Neidio i'r cynnwys

Sut Un Ydy Duw?

Sut Un Ydy Duw?

Po fwyaf a welwn o rinweddau ffrind, mwyaf rydyn ni’n ei adnabod, a dyfnaf fydd ein cyfeillgarwch. Yn yr un modd, po fwyaf a welwn o rinweddau Jehofa, mwyaf y byddwn yn ei adnabod, a dyfnaf fydd ein cyfeillgarwch. O’r holl rinweddau rhyfeddol sydd gan Dduw, mae pedair ohonyn nhw’n arbennig: ei nerth, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a’i gariad.

MAE DUW YN NERTHOL

“O! Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy’r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a’r ddaear.”JEREMEIA 32:17.

Gallwn weld nerth Duw yn y greadigaeth. Er enghraifft, wrth sefyll y tu allan ar ddiwrnod braf o haf, byddwn ni’n teimlo gwres yr haul ar ein croen. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n profi nerth Jehofa. Pa mor rymus yw’r haul? Dywedir bod y tymheredd yn y craidd tua 15,000,000°C. Mae’r ynni sy’n dod o’r haul bob eiliad yn cyfateb i gannoedd o filiynau o fomiau niwclear.

Serch hynny, un bach yw ein haul ni o’i gymharu â llawer o’r sêr yn y bydysawd. Mae gwyddonwyr yn meddwl bod diamedr un o’r sêr mwyaf, UY Scuti, tua 1,700 gwaith mwy na diamedr yr haul. Petai UY Scuti yn sefyll yn lle’r haul, byddai’r ddaear a hyd yn oed y blaned Iau y tu mewn iddi. Mae’r ffeithiau hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o ystyr i eiriau Jeremeia, pan ddywedodd mai nerth Jehofa oedd yn gyfrifol am greu’r nefoedd a’r ddaear, hynny yw’r bydysawd.

Sut mae nerth Duw yn ein helpu ni? Mae ein bywydau yn dibynnu ar y pethau mae Duw wedi eu creu, gan gynnwys yr haul a’r holl adnoddau rhyfeddol sydd ar y ddaear. Ar ben hynny, mae Duw yn defnyddio ei nerth i’n helpu ni fel unigolion. Ym mha ffordd? Yn y ganrif gyntaf, rhoddodd Duw nerth i Iesu i wneud gwyrthiau. Darllenwn: “Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.” (Mathew 11:5) Beth am heddiw? Mae Jehofa “yn rhoi egni i’r blinedig,” meddai’r Beibl, gan ychwanegu: “Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd.” (Eseia 40:29, 31) Mae Duw yn gallu rhoi inni’r “grym anhygoel” sydd ei angen er mwyn ymdopi â phroblemau bywyd. (2 Corinthiaid 4:7) Onid yw’n naturiol i ni eisiau closio at Dduw sy’n defnyddio ei nerth er ein lles ni?

MAE DUW YN DDOETH

“O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.”SALM 104:24.

Po fwyaf a ddysgwn am y pethau mae Duw wedi eu creu, mwyaf rydyn ni’n rhyfeddu at ei ddoethineb. Yn wir, mae gwyddonwyr ym maes bioddynwared yn astudio creadigaeth Jehofa ac yn copïo’r syniadau ym myd natur i wella eu dyfeisiau nhw eu hunain. Ymhlith y dyfeisiau hyn ceir pethau mor amrywiol â chaewr bachyn-a-dolen a dyluniad awyrennau.

Mae’r llygad yn un o ryfeddodau’r greadigaeth.

Efallai’r enghraifft fwyaf syfrdanol o ddoethineb Duw yw’r corff dynol. Ystyriwch, er enghraifft, y ffordd mae babi yn datblygu yn y groth. Mae’r broses yn dechrau gydag un gell wedi ei ffrwythloni, sy’n cynnwys yr holl gyfarwyddiadau genetig sydd eu hangen. Mae’r gell honno yn ymrannu yn nifer o gelloedd sydd i bob golwg yr un fath a’i gilydd. Ond ar yr adeg gywir, mae’r celloedd yn dechrau datblygu yn gelloedd mwy arbenigol, a’r canlyniad yw cannoedd o wahanol fathau o gelloedd, gan gynnwys celloedd gwaed, celloedd asgwrn, a niwronau. Yn fuan iawn mae systemau o organau yn ymddangos ac yn dechrau gweithio. Mewn cwta naw mis, mae’r gell wreiddiol yn datblygu’n faban cyfan gyda biliynau o gelloedd. Mae’r doethineb sydd i’w weld yn y broses honno’n gwneud i lawer o bobl gytuno â geiriau’r Salmydd: “Dw i’n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!”—Salm 139:14.

Sut mae doethineb Duw yn ein helpu ni? Mae’r Creawdwr yn gwybod yn iawn beth sydd ei angen arnon ni i fod yn hapus. Oherwydd ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth eithriadol, y mae’n gallu rhoi cyngor doeth inni yn ei Air, y Beibl. Er enghraifft, y mae’n ein hannog ni i ‘faddau i eraill.’ (Colosiaid 3:13) Ydy hynny’n gyngor da? Ydy. Mae ymchwil wedi dangos bod maddau yn gallu gwella cwsg a gostwng pwysau gwaed. Mae hefyd yn gallu lleihau’r risg o iselder a phroblemau iechyd eraill. Mae Duw yn debyg i ffrind caredig sy’n barod bob amser i roi help a chyngor doeth inni. (2 Timotheus 3:16, 17) Oni fyddech chi’n hoffi cael ffrind o’r fath?

