Da a Drwg: Cwestiwn Rydyn Ni i Gyd yn Ei Wynebu
Petasech chi eisiau teithio i rywle newydd, beth byddech chi’n ei wneud?
1. Dilyn eich trwyn a gobeithio am y gorau.
2. Dilyn eraill, gan obeithio eu bod nhw’n gwybod y ffordd.
3. Dilyn arweiniad dibynadwy, fel GPS, map, neu ffrind da sy’n gyfarwydd â’r ardal.
Petasen ni’n dewis opsiwn un neu ddau, bydden ni’n cyrraedd rhywle, ond nid o reidrwydd lle rydyn ni eisiau mynd. Ond petasen ni’n dewis opsiwn tri, gallwn ni fod yn hyderus y bydden ni’n cyrraedd pen y daith.
Mae bywyd yn debyg i siwrnai, ac rydyn ni’n gobeithio y byddai’n arwain at ddyfodol hapus. Bydd cyrraedd ein nod yn dibynnu’n fawr ar ble rydyn ni’n edrych am arweiniad wrth wneud penderfyniadau.
Dydy’r rhan fwyaf o’n penderfyniadau ddim yn bwysig iawn, ond mae eraill yn hynod o bwysig. Maen nhw’n dangos ein safonau moesol, hynny yw, beth rydyn ni’n meddwl sy’n gywir neu’n anghywir—yn dda neu’n ddrwg. Gall penderfyniadau o’r fath gael effaith tymor hir arnon ni a’n teulu, ac maen nhw’n cynnwys pethau fel:
Rhyw a phriodas
Gonestrwydd, gwaith, ac arian
Sut i fagu plant
Sut i drin eraill
Sut gallwch chi wneud penderfyniadau a fydd yn arwain at ddyfodol hapus i chi a’ch teulu ynglŷn â’r pethau hyn?
Dyma’r cwestiwn rydyn ni i gyd yn ei wynebu: Beth fydd yn llywio fy mhenderfyniadau moesol?
Bydd y cylchgrawn hwn yn esbonio pam gallwn ni drystio arweiniad y Beibl ynglŷn â da a drwg, a sut gallwn ni elwa ohono.