Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Da a Drwg: Y Beibl​​—⁠Arweiniad Dibynadwy

Da a Drwg: Y Beibl​​—⁠Arweiniad Dibynadwy

Allwn ni ddim bod yn siŵr o’r canlyniadau os ydyn ni ond yn gwneud penderfyniadau moesol ar sail teimladau. Mae’r Beibl yn datgelu pam, ond mae hefyd yn gwneud mwy na hynny. Mae’n cynnwys arweiniad moesol dibynadwy, sy’n hanfodol er mwyn cael bywyd hapus.

ARWEINIAD ANGENRHEIDIOL

Yn ôl y Beibl, roedd Jehofa a Dduw yn bwriadu i bobl droi ato ef am arweiniad yn hytrach nag arwain, neu reoli, eu hunain. (Jeremeia 10:23) Dyna pam gwnaeth ef gynnwys safonau moesol yn ei Air. Mae’n caru’r teulu dynol, ac mae eisiau inni osgoi’r canlyniadau drwg sy’n dod o ddysgu o brofiad. (Deuteronomium 5:29; 1 Ioan 4:8) Ond yn fwy na hynny, mae gan ein Creawdwr y doethineb a’r wybodaeth i roi’r cyngor moesol gorau inni. (Salm 100:3; 104:24) Er hynny, dydy Duw byth yn gorfodi pobl i fyw yn ôl ei safonau.

Rhoddodd Jehofa bopeth i’r cwpl cyntaf, Adda ac Efa, er mwyn iddyn nhw gael bywyd hapus. (Genesis 1:​28, 29; 2:​8, 15) Gwnaeth ef hefyd roi cyfarwyddiadau syml iddyn nhw eu dilyn. Ond, roedd ganddyn nhw’r dewis i’w dilyn nhw neu beidio. (Genesis 2:​9, 16, 17) Yn anffodus, penderfynodd Adda ac Efa fyw yn ôl eu safonau nhw eu hunain yn hytrach na safonau Duw. (Genesis 3:6) Gyda pha ganlyniad? Ydy’r teulu dynol wedi elwa o benderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n dda neu’n ddrwg? Nac ydyn. Mae hanes yn dangos yn glir dydy anwybyddu safonau Duw ddim yn dod â heddwch na hapusrwydd parhaol.—Pregethwr 8:9.

Mae’r Beibl yn rhoi’r arweiniad sydd ei angen arnon ni er mwyn gwneud penderfyniadau moesol doeth, ni waeth beth ydy ein cefndir. (2 Timotheus 3:​16, 17; gweler y blwch “ Llyfr i Bawb.”) Ystyriwch sut mae’r Beibl yn gwneud hyn.

I ddysgu pam mai “Gair Duw” ydy’r Beibl, gwyliwch y fideo Pwy Yw Awdur y Beibl? ar jw.org.—1 Thessaloniaid 2:13.

SUT MAE’R BEIBL YN DATGELU ARWEINIAD DUW

Mae’r Beibl yn cynnwys hanes perthynas Jehofa â phobl. Mae’n ein helpu ni i ddeall beth sy’n dda inni a beth sy’n ddrwg inni yng ngolwg Duw. (Salm 19:​7, 11) Mae’r Beibl hefyd yn cynnwys egwyddorion sydd byth yn newid a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau moesol da yn ein bywydau bob dydd.

Er enghraifft, ystyriwch y cyngor yn Diarhebion 13:20: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” Mae’r egwyddor honno’n dal yn berthnasol heddiw, ac mae’r Beibl yn llawn egwyddorion ymarferol a gwerthfawr o’r fath.—Gweler y blwch “ Doethineb Tragwyddol y Beibl.”

Efallai byddwch chi’n gofyn: ‘Sut galla i fod yn hyderus bod arweiniad moesol y Beibl yn gweithio heddiw?’ Bydd yr erthygl nesaf yn ystyried rhai esiamplau.

a Jehofa yw enw personol Duw.—Genesis 2:​4, tdn. Cyfieithiad y Byd Newydd.