Y Cyntaf at y Corinthiaid 16:1-24

  • Casgliad ar gyfer Cristnogion Jerwsalem (1-4)

  • Cynlluniau teithio Paul (5-9)

  • Timotheus ac Apolos yn bwriadu ymweld (10-12)

  • Anogaeth a chyfarchion (13-24)

16  Nawr, ynglŷn â’r casgliad ar gyfer y rhai sanctaidd, dilynwch y cyfarwyddiadau a roddais i gynulleidfaoedd Galatia.  Ar y dydd cyntaf o bob wythnos, dylai pob un ohonoch chi roi rhywbeth o’r neilltu yn ôl yr hyn sydd ganddo, fel na fydd casgliadau yn cael eu gwneud pan fydda i’n cyrraedd.  Ond pan fydda i’n cyrraedd, bydda i’n anfon y dynion rydych chi wedi eu cymeradwyo yn eich llythyrau i fynd â’ch rhodd garedig i Jerwsalem.  Fodd bynnag, os mai’r peth doeth ydy i minnau fynd yno hefyd, byddan nhw’n mynd yno gyda mi.  Ond fe ddo i atoch chi ar ôl imi fynd trwy Facedonia, oherwydd fe fydda i’n mynd trwy Facedonia;  ac efallai fe wna i aros neu hyd yn oed treulio’r gaeaf gyda chi, er mwyn i chi allu dod gyda mi ran o’r ffordd i le bynnag y bydda i’n mynd.  Oherwydd dydw i ddim eisiau eich gweld chi nawr dim ond wrth daro heibio, gan fy mod i’n gobeithio treulio peth amser gyda chi, os bydd Jehofa yn caniatáu.  Ond rydw i’n aros yn Effesus tan Ŵyl y Pentecost,  oherwydd mae drws mawr sy’n arwain i weithgarwch wedi cael ei agor i mi, ond mae ’na lawer o wrthwynebwyr. 10  Nawr os bydd Timotheus yn cyrraedd, gwnewch yn siŵr nad oes ganddo ddim byd i’w ofni yn eich plith, oherwydd mae’n gwneud gwaith Jehofa, yn union fel rydw innau. 11  Felly, peidiwch â gadael i neb edrych i lawr arno. Anfonwch ef mewn heddwch, er mwyn iddo allu dod ata i, oherwydd fy mod i’n aros amdano gyda’r brodyr. 12  Nawr ynglŷn ag Apolos ein brawd, gwnes i erfyn arno i ddod atoch chi gyda’r brodyr. Doedd ef ddim yn bwriadu dod nawr, ond fe fydd yn dod pan ddaw’r cyfle. 13  Cadwch yn effro, safwch yn gadarn yn y ffydd, daliwch ati yn ddewr,* byddwch yn gryf. 14  Gwnewch bob peth mewn cariad. 15  Nawr rydw i’n erfyn arnoch chi, frodyr: Rydych chi’n gwybod mai teulu Steffanas ydy’r disgyblion cyntaf yn Achaia* a’u bod nhw wedi ymroi i weini ar y rhai sanctaidd. 16  Daliwch ati hefyd i ymostwng i bobl fel ’na ac i bawb sy’n cydweithredu ac yn gweithio’n galed. 17  Ond rydw i’n llawenhau am bresenoldeb Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus, oherwydd eu bod nhw’n gysur imi gan nad ydych chi yma. 18  Oherwydd eu bod nhw wedi adfywio fy ysbryd i a’ch ysbryd chithau hefyd. Felly, dangoswch werthfawrogiad am ddynion o’r fath. 19  Mae cynulleidfaoedd Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Prisca ynghyd â’r gynulleidfa sydd yn eu cartref yn eich cyfarch chi yn gynnes yn yr Arglwydd. 20  Mae’r brodyr i gyd yn eich cyfarch chi. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. 21  Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. 22  Os oes rhywun heb gariad tuag at yr Arglwydd, melltith arno. Tyrd, ein Harglwydd! 23  Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu fod gyda chi. 24  Rydw i’n dymuno i fy nghariad i fod gyda phob un ohonoch chi sydd mewn undod â Christ Iesu.

Troednodiadau

Neu “mewn ffordd wrol.”
Neu “blaenffrwyth Achaia.”