Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Gwnaeth Atebion Clir a Rhesymegol y Beibl Greu Argraff Arna I

Gwnaeth Atebion Clir a Rhesymegol y Beibl Greu Argraff Arna I
  • GANWYD: 1948

  • GWLAD ENEDIGOL: HWNGARI

  • HANES: DYHEU AM ATEBION I GWESTIYNAU MAWR BYWYD

FY NGHEFNDIR:

Ces i ngeni yn Székesfehérvár, Hwngari, dinas gyda hanes cyfoethog yn ymestyn yn ôl 1,000 o flynyddoedd. Y peth trist yw, dw i’n dal i gofio’r creithiau hyll a adawodd brwydrau’r ail ryfel byd arni.

Pan o’n i’n blentyn ifanc, ces i fy magu gan fy nain a’m taid. Mae gen i atgofion melys amdanyn nhw—yn enwedig fy nain Elisabeth. Dan ei gofal cariadus hi ges i fy ffydd gref yn Nuw. O dair oed, byddwn i’n dweud fy mhader, neu Weddi’r Arglwydd, gyda hi bob nos. Er hynny, roedd rhaid aros nes mod i yn fy ugeiniau hwyr i ddeall ystyr y weddi honno.

Roedd Nain a Taid yn gofalu amdana i pan o’n i’n fengach gan fod fy rhieni yn gweithio ddydd a nos, yn y gobaith o gael digon o arian i brynu cartref da. Ond, bob yn ail ddydd Sadwrn, bydden ni’n dod at ein gilydd i fwynhau pryd o fwyd fel teulu cyfan. O’n i’n trysori’r adegau hynny.

Ym 1958, cafodd breuddwyd fy rhieni ei gwireddu; oedden nhw’n gallu prynu tŷ i’r tri ohonon ni fyw ynddo. O’r diwedd, o’n i’n gallu byw gyda fy rhieni​—o’n i ar ben fy nigon! Ond cwta chwe mis wedyn cafodd yr hapusrwydd hwnnw ei ddryllio. Bu farw fy nhad o ganser.

Oedd hynny’n ergyd drom. Dw i’n cofio gweddïo: “Duw, wnes i grefu arnat ti i achub fy nhad. Dw i angen o. Pam wnest ti ddim ateb fy ngweddïau?” O’n i wir angen gwybod lle oedd fy nhad. Wnes i feddwl: ‘Ydy o wedi mynd i’r nef? Neu ydy o wedi mynd am byth?’ O’n i’n genfigennus o blant eraill efo tad.

Am lawer o flynyddoedd, byddwn i’n mynd i’r fynwent bron pob dydd. Byddwn i’n mynd ar fy ngliniau wrth fedd fy nhad a gweddïo: “Plîs, Duw, dw i eisiau gwybod lle mae nhad.” Wnes i weddïo hefyd am help i ddeall ystyr bywyd.

Pan oeddwn i’n 13 oed, wnes i benderfynu dysgu Almaeneg. O’n i’n meddwl gan fod ’na gymaint o lenyddiaeth Almaeneg, a honno’n gyfoethog, hwyrach byddwn i’n cael hyd i atebion i’m cwestiynau. Ym 1967, dechreuais astudio yn ninas Jena, oedd ar y pryd yn rhan o Ddwyrain yr Almaen. Es i ati yn frwdfrydig i ddarllen llyfrau gan athronwyr Almaenig, yn enwedig y rhai oedd yn delio ag ystyr bodolaeth dynolryw. Er imi gael hyd i syniadau diddorol, doedd yr un ohonyn nhw yn fy modloni’n llwyr. Wnes i barhau i weddïo am atebion.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Ym 1970, es i’n ôl i Hwngari, lle gwrddais i â Rose, a ddaeth yn wraig imi. Ar y pryd, roedd Hwngari o dan reolaeth Gomiwnyddol. Yn fuan ar ôl inni briodi, wnaeth Rose a minnau ffoi i Awstria. Ein nod oedd ymfudo yn y pen draw i Sydney, Awstralia, lle oedd fy ewythr yn byw.

