Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy dilyn ein teimladau yn wastad yn ddibynadwy?

Da a Drwg: Beth Sy’n Arwain Llawer?

Da a Drwg: Beth Sy’n Arwain Llawer?

Mae bron pawb yn cytuno bod rhai pethau’n bendant yn dda neu’n ddrwg. Er enghraifft, mae llofruddiaeth, trais rhywiol, a cham-drin plant yn rhywiol yn cael eu condemnio. Tra bod tegwch, caredigrwydd, ac empathi yn cael eu canmol. Ond gyda phethau eraill ym mywyd, fel rhywioldeb, gonestrwydd, a magu plant, mae llawer yn teimlo does ’na ddim dewis cywir neu anghywir. Maen nhw’n meddwl bod unrhyw beth yn dderbyniol. Mae pobl yn aml yn gwneud penderfyniadau ar sail sut maen nhw neu eraill o’u cwmpas yn teimlo. Ond, a ydy hynny’n syniad da?

EIN TEIMLADAU

Yn aml, ein hemosiynau sy’n ein harwain ni, teimlad mewnol o beth sy’n gywir neu’n anghywir, ac rydyn ni’n galw hynny ein cydwybod. (Rhufeiniaid 2:​14, 15) Gall hyd yn oed plant bach weld os ydy rhywbeth yn deg neu’n annheg, ac maen nhw’n gallu teimlo’n euog. Dros amser, mae ein cydwybod yn cael ei siapio gan y safonau rydyn ni’n eu dysgu gan ein teulu, ein ffrindiau, ein hathrawon, ein cymuned, ein crefydd, a’n diwylliant. Pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau, mae ein cydwybod yn dweud wrthon ni os ydy’r dewis yn cytuno â’n safonau.

Gall ein safonau o beth sy’n dda neu’n ddrwg ein cymell ni i ddangos empathi, i fod yn ddiolchgar, i fod yn deg, ac i fod yn drugarog tuag at eraill. Mae’n gallu ein dal ni’n ôl rhag gwneud pethau a fydd yn brifo eraill, codi cywilydd, neu wneud inni deimlo’n euog.

A ydyn ni’n gallu dibynnu ar ein teimladau? Dyma sut mae dyn o’r enw Garrick yn disgrifio ei fywyd pan oedd yn ifanc: “Roeddwn i’n gallu gosod safonau fy hun.” Ond, gwelodd fod gwneud beth oedd yn teimlo’n iawn yn dod â chanlyniadau drwg. Mae’n disgrifio ei fywyd bryd hynny fel “llwybr tywyll o anfoesoldeb, cyffuriau, alcohol, a thrais.”

TEIMLADAU POBL ERAILL

Yn ogystal â’n teimladau ni’n hunain, rydyn ni’n aml yn cael ein harwain gan farn pobl eraill. Drwy wneud hyn, gallwn ni ddysgu o’u profiad a’u doethineb nhw. Rydyn ni’n ennill parch ein teulu, ein ffrindiau, a’n cymuned pan ydyn ni’n gwneud beth maen nhw’n meddwl sy’n iawn.

A ydyn ni’n gallu dibynnu ar deimladau pobl eraill? Pan oedd Priscila yn ddynes ifanc, roedd hi’n gwneud beth oedd yn gyffredin ymysg ei ffrindiau. Roedd hi’n cael rhyw cyn priodi. Ond sylweddolodd hi doedd hi ddim yn hapusach o ganlyniad i wneud beth oedd yn teimlo’n iawn i bobl eraill. Mae hi’n dweud: “Doedd gwneud beth oedd pawb arall yn ei wneud ddim yn gwneud imi deimlo’n dda. Gwnaeth fy arwain i wneud pethau gwirion a pheryglus.”

OES ’NA FFORDD WELL?

Pan ydyn ni’n dewis rhwng da a drwg, mae ein teimladau ni a theimladau pobl eraill yn bwysig. Ond, dydy’r rheini yn unig ddim bob tro yn dod â chanlyniadau da. Gallwn ni syrthio i’r fagl o beidio â gweld y niwed gall ein penderfyniadau ei wneud i ni’n hunain neu i eraill. (Diarhebion 14:12) A gall ein barn ni neu farn pobl eraill fod yn anghywir. Wedi’r cwbl, roedd ’na rai pethau a oedd yn cael eu hystyried yn anghywir sydd nawr yn cael eu hystyried yn gywir. Neu roedd ’na ymddygiad a oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol sydd nawr yn cael ei ystyried yn annerbyniol. Oes ’na ffordd well o gael arweiniad am beth sy’n dda neu’n ddrwg?

Ydy dilyn pobl eraill yn wastad yn ddibynadwy?

Oes ’na safon foesol y gallwn ni ei dilyn heddiw na fydd yn ein siomi ni yn y dyfodol?

Diolch byth, mae ’na rywle gallwn ni droi ato i gael arweiniad moesol sy’n ddibynadwy a byth yn newid. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod lle gallwn ni ddod o hyd i’r arweiniad hwn er mwyn dewis rhwng da a drwg.