Neidio i'r cynnwys

Gyda fy ngwraig, Tabitha, yn y weinidogaeth gyhoeddus

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

I Mi, Doedd Duw Ddim yn Bodoli

I Mi, Doedd Duw Ddim yn Bodoli
  • GANWYD: 1974

  • GWLAD ENEDIGOL: GWERINIAETH DDEMOCRATAIDD YR ALMAEN

  • HANES: ANFFYDDIWR

FY NGHEFNDIR

Ces i fy ngeni mewn pentref yn Sacsoni, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, fel yr oedd bryd hynny. Roedd fy nghartref yn un cynnes, llawn cariad, a gwnaeth fy rhieni ddysgu moesau da imi. Roedd y Weriniaeth yn wladwriaeth Gomiwnyddol, felly i’r rhan fwyaf o bobl yn Sacsoni, doedd crefydd ddim yn bwysig. Ac i mi, doedd Duw ddim yn bodoli. Cafodd anffyddiaeth a Chomiwnyddiaeth ddylanwad mawr ar 18 mlynedd gyntaf fy mywyd.

Pam oedd Comiwnyddiaeth yn apelio ata i? Am fy mod i’n hoffi’r syniad fod pawb yn gyfartal. Ar ben hynny, o’n i’n credu y dylai pob eiddo gael ei rannu’n deg, gan y byddai hyn yn rhoi diwedd ar eithafion cyfoeth a thlodi. Felly bues i’n gweithio’n galed mewn mudiad ieuenctid Comiwnyddol. Pan o’n i’n 14 mlwydd oed, treuliais lawer o amser yn gweithio ar brosiect amgylcheddol i ailgylchu papur. Roedd y dref leol, Aue, mor ddiolchgar am fy ymdrechion, gwnaeth yr awdurdodau yno gyflwyno gwobr imi. Er fy mod i’n dal yn ifanc, des i i nabod rhai o brif wleidyddion y Weriniaeth. O’n i’n teimlo fy mod i’n anelu at yr amcanion cywir a bod gen i ddyfodol disglair.

Wedyn yn sydyn, chwalodd fy myd. Ym 1989, daeth Wal Berlin i lawr, a syrthiodd bloc Comiwnyddol Dwyrain Ewrop gyda hi. Arweiniodd un sioc at un arall. Des i i ddeall bod anghyfiawnder wedi bod yn gyffredin yn y Weriniaeth. Er enghraifft, roedd pobl nad oedd yn cefnogi Comiwnyddiaeth wedi cael eu trin fel dinasyddion eilradd. Sut oedd hynny’n bosib? Onid oedden ni fel Comiwnyddion yn credu bod pawb yn gyfartal? Ai dim ond syniad da oedd Comiwnyddiaeth nad oedd yn gweithio’n ymarferol? Ces i fy llethu gan bryder.

Felly, wnes i newid tac a chanolbwyntio ar gerddoriaeth a chelf. Gan fy mod i’n gallu astudio mewn academi gerddoriaeth​—ac yn debygol o fynd ymlaen i brifysgol​—o’n i’n breuddwydio am yrfa fel cerddor-arlunydd. Ar ben hynny, wnes i gefnu ar y moesau da o’n i wedi dysgu yn blentyn. Y peth pwysicaf rŵan oedd cael amser da, a hynny’n cynnwys mynd allan efo mwy nag un eneth. Ond ni wnaeth cerddoriaeth, celf, na rhyddid llwyr leddfu fy mhryderon. Roedd hyd yn oed y lluniau o’n i’n eu peintio yn cyfleu ryw ofn morbid. Pa fath o ddyfodol oedd gen i? A beth oedd pwrpas bywyd?

Pan ges i hyd i’r atebion o’n i’n chwilio amdanyn nhw o’r diwedd, ces i fy synnu. Un noson yn yr academi, o’n i’n eistedd gyda grŵp o fyfyrwyr yn trafod y dyfodol. Roedd Mandy * yn fyfyrwraig a hefyd yn un o Dystion Jehofa. Y noson honno, wnaeth hi fy rhoi ar ben ffordd. “Andreas,” meddai hi, “os wyt ti eisiau atebion i dy gwestiynau am fywyd a’r dyfodol, edrycha’n ofalus yn y Beibl.”

