod â hapusrwydd hirdymor, felly mae’n werth pob ymdrech.