Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Newid Hinsawdd a’n Dyfodol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud

Newid Hinsawdd a’n Dyfodol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud

 “Mae’r trychineb hinsawdd wedi cyrraedd. Mae’r ddaear yn dod yn fwy anodd i fyw ynddi yn barod.”—The Guardian.

 Mae dynolryw yn wynebu argyfwng y mae wedi ei achosi ei hun. Mae’r mwyafrif o wyddonwyr yn cytuno mai gweithgareddau dynion sy’n gyfrifol am gynhesu byd-eang. Mae’r codiad yn y tymheredd eisoes wedi newid yr hinsawdd gyda chanlyniadau trychinebus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  •   Mwy o ddigwyddiadau tywydd difrifol, fel cyfnodau o wres llethol, sychder mawr, a stormydd, sydd yn eu tro yn achosi mwy o lifogydd a thanau gwyllt.

  •   Rhewlifoedd ac iâ’r Arctig yn toddi.

  •   Lefelau’r môr yn codi.

 Mae’r argyfwng hinsawdd wedi effeithio ar bob cwr o’r byd. Ar ôl disgrifio’r amodau mewn 193 o wledydd, dywedodd adroddiad yn y New York Times: “Mae’r blaned yn anfon neges SOS.” Oherwydd yr holl farwolaeth a dioddefaint mae newid hinsawdd wedi ei achosi, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan mai dyma’r “bygythiad iechyd mwyaf mae dynolryw yn ei wynebu.”

 Ond, mae gynnon ni reswm dros fod yn obeithiol am y dyfodol. Cafodd y digwyddiadau a welwn ni heddiw eu rhagfynegi yn y Beibl. Mae’r Beibl hefyd yn esbonio beth bydd Duw yn ei wneud i amddiffyn ein dyfodol a pham gallwn ni ddisgwyl y bydd yn gweithredu.

Ydy newid hinsawdd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl?

 Ydy. Mae’r argyfwng hinsawdd sydd wedi ei achosi gan gynhesu byd-eang yn cyd-fynd â digwyddiadau a ragfynegodd y Beibl ar gyfer ein hamser ni.

 Proffwydoliaeth: Mae Duw yn mynd i “ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:18.

 Rhagfynegodd y Beibl amser pan fyddai gweithgareddau dynion bron yn difetha’r ddaear. O ganlyniad i gynhesu byd-eang, mae pobl heddiw yn difetha’r blaned ar raddfa na welwyd mohono erioed o’r blaen.

 Mae’r broffwydoliaeth hon yn rhoi un rheswm pam na allwn ni ddisgwyl i ddynion achub y ddaear. Sylwch y bydd Duw yn gweithredu tra bo pobl wrthi’ndinistrio’r ddaear.” Pa bynnag cynnydd mae pobl â’r cymhelliad gorau yn ei wneud yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, fydd hi ddim yn ddigon i gadw dynolryw rhag difetha’r ddaear.

 Proffwydoliaeth: “Bydd ... digwyddiadau dychrynllyd.”—Luc 21:11.

 Rhagfynegodd y Beibl y bydden ni’n gweld “digwyddiadau dychrynllyd” yn ein hamser ni. Mae newid hinsawdd wedi achosi digwyddiadau tywydd dychrynllyd o gwmpas y ddaear. Heddiw, mae rhai pobl yn dioddef o eco-bryder, hynny yw, maen nhw’n poeni trwy’r amser bydd yr amgylchedd yn dirywio mor ddrwg na fydd pobl yn gallu goroesi.

 Proffwydoliaeth: “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. . . . Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian, . . . yn annuwiol . . . yn amharod i faddau, . . . yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb.”—2 Timotheus 3:1-4.

