Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 1

Pwy Ydw I?

Pwy Ydw I?

PAM MAE’N BWYSIG?

Bydd gwybod pwy wyt ti a sut fath o berson wyt ti yn dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth wrth iti wynebu pwysau.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Ryw ddeg munud yn unig mae Ceri wedi bod yn y parti. Yn sydyn, mae hi’n clywed llais cyfarwydd tu ôl iddi.

“Pam wyt ti’n sefyll yna fel lemon?”

Mae Ceri yn troi i weld ei ffrind Sioned â dwy botel yn ei dwylo. Mae’n amlwg iddi mai alcohol sydd ynddyn nhw. Mae Sioned yn chwifio potel o dan drwyn Ceri ac yn dweud, “Be’ sy’? Ti’n rhy ifanc i gael tipyn o hwyl?”

Mae Ceri eisiau gwrthod, ond mae Sioned yn ffrind iddi. A dydy Ceri ddim eisiau i’w ffrind feddwl ei bod hi’n ddiflas. Sut bynnag, mae Sioned yn un o’r merched da, felly os ydy hi yn yfed mae’n rhaid ei fod yn iawn. ‘Dim ond diod ydy hi,’ meddai Ceri wrth ei hun. ‘Nid cymryd cyffuriau ydw i.’

Os oeddet ti yn yr un sefyllfa â Ceri, beth byddet ti’n ei wneud?

ARHOSA A MEDDYLIA!

Er mwyn gwneud penderfyniad doeth mewn sefyllfa o’r fath, mae angen hunaniaeth arnat. Hunaniaeth yw’r ddealltwriaeth fewnol sy’n dweud pwy wyt ti a beth yw dy gredoau. Mae’r wybodaeth honno yn dy atgyfnerthu di i reoli dy fywyd dy hun, yn lle gadael i eraill ei reoli.—1 Corinthiaid 9:26, 27.

Sut gelli di ddatblygu nerth o’r fath? Beth am ddechrau drwy ateb y cwestiynau canlynol?

1 BETH YW FY NGHRYFDERAU?

Mae gwybod dy alluoedd a’th rinweddau yn rhoi hwb i’th hyder.

ESIAMPL O’R BEIBL: Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth.” (2 Corinthiaid 11:6) Gyda’i wybodaeth fanwl o’r Ysgrythurau, roedd Paul yn medru sefyll yn gadarn pan oedd eraill yn ei herio. Ni adawodd i eiriau cas danseilio ei hyder.—2 Corinthiaid 10:10; 11:5.

GOFYNNA I TI DY HUN: Ysgrifenna sgil neu dalent sydd gen ti.

Yna, disgrifia rinwedd da sydd gen ti. (Er enghraifft, wyt ti yn garedig? yn hael? yn ddibynadwy? yn brydlon?)

2 BETH YW FY NGWENDIDAU?

Gall cadwyn gadarn dorri os yw un ddolen yn wan. Yn yr un modd, gall dy hunaniaeth newid yn gyflym os wyt ti’n gadael i’th wendidau reoli dy fywyd.

ESIAMPL O’R BEIBL: Roedd Paul yn ymwybodol o’i wendidau. Ysgrifennodd: “Yn y bôn dw i’n cytuno gyda Cyfraith Duw. Ond mae rhyw ‘gyfraith’ arall ar waith yn fy mywyd i—mae’n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i’n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i’n garcharor i bechod.”—Rhufeiniaid 7:22, 23, beibl.net

GOFYNNA I TI DY HUN: Pa wendidau rwyt ti angen eu rheoli?

3 BETH YW FY NODAU?

A fyddet ti’n talu i dacsi fynd â ti mewn cylchoedd tan mae’n rhedeg allan o betrol? Mi fyddai hynny’n wirion—ac yn gostus!

Beth yw’r wers? Mae nodau yn rhoi cyfeiriad i’th fywyd ac yn dy gadw di rhag rhedeg mewn cylchoedd. Bydd gen ti gynllun o ble i fynd a sut i gyrraedd yno.

ESIAMPL O’R BEIBL: Ysgrifennodd Paul: “Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â’r nod yn sicr o’i flaen.” (1 Corinthiaid 9:26) Yn lle mynd gyda’r llif yn ddigyfeiriad, gosododd Paul nodau pendant, a’u dilyn.—Philipiaid 3:12-14.

GOFYNNA I TI DY HUN: Ysgrifenna dri nod hoffet ti eu cyflawni o fewn y flwyddyn nesaf.

4 BETH YW FY NGHREDOAU?

Pan wyt ti’n adnabod dy hun yn dda, rwyt ti’n debyg i goeden â gwreiddiau dwfn a all wrthsefyll stormydd cryf

Heb gredoau, byddet ti’n amhendant. Fel camelion, byddet ti’n newid lliw er mwyn cael dy dderbyn—arwydd clir nad oes gen ti hunaniaeth dy hun.

Ond, os wyt ti’n byw yn gytûn â’th gredoau, byddi di’n cryfhau dy hunaniaeth—er gwaethaf beth mae eraill yn ei wneud.

ESIAMPL O’R BEIBL: Pan oedd y proffwyd Daniel yn ei arddegau, penderfynodd yn ei galon i ufuddhau i orchmynion Duw, er gwaethaf y ffaith ei fod yn bell oddi wrth ei deulu. (Daniel 1:8) Drwy wneud hynny, cadwodd yn ffyddlon i’w hunaniaeth. Roedd Daniel yn byw yn ôl ei gredoau.

GOFYNNA I TI DY HUN: Beth yw dy gredoau? Er enghraifft: Wyt ti’n credu yn Nuw? Os wyt, pam? Pa dystiolaeth sy’n dy wneud di’n hyderus fod Duw yn bodoli?

Wyt ti’n credu bod safonau moesol Duw wedi eu gosod er dy les di? Os wyt, pam?

Ar ddiwedd y dydd, beth fyddai’n well gen ti? Bod fel deilen sy’n cael ei hysgubo gan bob awel fach, neu fel coeden sy’n gwrthsefyll stormydd cryf? Cryfha dy hunaniaeth, yna fe fyddi di fel y goeden honno. Ac fe fydd hynny’n dy helpu di i ateb y cwestiwn, Pwy ydw i?