Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Gristnogion?

Ydy Tystion Jehofa yn Gristnogion?

 Ydyn. Rydyn ni’n Gristnogion am y rhesymau canlynol:

  •   Rydyn ni’n ceisio dilyn dysgeidiaethau ac ymddygiad Iesu Grist yn ofalus.—1 Pedr 2:21.

  •   Credwn fod Iesu yn hanfodol i’n hiachawdwriaeth ac “nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.”—Actau 4:12.

  •   Wrth i rywun ddod yn un o Dystion Jehofa, mae’n cael ei fedyddio yn enw Iesu.—Mathew 28:18, 19.

  •   Rydyn ni’n gweddïo yn enw Iesu.—Ioan 15:16.

  •   Credwn fod Iesu wedi ei benodi yn Ben ar bob dyn, gydag awdurdod drostyn nhw.—1 Corinthiaid 11:3.

 Ond, rydyn ni’n wahanol i lawer o grefyddau eraill sy’n cael eu galw’n Gristnogion. Er enghraifft, credwn fod y Beibl yn dysgu mai Iesu yw Mab Duw, nid yn rhan o Drindod. (Mathew 16:16; Marc 12:29) Dydyn ni ddim yn credu bod yr enaid yn anfarwol, nac yn credu bod unrhyw sail Ysgrythurol dros ddweud bod Duw yn poenydio pobl am byth mewn uffern danllyd. Hefyd, ni chredwn y dylai arweinwyr crefyddol ddefnyddio teitlau sy’n eu codi yn uwch nag eraill.—Pregethwr 9:5; Eseciel 18:4; Mathew 23:8-10.