Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn dymuno i bobl “beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol.” (1 Thesaloniaid 4:3) Yn y Beibl mae’r term “anfoesoldeb rhywiol” yn cynnwys godinebu, gweithredoedd hoyw, a rhyw rhwng dyn a dynes nad ydyn nhw’n briod.

 Pam mae’r dewis i briodi neu beidio o unrhyw bwys i Dduw?

  •   Duw a sefydlodd briodas. Fe’i sefydlwyd gan Dduw pan ddaeth ef â’r pâr dynol cyntaf at ei gilydd. (Genesis 2:22-24) Nid bwriad Duw oedd i ddyn a dynes gyd-fyw heb ymrwymo i briodas.

  •   Mae Duw yn gwybod beth sydd orau inni. Bwriad Duw oedd i briodas fod yn bartneriaeth barhaol rhwng dyn a dynes a fyddai’n helpu ac yn amddiffyn pob aelod o’r teulu. Ystyriwch yr eglureb hon. Fel y mae cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dangos sut mae rhoi dodrefn at ei gilydd, felly y mae cyfarwyddiadau Duw yn dangos sut mae adeiladu perthynas hapus yn y teulu. Mae safonau Duw bob amser yn fuddiol i’r rhai sy’n eu dilyn.—Eseia 48:17, 18.

    Mae cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dangos sut mae rhoi dodrefn at ei gilydd. Mae cyfarwyddiadau Duw yn dangos sut mae creu bywyd teuluol llwyddiannus

  •   Gall cael rhyw y tu allan i briodas arwain at ganlyniadau difrifol. Er enghraifft, gall arwain at feichiogrwydd di-groeso, clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, a helbul emosiynol.

  •   Rhodd oddi wrth Dduw yw’r gallu i gael plant drwy berthynas rywiol. Yng ngolwg Duw, mae bywyd yn gysegredig, a rhodd arbennig yw’r gallu i gael plant. Mae Duw am inni barchu’r rhodd honno drwy barchu ei ewyllys ynglŷn â phriodas.—Hebreaid 13:4.

 Beth am gyd-fyw cyn priodi er mwyn gweld a fedrwch chi fyw’n gytûn?

 Nid yw “cyfnod prawf,” lle mae’r ddau bartner yn rhydd i ymadael, yn sail i briodas lwyddiannus. I’r gwrthwyneb, bydd y berthynas yn ffynnu pan fydd y ddau yn ymrwymo i’w gilydd ac yn cydweithio i ddatrys problemau. a Mae priodas yn cryfhau’r ymrwymiad hwnnw.—Mathew 19:6.

 Sut gall cyplau adeiladu priodas gadarn?

 Nid oes y fath beth â phriodas berffaith. Sut bynnag, mae’n bosib adeiladu priodas lwyddiannus drwy roi cyngor y Beibl ar waith. Dyma rai enghreifftiau:

a Gweler yr erthygl “Teuluoedd Llwyddiannus—Ymrwymiad.”