 Rhagfynegodd y Beibl yr agweddau a’r ymddygiad dynol sydd wedi bod yn gyfrifol am yr argyfwng hinsawdd. Mae llywodraethau a busnesau yn rhoi buddiannau economaidd yn gyntaf yn hytrach nag ystyried sut fath o fywyd fydd ’na i bobl yn y dyfodol. Hyd yn oed pan maen nhw’n ceisio cyd-weithio, dydyn nhw ddim yn gallu cytuno ar y camau angenrheidiol i stopio cynhesu byd eang.

 Mae’r broffwydoliaeth hon yn dangos na ddylen ni ddisgwyl y bydd pobl yn gyffredinol yn newid eu hymddygiad a dechrau edrych ar ôl y ddaear. Yn hytrach, mae’r Beibl yn dweud y byddai pobl gydag agweddau hunanol “yn mynd o ddrwg i waeth.”—2 Timotheus 3:13.

Pam y gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw’n gweithredu

 Mae’r Beibl yn datgelu bod Jehofa a Dduw, ein Creawdwr, yn bendant eisiau’r gorau ar gyfer ein planed a’r rhai sy’n byw arni. Ystyriwch dair adnod sy’n dangos y bydd Duw yn gweithredu.

  1.  1. Gwnaeth Duw, “yr un wnaeth y ddaear,” greu’r blaned “nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.”—Eseia 45:18.

     Bydd Duw yn cyflawni ei fwriad ar gyfer y ddaear. (Eseia 55:11) Ni fydd yn gadael iddi gael ei dinistrio neu ddod yn amhosib byw ynddi.

  2.  2. “Bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.—Salm 37:11, 29, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

     Mae Duw yn addo y bydd pobl yn byw ar y ddaear am byth o dan amodau heddychlon.

  3.  3. “Torrir y rhai drwg o’r tir,”—Diarhebion 2:22, BCND.

     Mae Duw yn addo cael gwared ar y rhai sy’n parhau i wneud pethau drwg, gan gynnwys y rhai sy’n difetha’r ddaear.

Beth bydd Duw yn ei wneud ar gyfer ein dyfodol

 Sut bydd Duw yn cyflawni ei addewidion ar gyfer y ddaear? Bydd yn gwneud hynny drwy lywodraeth fyd-eang sy’n cael ei hadnabod fel Teyrnas Dduw. (Mathew 6:10) Bydd y Deyrnas honno yn rheoli o’r nef. Fydd dim rhaid iddi wneud cytundebau gyda llywodraethau dynol ar faterion yn ymwneud â’r ddaear a’i hamgylchedd. Yn hytrach, bydd Teyrnas Dduw yn disodli llywodraethau dynol.—Daniel 2:44.

 Mae Teyrnas Dduw yn newyddion da ar gyfer holl ddynolryw a’r byd naturiol. (Salm 96:10-13) Ystyriwch beth bydd Jehofa Dduw yn ei wneud drwy gyfrwng ei Deyrnas.

  •   Adfer yr amgylchedd

     Beth mae’r Beibl yn ei ddweud: “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer ein dyfodol: Bydd Jehofa’n adfer y blaned, hyd yn oed llefydd sydd wedi cael eu difrodi’n arw gan ddynion.

  •   Rheoli tywydd eithafol

     Beth mae’r Beibl yn ei ddweud: “Gwnaeth [Jehofa] i’r storm dawelu; roedd y tonnau’n llonydd.”—Salm 107:29.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer ein dyfodol: Mae gan Jehofa’r grym i reoli’r elfennau. Pryd hynny fydd pobl ddim yn gorfod dioddef tywydd eithafol.

  •   Dysgu pobl i ofalu am y ddaear yn dda

     Beth mae’r Beibl yn ei ddweud: “Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a’ch helpu chi i wybod sut i fyw.”—Salm 32:8.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer ein dyfodol: Rhoddodd Jehofa y cyfrifoldeb o ofalu am y ddaear i ddynolryw. (Genesis 1:28; 2:15) Bydd yn dysgu ni’r ffordd orau i edrych ar ôl y greadigaeth a byw mewn ffordd sydd ddim yn niweidio’r amgylchedd.

a Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?