Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ysbryd Addfwyn—Ffordd Doethineb

Ysbryd Addfwyn—Ffordd Doethineb

Gwnaeth Toñi, gofalwraig broffesiynol, ganu’r gloch, a daeth dynes ganol oed i’r drws. Rhoddodd y ddynes bryd o dafod i Toñi am beidio â chyrraedd yn gynharach i ofalu am ei mam oedrannus. Nid oedd Toñi’n hwyr i’w gwaith. Ond eto, roedd hi’n ymddiheuro am y gamddealltwriaeth.

Y TRO nesaf i Toñi fynd, roedd y ddynes yn gas unwaith eto. Beth oedd ymateb Toñi? “Roedd hi’n sefyllfa anodd,” meddai. “Doeddwn i ddim yn haeddu cael fy nhrin fel yna.” Er gwaethaf hynny, ymddiheurodd Toñi unwaith eto gan ddweud ei bod hi’n cydymdeimlo â’r ddynes.

Sut byddet ti wedi ymateb mewn sefyllfa o’r fath? A fyddet ti wedi ceisio bod yn addfwyn? A fyddet ti wedi ei chael hi’n anodd rheoli dy dymer? Heb os, gall fod yn anodd iawn peidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwyd. Pan ydyn ni o dan bwysau neu’n cael ein pryfocio, mae’n anodd aros yn addfwyn.

Ond mae’r Beibl yn annog Cristnogion i fod yn addfwyn, ac yn cysylltu addfwynder â doethineb. “Pwy ohonoch chi sy’n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall?” gofynnodd Iago. “Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae’n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni.” (Iago 3:13) Ym mha ffordd y mae bod yn addfwyn yn dystiolaeth o ddoethineb oddi uchod? A beth all ein helpu ni i feithrin y rhinwedd dduwiol hon?

DOETHINEB BOD YN ADDFWYN

Gall bod yn addfwyn dawelu sefyllfa. “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.”Diar. 15:1.

Gall ymateb yn ddig wneud sefyllfa ddrwg yn waeth oherwydd ei fod yn rhoi coed ar y tân. (Diar. 26:21) Ond ar y llaw arall, gall bod yn addfwyn dawelu sefyllfa. Gall hyd yn oed leddfu agwedd rhywun sy’n elyniaethus.

Gwelodd Toñi hyn â’i llygaid ei hun. O sylwi ar ymateb addfwyn Toñi, dechreuodd y ddynes grio. Eglurodd fod ganddi lawer o broblemau personol a theuluol. Rhoddodd Toñi dystiolaeth dda, a dechreuodd y ddynes astudio’r Beibl, a’r cyfan oherwydd natur heddychol ac addfwyn Toñi.

Gall bod yn addfwyn ein gwneud ni’n hapus. “Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.”Math. 5:5.

Pam mae pobl addfwyn yn hapus? Drwy fod yn addfwyn, mae rhai a oedd yn ymosodol ar un adeg bellach yn hapus. Mae eu bywydau wedi gwella, ac maen nhw’n gwybod bod dyfodol gwych o’u blaenau. (Col. 3:12) Mae Adolfo, arolygwr y gylchdaith yn Sbaen, yn cofio sut roedd ei fywyd cyn iddo ddod i mewn i’r gwir.

“Roedd fy mywyd yn ddiamcan,” meddai Adolfo. “Roeddwn i’n colli fy nhymer gymaint roedd hyd yn oed rhai o fy ffrindiau’n ofni fy ymateb balch a threisgar. Wedyn daeth trobwynt yn fy mywyd. Pan oeddwn i’n cwffio â rhywun un tro, cefais fy nhrywanu chwech gwaith, a bu bron imi waedu i farwolaeth.”

Heddiw, trwy ei ymddygiad a’i eiriau, mae Adolfo yn dysgu eraill i fod yn addfwyn. Mae llawer yn cael eu denu at ei bersonoliaeth glên a hapus. Dywed Adolfo ei fod yn hapus oherwydd y newidiadau y mae wedi eu gwneud. Ac mae’n ddiolchgar i Jehofa am ei helpu i feithrin ysbryd o addfwynder.

Mae bod yn addfwyn yn gwneud Jehofa’n hapus. “Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi’n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy’n gwneud sbort ar fy mhen.”Diar. 27:11.

Mae Jehofa’n cael ei wawdio gan ei elyn mwyaf, y Diafol. Mae gan Dduw bob rheswm i fod yn ddig am iddo gael ei sarhau yn fwriadol fel hyn, ond mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “araf i ddigio.” (Ex. 34:6, BCND) Wrth inni geisio efelychu Jehofa drwy fod yn araf i ddigio, rydyn ni’n dilyn ffordd doethineb sy’n ei blesio’n fawr iawn.—Eff. 5:1.

Lle gelyniaethus yw’r byd heddiw. Efallai byddwn ni’n gorfod ymwneud â phobl sy’n “hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, . . . yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd.” (2 Tim. 3:2, 3) Ond ni ddylai hynny atal y Cristion rhag meithrin addfwynder. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa ni fod y “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw yn . . . meithrin heddwch, addfwynder.” (Iago 3:17) Drwy fod yn heddychol ac yn rhesymol, dangoswn fod gennyn ni ddoethineb duwiol. Bydd hyn yn ein hysgogi ni i ymateb yn addfwyn pan ydyn ni’n cael ein pryfocio, ac i agosáu at Ffynhonnell doethineb, Jehofa.