Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 9

A Ddylwn i Gredu Mewn Esblygiad?

A Ddylwn i Gredu Mewn Esblygiad?

PAM MAE’N BWYSIG?

Os yw esblygiad yn wir, nid oes pwrpas parhaol i fywyd. Os yw creadigaeth yn wir, gallwn ddarganfod atebion boddhaol i gwestiynau am ein bywyd a’n dyfodol.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Mae Aled mewn penbleth. O’r cychwyn cyntaf, mae wedi credu mai Duw a greodd bopeth. Ond heddiw, honnodd ei athro bioleg yn gryf fod esblygiad yn ffaith sydd wedi’i sylfaenu ar ymchwil wyddonol gadarn. Nid oedd Aled eisiau edrych yn dwp. ‘Beth bynnag,’ mae’n dweud wrtho’i hun, ‘mae gwyddonwyr yn honni bod esblygiad yn ffaith sydd wedi’i brofi, felly ydy hi’n iawn imi amau nhw?’

Os oeddet ti yn sefyllfa Aled, a fyddi di’n derbyn esblygiad am fod gwerslyfrau yn ei gyflwyno fel ffaith?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Mae pobl ar ddwy ochr y ddadl yn gyflym i ddweud beth yw eu safiad, heb wir gwybod pam y maen nhw’n credu hynny.

  • Mae rhai pobl yn credu mewn creadigaeth oherwydd hynny sy’n cael ei dysgu yn yr eglwys.

  • Mae rhai pobl yn credu mewn esblygiad oherwydd hynny sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol.

CHWE CHWESTIWN I’W HYSTYRIED

Dywed y Beibl: “Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.” (Hebreaid 3:4) A yw’n rhesymol i gredu hynny?

Mae honni nad oes gan fywyd Greawdwr mor wirion â honni nad oes gan y tŷ hwn adeiladwr

MAE RHAI YN DWEUD: Daeth popeth yn y bydysawd i fodolaeth o ganlyniad i ryw glec fawr.

1. Pwy neu beth achosodd y glec fawr?

2. Pa un sy’n gwneud mwy o synnwyr—bod popeth wedi dod o ddim, ynteu fod popeth wedi dod o rywun?

MAE RHAI YN DWEUD: Mae pobl wedi esblygu o anifeiliaid.

3. Os esblygodd pobl o anifeiliaid, er enghraifft yr epaod, pam y mae bwlch mor enfawr rhwng galluoedd deallusol dynion, a galluoedd epaod?

4. Pam mae hyd yn oed bywyd “sylfaenol” yn hynod o gymhleth?

MAE RHAI YN DWEUD: Mae esblygiad yn ffaith sydd wedi cael ei brofi.

5. A ydy’r person sy’n dweud hyn wedi archwilio’r dystiolaeth drosto’i hun?

6. Faint o bobl sy’n credu mewn esblygiad oherwydd maen nhw wedi clywed bod pob person deallus yn credu ynddo?

“Os oeddet ti’n cerdded drwy’r goedwig ac yn dod ar draws tŷ crand, a fyddi di’n meddwl: ‘Wel wir! Rhaid bod y coed wedi disgyn yr union ffordd gywir i greu’r tŷ hwn’? Wrth gwrs na fyddi! Nid yw’n rhesymol i gredu hynny. Felly pam y dylen ni gredu bod popeth yn y bydysawd wedi dod i fodolaeth ar hap?”—Julia.

“Dychmyga fod rhywun yn sôn am ffrwydrad mewn argraffdy, ac yn honni bod yr inc, wrth iddo gael ei daflu ar hyd y waliau a’r nenfwd, wedi ffurfio testun geiriadur cyfan. A fyddi di’n credu’r stori?”—Gwen.

PAM CREDU YN NUW?

Mae’r Beibl yn dy annog i ‘roi prawf ar bob peth.’ (1 Thesaloniaid 5:21) Mae hynny’n golygu na ddylet sylfaenu dy gred yn Nuw ar y pethau canlynol yn unig

  • EMOSIWN (Dw i’n teimlo bod rhaid i bŵer uwch fodoli)

  • DYLANWAD ERAILL (Dw i’n byw mewn ardal grefyddol)

  • PWYSAU (Mae fy rhieni wedi fy magu i gredu yn Nuw, doedd dim dewis gen i)

Yn eu lle, dylet gael rhesymau cadarn dros gredu.

“Wrth imi eistedd yn y dosbarth a gwrando ar yr athro yn esbonio sut mae ein cyrff yn gweithredu, does dim amheuaeth gen i fod Duw yn bodoli. Mae gan bob rhan o’n corff weithgaredd gwahanol, a chan amlaf mae’r gweithgareddau hynny’n digwydd heb inni sylweddoli. Mae ein cyrff wir yn anhygoel!”—Teresa.

“Os dw i’n gweld llong enfawr, car, neu nendwr, dw i’n gofyn i fy hun, ‘Pwy adeiladodd hyn?’ Er enghraifft, mae angen pobl ddeallus i greu car, gan fod ei ddarnau lleiaf angen gweithio yn union fel y dyluniwyd er mwyn i bopeth redeg. Mae gan bob car ddyluniwr, ac mae gennyn ninnau un hefyd.”—Richard.

“Mwya’n y byd ro’n i’n astudio gwyddoniaeth, lleia’n y byd oedd esblygiad yn gredadwy. . . . Yn fy ngolwg i, mae angen mwy o ‘ffydd’ i gredu mewn esblygiad nag i gredu mewn Creawdwr.”—Anthony.

RHYWBETH I’W YSTYRIED

Er gwaethaf degawdau o ymchwil, mae gwyddonwyr wedi methu cytuno ar sut digwyddodd esblygiad. Os nad yw gwyddonwyr yn cytuno ar esblygiad, a nhwythau’n honni bod yn arbenigwyr, beth sydd o’i le â chwestiynu’r theori?