Y Cyntaf at y Corinthiaid 2:1-16
2 Felly pan ddes i atoch chi, frodyr, wnes i ddim dod yn defnyddio geiriau mawr ac yn ddoeth i gyd gan gyhoeddi cyfrinach gysegredig Duw i chi.
2 Oherwydd penderfynais gyfeirio eich sylw at Iesu Grist yn unig, ac yntau wedi ei ddienyddio ar y stanc.
3 Ac fe ddes i atoch chi mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr;
4 a phan oeddwn i’n siarad ac yn pregethu, doeddwn i ddim yn defnyddio geiriau perswadiol y rhai doeth, ond yn hytrach roedd fy ngeiriau yn dangos grym yr ysbryd glân,
5 er mwyn i’ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb dyn, ond ar rym Duw.
6 Nawr rydyn ni’n siarad am ddoethineb ymhlith y rheini sy’n aeddfed, ond nid doethineb y system hon* na doethineb rheolwyr y system hon, sy’n mynd i ddiflannu.
7 Ond rydyn ni’n siarad am ddoethineb Duw sydd wedi ei guddio mewn cyfrinach gysegredig, a ragordeiniodd Duw cyn y systemau dynol, a hynny i’n gogoniant ni.
8 Ni wnaeth neb o reolwyr y system hon* ddod i wybod am y doethineb hwn, oherwydd petasen nhw wedi dod i wybod amdano, ni fydden nhw wedi dienyddio’r Arglwydd gogoneddus.*
9 Ond yn union fel mae’n ysgrifenedig: “Y pethau na welodd llygad a’r pethau na chlywodd clust, a’r pethau na chawson nhw eu llunio yng nghalon dyn, dyna’r pethau mae Duw wedi eu paratoi ar gyfer y rhai sy’n ei garu.”
10 Ond mae Duw wedi eu datguddio nhw i ni drwy ei ysbryd, oherwydd mae’r ysbryd yn chwilio pob peth, hyd yn oed pethau dwfn Duw.
11 Does dim un dyn yn gwybod sut mae dyn arall yn meddwl. Y dyn ei hun sy’n gwybod beth sydd yn ei galon.* Felly hefyd, does neb wedi dod i wybod beth yw meddyliau Duw heblaw am ysbryd Duw.
12 Nawr rydyn ni wedi derbyn, nid ysbryd y byd, ond yr ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau mae Duw yn ei garedigrwydd wedi eu rhoi i ni.
13 Rydyn ni’n siarad hefyd am y pethau hyn, nid â geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, ond â rhai a ddysgwyd gan yr ysbryd, wrth inni esbonio materion ysbrydol â geiriau ysbrydol.
14 Ond dydy dyn corfforol ddim yn derbyn y pethau sy’n ymwneud ag ysbryd Duw, oherwydd eu bod nhw’n ffolineb iddo; ac nid yw’n gallu eu deall nhw, oherwydd mae’n rhaid chwilio i mewn iddyn nhw mewn ffordd ysbrydol.
15 Fodd bynnag, mae’r dyn ysbrydol yn chwilio i mewn i bob peth, ond does yr un dyn yn chwilio i mewn iddo ef.
16 Oherwydd “pwy sydd wedi dod i ddeall meddwl Jehofa, er mwyn rhoi cyfarwyddiadau iddo?” Ond mae meddwl Crist gynnon ni.
Troednodiadau
^ Neu “wedi dienyddio ar y stanc yr Arglwydd gogoneddus.”
^ Neu “Ysbryd y dyn sy’n gwybod beth sydd ynddo ef ei hun.”