Neidio i'r cynnwys

Beth Sy’n Digwydd Mewn Priodasau Tystion Jehofa?

Beth Sy’n Digwydd Mewn Priodasau Tystion Jehofa?

 Gan amlaf bydd priodasau Tystion Jehofa yn cynnwys seremoni syml ac urddasol gydag anerchiad byr sy’n seiliedig ar y Beibl. Ar ôl y seremoni efallai bydd parti neu bryd o fwyd. a Aeth Iesu i wledd briodas yn ninas Cana yn fuan ar ôl dechrau ei weinidogaeth.—Ioan 2:1-11.

 Beth sy’n digwydd yn y seremoni?

 Prif ran y seremoni yw’r anerchiad, sy’n para tua 30 munud ac sy’n cael ei draddodi gan un o weinidogion Tystion Jehofa. Bydd y drafodaeth galonogol yn dangos sut mae’r Beibl yn gallu helpu’r cwpl i gael priodas gariadus, hapus, a pharhaol.—Effesiaid 5:33.

 Mewn llawer o wledydd, mae’r llywodraeth yn rhoi awdurdod i weinidogion Tystion Jehofa i weinyddu priodasau. Os felly, tua diwedd yr anerchiad bydd y cwpl yn gwneud addunedau. Efallai byddan nhw hefyd yn cyfnewid modrwyau. Mae’r gweinidog wedyn yn cyhoeddi eu bod nhw’n ŵr a gwraig.

 Mewn gwledydd eraill, mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bobl briodi mewn swyddfa gofrestru. Bydd y cwpl yn gwneud hyn yn fuan cyn yr anerchiad priodas. Os na wnaethon nhw addunedau yn y seremoni sifil, gallan nhw wneud hynny tua diwedd yr anerchiad. Os gwnaethon nhw addunedau, gallan nhw ddewis eu hailadrodd, ond y tro hwn gan siarad yn amser y gorffennol. Ar ddiwedd yr anerchiad bydd gweddi i ofyn am fendith Duw ar y briodas.

 Ble mae priodasau Tystion Jehofa yn cael eu cynnal?

 Mae llawer o Dystion yn dewis cynnal seremoni’r briodas yn Neuadd y Deyrnas, os bydd un ar gael. b Os bydd dathliad wedyn, bydd hwnnw’n cael ei gynnal yn rhywle arall.

 Pwy all fynd i’r briodas?

 Os bydd y briodas yn cael ei chynnal yn Neuadd y Deyrnas, mae fel arfer yn agored i bawb—boed nhw’n Dystion neu beidio. Os bydd gwledd yn dilyn, y cwpl sy’n dewis y gwesteion.

 A oes rhaid gwisgo’n smart?

 Nid oes cod gwisg penodol ar gyfer priodasau yn Neuadd y Deyrnas, ond mae Tystion Jehofa yn dilyn cyngor y Beibl i wisgo yn wylaidd ac mewn ffordd sy’n parchu’r achlysur. Maen nhw’n ddiolchgar pan fydd eraill yn gwneud yr un fath. (1 Timotheus 2:9) Wrth gwrs mae’r un peth yn wir am y wledd neu’r parti, os ydy’r cwpl yn dewis cael un.

 A fydd pobl yn rhoi anrhegion?

 Mae’r Beibl yn ein hannog i fod yn hael. (Salm 37:21) Mae Tystion Jehofa yn hapus i roi ac i dderbyn anrhegion priodas. (Luc 6:38) Ond ni fydd Tystion yn mynnu anrhegion nac yn cyhoeddi enwau’r rhai sy’n eu rhoi. (Mathew 6:3, 4; 2 Corinthiaid 9:7; 1 Pedr 3:8) Mae arferion o’r fath yn mynd yn groes i gyngor y Beibl, ac yn gwneud i westeion deimlo’n annifyr.

 A fydd llwncdestun?

 Na fydd. Nid yw Tystion Jehofa yn cynnig llwncdestunau, gan fod y traddodiad â gwreiddiau mewn arferion gau grefydd. c Mae’r Tystion yn dymuno’n dda i’r cwpl mewn ffyrdd eraill.

 A fydd pobl yn taflu reis neu gonffeti?

 Na fyddan. Mewn rhai gwledydd mae pobl yn taflu reis, conffeti, neu rywbeth tebyg ar y cwpl sydd newydd briodi. Maen nhw’n credu bydd hyn yn dod â lwc, hapusrwydd, a hir oes iddyn nhw. Ond mae Tystion Jehofa yn osgoi arferion sydd â chysylltiad ofergoelus. Mae hyn yn cynnwys gofyn i ‘Ffawd’ am lwc dda, sy’n groes i egwyddorion y Beibl.—Eseia 65:11.

 A fydd bwyd a diod yn y parti?

 Nid yw’r seremoni yn Neuadd y Deyrnas yn cynnwys bwyd a diod. Mae rhai cyplau yn dewis cynnal gwledd wedyn. (Pregethwr 9:7) Os ydyn nhw’n dewis cael diodydd meddwol, byddan nhw’n sicrhau nad oes gormod ar gael, a hynny dim ond i’r rhai sy’n ddigon hen i’w yfed yn gyfreithlon.—Luc 21:34; Rhufeiniaid 13:1, 13.

 A fydd cerddoriaeth neu ddawnsio?

 Os yw’r cwpl yn dewis cael parti, gallan nhw ddewis cael cerddoriaeth a dawnsio neu beidio. (Pregethwr 3:4) Bydd y gerddoriaeth yn chwaethus, ond yn amrywio yn ôl dewis personol a diwylliant y cwpl. Bydd y seremoni yn Neuadd y Deyrnas yn aml yn cynnwys cerddoriaeth â themâu sy’n seiliedig ar y Beibl.

 A ydy Tystion Jehofa yn dathlu penblwyddi priodas?

 Gan nad oes unrhyw egwyddorion yn y Beibl sydd o blaid neu yn erbyn dathlu penblwyddi priodas, mae Tystion yn penderfynu drostyn nhw ei hunain a fyddan nhw’n dathlu penblwyddi priodas ai peidio. Os ydyn nhw’n dathlu, eu dewis nhw yw gwneud hynny yn breifat, neu yng nghwmni eu ffrindiau a’u teuluoedd.

a Bydd arferion penodol a gofynion y gyfraith yn amrywio o le i le.

b Nid yw’r gweinidog yn codi tâl am y seremoni, ac nid oes tâl am ddefnyddio Neuadd y Deyrnas.

c Am fwy o wybodaeth ar wreiddiau paganaidd llwncdestunau, gweler Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” tudalen 154, paragraff 19, 20, a “Questions From Readers” yn y Watchtower, Chwefror 15, 2007.