Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Beth Bydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

Dysgodd Iesu i’w ddisgyblion weddïo am i’r Deyrnas ddod. Gwyddai nad ewyllys Duw yw’r pethau ofnadwy sy’n digwydd ar y ddaear. Fe wyddai hefyd mai Teyrnas Dduw yw’r unig lywodraeth a all ddatrys y problemau hyn. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?

BETH MAE TEYRNAS DDUW EISOES WEDI EI WNEUD?

Yn yr erthygl flaenorol edrychon ni ar yr arwydd a roddodd Iesu. Mae’r arwydd yn dystiolaeth bod Teyrnas Dduw wedi ei sefydlu yn y nef a Iesu Grist yn Frenin arni.

Mae’r Beibl yn dweud y byddai Iesu, ar ôl iddo ddod yn Frenin, yn bwrw Satan a’i gythreuliaid allan o’r nef. Mae eu dylanwad bellach wedi ei gyfyngu i’r ddaear, a dyna un o’r rhesymau i bethau waethygu cymaint ers 1914.—Datguddiad 12:7, 9.

Er bod cyflwr y byd yn dirywio, mae Iesu, ac yntau’n Frenin ar Deyrnas Dduw, wedi gwneud llawer i helpu pobl o gwmpas y byd. Diolch i’r gwaith o ddysgu pobl am y Beibl a ragwelodd Iesu, mae llawer yn dysgu sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau. (Eseia 2:2-4) Mae miliynau wedi dysgu sut i wneud bywyd teuluol yn hapusach, a sut i gadw gwaith a phethau materol yn eu lle. Maen nhw’n dysgu sut i wella eu bywydau heddiw ac maen nhw’n newid i fod yn bobl y bydd Duw yn dymuno eu gweld yn ei Deyrnas.

BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD NESAF?

Er bod Iesu eisoes yn llywodraethu yn y nefoedd, parhau y mae’r llywodraethau dynol ar y ddaear. Ond mae Duw wedi dweud wrth Iesu: “Llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.” (Salm 110:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yn fuan, bydd Iesu yn dinistrio pawb sy’n ei wrthwynebu ac yn dod â rhyddhad i’r rhai sy’n fodlon ufuddhau i Dduw.

Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn

  • Dinistrio gau grefydd. Bydd crefyddau sydd wedi dweud celwyddau am Dduw ac wedi gwneud bywyd yn anodd i bobl yn diflannu. Mae’r Beibl yn cymharu gau grefydd â phutain. Bydd gweld diwedd arni yn ysgytwad i lawer.—Datguddiad 17:15, 16.

  • Rhoi terfyn ar lywodraeth ddynol. Bydd Teyrnas Dduw yn dod â llywodraeth ddynol i ben.—Datguddiad 19:15, 17, 18.

  • Cael gwared ar bobl ddrwg. Beth am y rhai sy’n benderfynol o wneud pethau drwg a gwrthod ufuddhau i Dduw? “Bydd pobl ddrwg . . . yn cael eu rhwygo o’r tir.”—Diarhebion 2:22.

  • Cael gwared ar Satan a’r cythreuliaid. Ni fydd Satan a’r cythreuliaid yn gallu “camarwain y cenhedloedd bellach.”—Datguddiad 20:3, 10.

Beth fydd hyn i gyd yn ei olygu i’r rhai sy’n croesawu Teyrnas Dduw?

BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD DROS Y DDYNOLRYW?

Ac yntau’n Frenin yn y nefoedd, bydd Iesu yn gwneud llawer mwy nag unrhyw arweinydd dynol. Caiff gymorth 144,000 o gyd-lywodraethwyr sy’n cael eu dewis o blith y ddynoliaeth. (Datguddiad 14:1, 3; 20:4, 6) Bydd Iesu yn sicrhau bod ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear. Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar gyfer y bobl sy’n byw ar y ddaear?

  • Dileu salwch a marwolaeth. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl,’” ac “ni fydd marwolaeth mwyach.”—Eseia 33:24; Datguddiad 21:4.

  • Dod â gwir heddwch a diogelwch. “Bydd dy blant yn profi heddwch mawr,” a “bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Eseia 54:13; Micha 4:4.

  • Rhoi gwaith ystyrlon i bawb. “Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd.”—Eseia 65:22, 23.

  • Datrys problemau’r amgylchedd. “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

  • Dysgu pobl beth y mae angen ei wneud er mwyn byw am byth. “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.

Mae Duw eisiau ichi gael pob un o’r bendithion hynny. (Eseia 48:18) Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio beth y gallwch chi ei wneud nawr i fod yn rhan o’r dyfodol braf hwn.