Y Cyntaf at y Corinthiaid 3:1-23

  • Corinthiaid yn dal yn gnawdol (1-4)

  • Duw yn gwneud iddo dyfu (5-9)

    • Cyd-weithwyr Duw (9)

  • Adeiladu â deunydd sy’n gwrthsefyll tân (10-15)

  • Chi ydy teml Duw (16, 17)

  • Doethineb bydol yn ffolineb i Dduw (18-23)

3  Felly, frodyr, doeddwn i ddim yn gallu siarad â chi fel â dynion ysbrydol, ond fel â dynion cnawdol, fel â babanod yng Nghrist.  Fe wnes i roi llaeth ichi, nid bwyd solet, oherwydd nad oeddech chi eto’n ddigon cryf. Yn wir, dydych chi ddim yn ddigon cryf nawr chwaith,  oherwydd cnawdol ydych chi o hyd. Gan fod cenfigen a chweryla yn eich plith, onid ydych chi’n gnawdol ac onid ydych chi’n cerdded fel y mae dynion?  Oherwydd pan fydd un yn dweud, “Rydw i’n ddisgybl i Paul,” ond un arall yn dweud, “Minnau i Apolos,” onid ydych chi’n ymddwyn fel dynion y byd?  Beth, felly, ydy Apolos? Ie, beth ydy Paul? Gweinidogion ydyn nhw a thrwyddyn nhw y daethoch chi’n gredinwyr, yn union fel y caniataodd yr Arglwydd i bob un.  Fi wnaeth blannu, Apolos wnaeth ddyfrio, ond Duw wnaeth barhau i wneud iddo dyfu,  felly dydy’r un sy’n plannu ddim yn bwysig, na’r un sy’n dyfrio, ond Duw, yr un sy’n gwneud iddo dyfu, ydy’r un pwysig.  Nawr mae’r un sy’n plannu a’r un sy’n dyfrio yn un,* ond bydd pob person yn derbyn ei wobr ei hun yn ôl ei waith ei hun.  Oherwydd cyd-weithwyr Duw ydyn ni. Cae sy’n cael ei drin gan Dduw ydych chi, adeilad Duw. 10  Yn ôl y caredigrwydd rhyfeddol a roddodd Duw i mi, fe wnes i osod sylfaen fel prif adeiladwr medrus, ond mae rhywun arall yn adeiladu arni. Ond gadewch i bob un wylio sut mae’n adeiladu arni. 11  Oherwydd ni all neb osod unrhyw sylfaen arall yn lle’r un sydd wedi ei gosod, sef Iesu Grist. 12  Nawr os bydd unrhyw un yn adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, gemau gwerthfawr, coed, gwair neu wellt, 13  bydd gwaith pob un yn cael ei amlygu, oherwydd bydd y dydd yn ei ddatgelu, oherwydd bydd tân yn ei ddatguddio, a bydd y tân ei hun yn profi ansawdd gwaith pob un. 14  Os bydd y gwaith a adeiladodd unrhyw un arni yn aros, bydd ef yn derbyn gwobr; 15  os bydd gwaith unrhyw un yn cael ei losgi, bydd ef yn dioddef colled, ond bydd ef ei hun yn cael ei achub; ond, os felly, trwy dân fydd hynny. 16  Onid ydych chi’n gwybod mai chi’ch hunain ydy teml Duw a bod ysbryd Duw ynoch chi?* 17  Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw yn ei ddinistrio ef; oherwydd mae teml Duw yn sanctaidd, a chi ydy’r deml honno. 18  Peidiwch â’ch twyllo eich hunain: Os bydd unrhyw un yn eich plith yn meddwl ei fod yn ddoeth yn y system hon,* gadewch iddo fod yn ffŵl, er mwyn iddo ddod yn ddoeth. 19  Oherwydd mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw, oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Mae ef yn dal y rhai doeth yn eu maglau cyfrwys eu hunain.” 20  A hefyd: “Mae Jehofa yn gwybod bod rhesymu’r dynion doeth yn ofer.” 21  Felly gadewch i neb frolio am ddynion; oherwydd mae pob peth yn perthyn i chi, 22  p’run ai Paul neu Apolos neu Ceffas* neu’r byd neu fywyd neu farwolaeth neu bethau sydd yma nawr neu bethau sydd i ddod, mae pob peth yn perthyn i chi; 23  a chithau’n perthyn i Grist; a Christ yn perthyn i Dduw.

Troednodiadau

Neu “mae gan yr un sy’n plannu a’r un sy’n dyfrio yr un bwriad.”
Neu “yn trigo ynoch chi?”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
A elwir hefyd Pedr.