Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 2

Pam Rydw i’n Poeni am y Ffordd Rydw i’n Edrych?

Pam Rydw i’n Poeni am y Ffordd Rydw i’n Edrych?

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae rhai pethau’n bwysicach na’r hyn sydd yn y drych.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Wrth i Nia edrych yn y drych, dim ond un peth sydd ar ei meddwl. “Dw i angen colli pwysau!” meddai wrth ei hun—er bod ei rhieni a’i ffrindiau yn dweud ei bod hi mor denau â styllen!

Yn ddiweddar, mae Nia wedi bod yn meddwl am ddulliau drastig o golli pwysau er mwyn iddi fedru gwisgo jîns un maint yn llai. Y cwbl mae hi angen ei wneud yw mynd heb fwyd am ychydig o ddyddiau . . .

Petaet ti’n teimlo fel Nia, beth byddet ti’n ei wneud?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Efallai nid yw’r ffordd rwyt ti’n dy weld dy hun yn wirioneddol gywir, mae fel edrych mewn drych sydd wedi ei blygu allan o siâp

Peth naturiol yw i gymryd diddordeb yn y ffordd rwyt ti’n edrych. Mae’r Beibl yn disgrifio llawer o bobl olygus fel Sara, Rachel, Abigail, Joseff, a Dafydd. Dywed y Beibl bod dynes o’r enw Abisag yn “brydferth iawn.”—1 Brenhinoedd 1:4.

Ar y llaw arall, mae’r ffordd y maen nhw’n edrych yn obsesiwn i rai pobl ifanc. Gall hynny arwain at broblemau difrifol. Ystyria:

  • Mewn un arolwg, roedd 58 y cant o’r merched a holwyd yn honni eu bod nhw dros eu pwysau. Ond dim ond 17 y cant oedd dros eu pwysau mewn gwirionedd.

  • Mewn arolwg arall, roedd 45 y cant o ferched yn meddwl eu bod nhw dros eu pwysau, ond mewn gwirionedd doedden nhw ddim yn pwyso digon!

  • Wrth geisio colli pwysau, mae rhai pobl ifanc yn ildio i elyn creulon, anorecsia. Mae anorecsia yn anhwylder bwyta sy’n peryglu bywyd wrth i berson newynu ei hun.

Os oes gen ti symptomau o anorecsia, neu unrhyw anhwylder bwyta arall, gofynna am help. Beth am ddechrau drwy siarad â rhiant neu oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddo? Dywed y Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17, beibl.net.

Y GWELLIANT GORAU Y GELLI DI EI WNEUD

Yn y bôn, y person yr ydyn ni ar y tu mewn sy’n ein gwneud ni’n ddeniadol. Ystyria fab y Brenin Dafydd, Absalom. Mae’r Beibl yn dweud:

“Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda’r corff perffaith.”—2 Samuel 14:25, beibl.net.

Ond roedd y dyn ifanc hwn yn falch, yn uchelgeisiol, ac yn fradwrus! Nid yw’r Beibl yn tynnu llun hardd o Absalom; mae’n ei bortreadu’n ddyn digywilydd, anffyddlon, a llawn casineb milain.

Felly, mae’r Beibl yn rhoi’r cyngor canlynol i ni:

“Gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd.”—Colosiaid 3:10.

“Nid pethau allanol fel plethu gwallt, . . . ond cymeriad cêl y galon . . . sy’n werthfawr yng ngolwg Duw.”—1 Pedr 3:3, 4.

Nid peth drwg yw dymuno edrych yn dda, ond gwerth cymaint mwy yw dy bersonoliaeth. Yn y pen draw, bydd rhinweddau canmoladwy yn dy wneud di’n ddeniadol yng ngolwg eraill, rhywbeth sydd llawer pwysicach na chorff cryf neu ffigwr da! “Gall prydferthwch ddenu sylw yn sydyn,” dywed merch o’r enw Phylicia, “ond mae’r rhinweddau da ar y tu mewn yn creu argraff sy’n para.”

TROI’R DRYCH ATAT TI

Wyt ti’n teimlo’n siomedig gyda’r ffordd rwyt ti’n edrych?

Wyt ti wedi ystyried llawdriniaeth gosmetig neu ddeiet eithafol er mwyn newid rhywbeth am dy gorff nad wyt ti’n ei hoffi?

Beth hoffet ti ei newid am dy gorff os oedd modd i ti ei wneud? (Dewis bob un sy’n berthnasol.)

  • TALDRA

  • PWYSAU

  • GWALLT

  • SIÂP Y CORFF

  • WYNEB

  • CYFLWR CROEN

Os atebaist “Ydw” neu “Do” yn y ddau gwestiwn cyntaf, ac wedi dewis tri neu mwy o bethau yn y trydydd cwestiwn, ystyria hyn: Mwy na thebyg, dydy’r pethau rwyt ti’n gweld yn namau ddim yn namau yng ngolwg eraill. Paid â phoeni’n ormodol dros y ffordd rwyt ti’n edrych.—1 Samuel 16:7.