At y Colosiaid 3:1-25

  • Y bersonoliaeth hen a newydd (1-17)

    • Lladd rhannau o’r corff (5)

    • Cariad, yn uno pobl yn berffaith (14)

  • Cyngor i deuluoedd Cristnogol (18-25)

3  Fodd bynnag, os cawsoch chi’ch codi gyda’r Crist, parhewch i geisio’r pethau uchod, lle mae’r Crist yn eistedd ar law dde Duw.  Cadwch eich meddyliau ar y pethau uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.  Oherwydd buoch farw, ac mae eich bywyd chi wedi cael ei guddio gyda’r Crist mewn undod â Duw.  Pan fydd y Crist, ein bywyd, yn cael ei ddatguddio, yna byddwch chithau hefyd yn cael eich datguddio gydag ef mewn gogoniant.  Lladdwch, felly, y rhannau o’ch corff sydd ar y ddaear ynglŷn ag anfoesoldeb rhywiol,* aflendid, chwant rhywiol afreolus, dymuniad niweidiol, a thrachwant, sydd yr un fath ag addoli eilunod.  O achos y pethau hynny mae dicter Duw yn dod.  Dyna sut roeddech chithau hefyd yn arfer ymddwyn* yn eich hen ffordd o fyw.*  Ond nawr mae’n rhaid ichi gael gwared ar y pethau hynny i gyd: dicter, llid, drygioni, siarad cas, a geiriau anweddus sy’n dod allan o’ch ceg.  Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd. Tynnwch yr hen bersonoliaeth* a’i gweithredoedd oddi amdanoch chi, 10  a gwisgwch y bersonoliaeth newydd, sy’n cael ei gwneud yn newydd drwy wybodaeth gywir yn ôl delw’r Un a wnaeth ei chreu, 11  lle does ’na ddim Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, rhywun estron, Scythiad,* caethwas, na dyn rhydd; ond Crist ydy pob peth a Christ sydd ym mhawb. 12  Gan hynny, fel y rhai mae Duw wedi eu dewis, rhai sy’n sanctaidd ac yn annwyl, gwisgwch dynerwch a thosturi, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd. 13  Parhewch i oddef eich gilydd ac i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl, hyd yn oed os oes gan rywun achos i gwyno yn erbyn rhywun arall. Yn union fel y mae Jehofa wedi maddau i chi heb ddal yn ôl, mae’n rhaid i chithau hefyd wneud yr un fath. 14  Ond, yn ychwanegol i’r pethau hyn i gyd, gwisgwch gariad, oherwydd ei fod yn uno pobl yn berffaith. 15  Hefyd, gadewch i heddwch y Crist reoli yn eich calonnau, oherwydd fe gawsoch chi’ch galw i’r heddwch hwnnw yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. 16  Gadewch i air y Crist fyw yn hael ynoch chi ym mhob doethineb. Parhewch i ddysgu ac i annog eich gilydd â salmau, moliannau i Dduw, caneuon ysbrydol wedi eu canu gyda diolchgarwch, gan ganu yn eich calonnau i Jehofa. 17  Beth bynnag rydych chi’n ei wneud mewn gair neu weithred, gwnewch bopeth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw y Tad trwyddo ef. 18  Chi wragedd, dylech chi ymostwng i’ch gwŷr, oherwydd bod hyn yn briodol yn yr Arglwydd. 19  Chi wŷr, parhewch i garu eich gwragedd a pheidiwch â gwylltio’n chwerw* wrthyn nhw. 20  Chi blant, byddwch yn ufudd i’ch rhieni ym mhob peth, oherwydd bod hyn yn plesio’r Arglwydd. 21  Chi dadau, peidiwch ag achosi i’ch plant gynhyrfu,* fel nad ydyn nhw’n mynd yn ddigalon. 22  Chi gaethweision, byddwch yn ufudd ym mhob peth i’ch meistri dynol, nid yn unig pan fyddan nhw’n gwylio, er mwyn plesio dynion, ond gyda chalon onest, yn ofni Jehofa. 23  Beth bynnag rydych chi’n ei wneud, gweithredwch â’ch holl enaid* i Jehofa, ac nid i ddynion, 24  oherwydd eich bod chi’n gwybod mai oddi wrth Jehofa y byddwch chi’n derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch y Meistr, Crist. 25  Yn bendant, bydd y sawl sy’n gwneud cam yn cael ei gosbi am y cam a wnaeth, a does ’na ddim ffafriaeth.

Troednodiadau

Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Neu “yn arfer cerdded.”
Neu “pan oeddech chi’n byw fel ’na.”
Llyth., “hen ddyn.”
Roedd “Scythiad” yn awgrymu person anwaraidd.
Neu “bod yn llym.”
Neu “i’ch plant chi gael eu cythruddo; gwylltio.”
Gweler Geirfa, “Enaid.”