Yn Awstria, doedd hi ddim yn hir cyn imi gael hyd i waith. Un diwrnod, dywedodd un o’m cyd-weithwyr y gallwn i gael hyd i atebion i bob un o’m cwestiynau yn y Beibl. Rhoddodd gwpl o lyfrau imi oedd yn trafod y Beibl. Darllenais i’r ddau ymhen dim ac oedd gen i awydd i ddysgu mwy. Felly, ysgrifennais at Dystion Jehofa, cyhoeddwyr y llyfrau, a gofynnais am fwy o lenyddiaeth.

Ar ddiwrnod ein pen-blwydd priodas cyntaf, cafodd Rose a minnau ymweliad gan Dyst ifanc lleol. Oedd o wedi dod â’r llenyddiaeth o’n i wedi gofyn amdani ac mi gynigiodd astudiaeth Feiblaidd imi, a wnes i ei derbyn. Gan fod gen i awydd i ddysgu, wnaethon ni astudio dwywaith yr wythnos—pob sesiwn astudio yn para tua phedair awr!

O’n i wrth fy modd efo beth oedd y Tystion yn dysgu fi o’r Beibl. Pan wnaethon nhw ddangos enw Duw, Jehofa, yn fy Meibl Hwngareg, o’n i bron yn methu coelio’r peth. Yn fy 27 mlynedd o fynychu’r eglwys, o’n i erioed wedi clywed enw Duw, dim hyd yn oed unwaith. Gwnaeth atebion clir a rhesymegol y Beibl greu argraff arna i. Er enghraifft, ddysgais i fod y meirw yn anymwybodol, fel petasen nhw mewn cwsg trwm. (Pregethwr 9:5, 10; Ioan 11:11-15) Dysgais hefyd am adddewid y Beibl am fyd newydd lle “fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen.” (Datguddiad 21:3, 4) Dw i’n gobeithio gweld fy nhad eto, achos yn y byd newydd, mae “Duw yn mynd i ddod â phobl . . . yn ôl yn fyw.”—Actau 24:15.

Roedd Rose yr un mor frwdfrydig â minnau wrth astudio’r Beibl. Daethon ni yn ein blaenau yn gyflym, gan orffen y llyfr astudio mewn deufis yn unig! Aethon ni i bob cyfarfod y Tystion yn Neuadd y Deyrnas. Creodd y cariad, y cymorth, a’r undod oedd yn bodoli ymysg Tystion Jehofa argraff fawr arnon ni.—Ioan 13:34, 35.

Ym 1976, cafodd Rose a minnau’r hawl i fynd i Awstralia a byw yno. Cawson ni hyd i Dystion Jehofa yno ar unwaith. Gwnaeth y Tystion lleol wneud inni deimlo’n gartrefol yn syth. Ym 1978, daethon ni yn Dystion ein hunain.

FY MENDITHION:

O’r diwedd dw i wedi cael hyd i atebion i gwestiynau oedd yn peri penbleth imi am gyhyd. Drwy glosio at Jehofa Dduw dw i hefyd wedi cael hyd i’r Tad gorau posib. (Iago 4:8) Ac mae gen i obaith o weld fy nhad biolegol unwaith eto yn y byd newydd i ddod, sy’n gysur mawr imi.—Ioan 5:28, 29.

Ym 1989, penderfynodd Rose a minnau fynd yn ôl i Hwngari er mwyn inni allu rhannu ein gobaith newydd gyda’n teulu a’n ffrindiau, yn ogystal ag eraill. ’Dyn ni wedi cael y fraint o ddysgu cannoedd o bobl am y Beibl. Mae mwy na 70 ohonyn nhw wedi ymuno â ni yng ngwasanaeth Jehofa, gan gynnwys fy mam annwyl.

Gweddïais am 17 mlynedd i gael atebion i fy nghwestiynau. Mae 39 mlynedd arall wedi mynd heibio, a dw i’n dal i weddïo—ond nawr dw i’n gallu dweud, “Diolch, fy Nhad nefol annwyl, am ateb gweddïau fy mhlentyndod.”