Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi

Da a Drwg: Y Dewis Sydd o’ch Blaen Chi

Bydd y safonau moesol rydyn ni’n dewis eu dilyn yn effeithio’n fawr ar ein bywydau. Mae Jehofa Dduw yn gwybod hynny, a dyna pam mae eisiau inni fyw yn ôl ei safonau.

Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd llawn heddwch a hapusrwydd.

“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.”—Eseia 48:​17, 18.

Fel ein Creawdwr, mae Duw yn gwybod y ffordd orau dylen ni fyw. Mae eisiau inni ddilyn ei arweiniad oherwydd mae’n dda inni. Pan ydyn ni’n dilyn gorchmynion Duw, does dim rhaid inni ddyfalu a ydy ein dewis yn un da neu beidio. Byddwn ni’n gwneud y penderfyniad cywir bob tro, ac yn cael ein harwain at heddwch a hapusrwydd.

Dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i’n cyrraedd.

“Dydy beth dw i’n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i’w ddeall, nac yn amhosib i’w gyrraedd.”—Deuteronomium 30:11.

Efallai bydd byw yn ôl safonau Duw yn gofyn am inni wneud newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. Ond, dydy Jehofa ddim yn gofyn gormod gynnon ni. Wedi’r cwbl, mae ein Creawdwr yn gwybod ein galluoedd. Wrth inni ddod i adnabod Jehofa yn well, byddwn ni’n dysgu “dydy ei orchmynion ddim yn feichus.”—1 Ioan 5:3.

Mae Jehofa yn addo helpu’r rhai sy’n dilyn ei safonau.

“Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”—Eseia 41:13.

Gall Duw ein helpu ni i gwrdd â’i ofynion moesol. Mae’n ein helpu ni drwy ei Air y Beibl, sy’n rhoi anogaeth a gobaith inni.

Mae miliynau o bobl ar draws y byd wedi gweld bod byw yn ôl safonau’r Beibl wedi gwella eu bywydau. Beth am ddysgu mwy am y cyngor da sydd yn y Beibl? Lle da i gychwyn fyddai’r llyfryn Mwynhewch Fywyd Am Byth! sydd ar gael am ddim ar jw.org. Mae’n cynnwys y gwersi canlynol:

  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?

  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni

  • Allwch Chi Ymddiried yn y Beibl?

Wrth ichi archwilio Gair Duw, byddwch chi’n gweld nad ydy’r Beibl yn hen ffasiwn. Mae’n gwbl ddibynadwy ac “yn sefyll am byth.” (Salm 111:8) Dilyn safonau moesol y Beibl ydy’r ffordd orau inni fyw. Ond, dydy Duw ddim yn ein gorfodi ni i wneud hynny. (Deuteronomium 30:​19, 20; Josua 24:15) Dyna’r dewis sydd o flaen pob un ohonon ni.