O’n i dipyn bach yn amheus ac yn chwilfrydig, ond chwilfrydedd enillodd y dydd. Gwnaeth Mandy gyfeirio fi at Daniel pennod 2, a gwnaeth yr hyn a ddarllenais i yno fy syfrdanu. Mae’r broffwydoliaeth hon yn disgrifio cyfres o rymoedd byd, llywodraethau fyddai’n cael effaith fawr hyd ein dyddiau ni. Dangosodd Mandy broffwydoliaethau Beiblaidd eraill imi sy’n berthnasol i’n dyfodol. O’r diwedd, o’n i’n cael atebion i ’nghwestiynau! Ond pwy ysgrifennodd y proffwydoliaethau hynny, a phwy oedd yn gallu rhagweld y dyfodol mor gywir? Oedd hi’n bosib fod Duw yn bodoli wedi’r cwbl?

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

Gwnaeth Mandy fy rhoi mewn cysylltiad gyda chwpl o Dystion priod, Horst ac Angelika, wnaeth fy helpu i ddeall Gair Duw yn well. Yn fuan, wnes i sylweddoli mai Tystion Jehofa yw’r unig gyfundrefn grefyddol sy’n tynnu sylw at enw personol Duw, Jehofa, ac yn ei ddefnyddio’n gyson. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Mathew 6:9) Dysgais fod Jehofa Dduw yn cynnig gobaith o fyw am byth ar baradwys ddaear i’r ddynolryw. Mae Salm 37:9 yn dweud: “Bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu’r tir!” Roedd y ffaith fod y gobaith hwn yn agored i bawb sy’n ceisio byw yn ôl safonau Duw, yn apelio ata i.

Ond, oedd hi’n dipyn o frwydr imi newid fy ffyrdd i fyw’n unol â’r Beibl. Mi oedd fy llwyddiant fel cerddor-arlunydd wedi fy ngwneud i’n falch, felly yn gyntaf roedd rhaid imi ddysgu rhywfaint o ostyngeiddrwydd. Doedd hi ddim chwaith yn hawdd imi gefnu ar fy mywyd o foesau llac. Dw i mor ddiolchgar bod Jehofa yn dangos amynedd, trugaredd, a chydymdeimlad tuag at y rhai sy’n gwneud eu gorau i roi ar waith yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu!

Comiwnyddiaeth ac anffyddiaeth wnaeth siapio 18 mlynedd gyntaf fy mywyd, ond ers hynny, y Beibl sydd wedi rhoi siâp ar fy mywyd. Gwnaeth yr hyn a ddysgais dawelu fy mhryderon am y dyfodol a rhoi pwrpas i fy mywyd. Ym 1993, ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa, ac yn 2000, wnes i briodi Tabitha, cyd-grediniwr selog. ’Dyn ni’n treulio cymaint o amser â phosib yn helpu eraill i ddod i nabod y Beibl. Mae gan lawer ’dyn ni’n eu cyfarfod gefndir tebyg i mi, un wedi ei siapio gan Gomiwnyddiaeth ac anffyddiaeth. Dw i’n cael boddhad mawr pan fydda i’n dangos iddyn nhw sut i ddod i nabod Jehofa.

FY MENDITHION

Pan wnes i ddechrau astudio gyda Thystion Jehofa, roedd fy rhieni wedi dychryn. Ond ers hynny, maen nhw wedi dechrau gweld yr effaith bositif mae cymdeithasu â’r Tystion wedi ei chael ar fy mywyd. Er mawr lawenydd imi, maen nhw bellach yn darllen y Beibl ac yn mynychu cyfarfodydd Cristnogol Tystion Jehofa.

Mae gan Tabitha a minnau briodas hapus am ein bod ni’n ceisio dilyn cyngor y Beibl i gyplau priod yn agos. Er enghraifft, mae dilyn ei gyngor am ffyddlondeb priodasol yn parhau i gryfhau ein priodas.​—Hebreaid 13:4.

Dydw i ddim bellach yn poeni am fywyd nac yn pryderu am y dyfodol. Dw i’n teimlo’n rhan o deulu byd-eang o gyd-gredinwyr, un sy’n mwynhau heddwch ac undod go iawn. O fewn y teulu hwn, ’dyn ni’n trin ein gilydd yn gyfartal. Dyna rywbeth dw i wedi credu ynddo ac wedi bod yn anelu ato drwy gydol fy mywyd.

^ Par. 12 Newidiwyd yr enw.