Yr Ail at y Corinthiaid 9:1-15

  • Cymhelliad dros roi (1-15)

    • Duw yn caru pobl sy’n rhoi’n llawen (7)

9  Nawr ynglŷn â’r weinidogaeth i’r rhai sanctaidd, does dim angen i mi ysgrifennu atoch chi,  oherwydd fy mod i’n gwybod am eich parodrwydd i helpu, rhywbeth rydw i’n brolio amdano wrth y Macedoniaid, fod Achaia eisoes wedi bod yn barod am flwyddyn, ac mae eich sêl wedi ysgogi’r rhan fwyaf ohonyn nhw.  Ond rydw i’n anfon y brodyr, fel na fydd ein brolio ni amdanoch chi’n ofer yn hyn o beth ac y byddwch chi’n wirioneddol barod, yn union fel y dywedais y byddech chi.  Fel arall, petai’r Macedoniaid yn dod gyda mi a chithau ddim yn barod, bydden ni—heb sôn amdanoch chi—yn cael ein cywilyddio oherwydd ein hyder ynoch chi.  Felly roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n angenrheidiol annog y brodyr i ddod atoch chi o fy mlaen i ac i drefnu bod eich rhodd hael addawedig yn barod ymlaen llaw, fel y bydd yn barod fel rhodd hael, ac nid fel rhywbeth sydd wedi ei wasgu oddi arnoch chi.  Ond yn hyn o beth, bydd pwy bynnag sy’n hau’n brin yn medi’n brin, a bydd pwy bynnag sy’n hau’n hael hefyd yn medi’n hael.  Gadewch i bob un wneud yn union fel mae wedi penderfynu yn ei galon, nid yn anfodlon nac o dan orfodaeth, oherwydd mae Duw yn caru pobl sy’n rhoi’n llawen.  Ar ben hynny, mae Duw yn gallu achosi i’w holl garedigrwydd rhyfeddol orlifo yn eich achos chi er mwyn ichi bob amser fedru eich cynnal eich hunain ym mhob peth, yn ogystal â chael digon o’r hyn sydd ei angen ar gyfer pob gwaith da.  (Yn union fel mae’n ysgrifenedig: “Mae ef wedi gwasgaru yn eang;* mae wedi rhoi i’r tlodion. Mae ei gyfiawnder yn para am byth.” 10  Nawr bydd yr Un sy’n rhoi digonedd o had i’r heuwr, ac o fara i’w fwyta, yn rhoi ac yn amlhau’r had i chi ei hau, a bydd ef yn achosi i gynhaeaf eich cyfiawnder lwyddo.) 11  Ym mhob peth rydych chi’n cael eich cyfoethogi ar gyfer pob math o haelioni, a thrwy ein hymdrechion mae haelioni o’r fath yn achosi i bobl roi diolch i Dduw; 12  oherwydd mae gweinidogaeth y gwasanaeth cyhoeddus hwn, nid yn unig yn darparu’n dda ar gyfer anghenion y rhai sanctaidd, ond mae hefyd yn gyfoethog mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw. 13  Maen nhw’n gogoneddu Duw trwy’r dystiolaeth mae’r weinidogaeth gymorth hon yn ei rhoi, oherwydd eich bod chi’n ildio i’r newyddion da am y Crist, fel y gwnaethoch chi ddatgan yn gyhoeddus, ac oherwydd eich bod chi’n hael yn eich cyfraniad iddyn nhw ac i bawb. 14  A thrwy erfyn drostoch chi mewn gweddi, maen nhw’n mynegi eu cariad tuag atoch chi oherwydd y caredigrwydd rhyfeddol a rhagorol mae Duw wedi ei roi i chi. 15  Diolch i Dduw am roi rhodd i ni sydd am ddim ac sydd y tu hwnt i eiriau.

Troednodiadau

Neu “yn hael.”