MAE DUW YN GYFIAWN

“Mae’r ARGLWYDD yn caru beth sy’n gyfiawn,”SALM 37:28.

Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Yn wir, “fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!” (Job 34:10) Dywedodd y Salmydd fod Jehofa yn “barnu’n hollol deg.” (Salm 67:4) Mae Jehofa yn “gweld beth sydd yn y galon,” ac felly y mae’n gwybod y gwir ac yn barnu’n iawn. Ni all neb dwyllo Duw. (1 Samuel 16:7, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae Duw hefyd yn gweld yr holl bethau anghyfiawn sy’n digwydd ar y ddaear, ac y mae wedi addo: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig.”—Salm 37:10,

Sut bynnag, nid yw Duw yn farnwr creulon sy’n awyddus i gosbi pobl. Mae’n dangos trugaredd lle mae hynny’n briodol. Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “drugarog a charedig,” hyd yn oed tuag at bobl ddrwg sy’n fodlon edifarhau. Onid yw hynny’n esiampl o wir gyfiawnder?—Salm 103:8; 2 Pedr 3:9.

Sut mae cyfiawnder Duw yn ein helpu ni? Dywedodd yr apostol Pedr nad yw Duw “yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.” (Actau 10:34, 35) Mae cyfiawnder Duw yn fendith inni oherwydd y mae bob amser yn deg. Y mae’n fodlon ein derbyn ni, ni waeth beth yw ein cefndir o ran hil, cenedl, addysg, neu safle cymdeithasol.

Nid yw Duw yn dangos ffafriaeth; ni waeth beth yw ein cefndir o ran hil neu safle cymdeithasol, mae Duw yn ein derbyn.

Mae Duw eisiau inni ddeall ac elwa ar ei gyfiawnder, a dyna pam y mae wedi rhoi cydwybod inni. Mae’r Ysgrythurau yn disgrifio’r gydwybod fel cyfraith ‘wedi ei hysgrifennu ar ein calonnau’ sy’n dweud a ydyn ni’n gwneud y peth iawn ai peidio. (Rhufeiniaid 2:​15) Sut mae hynny’n ein helpu ni? O’i hyfforddi’n iawn, mae’r gydwybod yn ein hatal ni rhag gwneud pethau drwg. Ac os ydyn ni’n gwneud camgymeriad, y mae’n gallu ein procio ni i edifarhau ac i gywiro pethau. Yn wir, bydd deall cyfiawnder Duw yn ein helpu ni ac yn ein denu ni ato!

CARIAD YDY DUW

“Cariad ydy Duw.”1 IOAN 4:8.

Mae Duw yn dangos nerth, doethineb, a chyfiawnder, ond nid yw’r Beibl yn dweud mai nerth, doethineb, neu gyfiawnder ydy Duw. Mae’n dweud mai cariad ydy Duw. Pam? Oherwydd nerth Duw yw’r peth sy’n ei alluogi i weithredu, a’i gyfiawnder a’i ddoethineb sy’n arwain ei weithredoedd. Ond cariad Jehofa yw’r peth sy’n ei ysgogi i weithredu. Mae cariad yn dylanwadu ar bob peth y mae’n ei wneud.

Er nad oedd angen dim ar Jehofa, ei gariad a’i hysgogodd i greu bodau deallus, yn y nefoedd ac ar y ddaear, sy’n gallu mwynhau ei gariad a’i ofal. Paratôdd y ddaear i fod yn gartref berffaith i fodau dynol. Ac mae’n dal i ddangos ei gariad at bawb, oherwydd y “mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim.”​—Mathew 5:​45.

Mae Jehofa hefyd, “mor dosturiol a thrugarog.” (Iago 5:​11, BCND) Mae’n dangos cariad tuag at y rhai sy’n ceisio dod i’w adnabod a chlosio ato. Mae Duw yn gweld pobl fel unigolion. Yn wir, “mae e’n gofalu amdanoch chi.”1 Pedr 5:7.

Sut mae cariad Duw yn ein helpu ni? Rydyn ni wrth ein boddau yn gweld machlud yr haul neu glywed babi yn chwerthin. Rydyn ni’n cael pleser o’r cariad a gawn yn y teulu. Mae modd byw heb y pethau hyn, ond maen nhw’n cyfoethogi ein bywydau yn fawr.

Ffordd arall rydyn ni’n derbyn cariad Duw yw drwy weddi. Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.” Fel tad cariadus, mae Jehofa yn dymuno i ni droi ato am help gyda’n pryderon personol. Yna, mae Jehofa yn addo: “Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi.”—Philipiaid 4:6, 7.

A ydy’r drafodaeth hon o brif rinweddau Duw—ei nerth, ei ddoethineb, ei gyfiawnder a’i gariad—wedi eich helpu i ddeall Duw yn well? I adnabod Duw yn well byth, rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddysgu am y pethau eraill y mae Duw wedi ei gwneud ac y bydd yn eu gwneud i’ch helpu.

SUT UN YDY DUW? Mae Jehofa yn fwy nerthol, yn ddoethach, ac yn fwy cyfiawn na neb arall. Ond ei rinwedd fwyaf apelgar yw ei gariad