Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

O’n I’n Meddwl am Neb Arall Ond y Fi

O’n I’n Meddwl am Neb Arall Ond y Fi
  • GANWYD: 1951

  • GWLAD ENEDIGOL: YR ALMAEN

  • HANES: AGWEDD BALCH AC ANNIBYNNOL

FY NGHEFNDIR:

Yn ystod fy mhlentyndod, roedd fy nheulu yn byw yn agos i Leipzig, Dwyrain yr Almaen, dim yn bell o’r ffiniau Tsiecaidd a Phwylaidd. Pan oeddwn i’n chwe mlwydd oed, gwnaeth cyflogaeth fy nhad ein harwain dramor—i Frasil yn gyntaf, ac yna i Ecwador.

Yn 14 oed, ces i fy ngyrru i ysgol breswyl yn yr Almaen. Oherwydd bod fy rhieni mor bell i ffwrdd yn Ne America, bu rhaid imi edrych ar ôl fy hun. Des i’n annibynnol iawn. Oeddwn i’n malio dim am sut oedd fy ymddygiad yn effeithio ar eraill.

Pan oeddwn i’n 17 oed, dychwelodd fy rhieni i’r Almaen. I ddechrau, roeddwn i’n byw gyda nhw. Ond roedd fy agwedd annibynnol yn ei gwneud hi’n amhosib imi fyw o dan awdurdod fy rhieni. Yn 18 oed, wnes i adael fy nghartref.

Roeddwn i’n anfodlon gyda fy mywyd, ac yn chwilio am bwrpas iddo. Ar ôl profi amryw ffyrdd o fyw a mudiadau gwahanol, des i’r canlyniad mai’r peth gorau y medrwn i ei wneud gyda fy mywyd oedd crwydro’r blaned hardd hon cyn i ddynoliaeth ei distrywio.

Wnes i adael yr Almaen, prynu beic modur, a gyrru i Affrica. Digon buan, roedd rhaid imi ddychwelyd i Ewrop i gael trwsio fy meic modur. Yn fuan wedyn, wrth imi orwedd ar draeth ym Mhortiwgal, wnes i benderfynu rhoi’r gorau i deithio ar gefn beic a chychwyn hwylio ar gwch.

Wnes i ymuno â chriw o bobl ifanc oedd yn paratoi i hwylio ar draws Môr yr Iwerydd. Roedd dynes ifanc o’r enw Laurie ymysg y criw. Yn gyntaf, wnaethon ni hwylio i ynysoedd y Caribî. Wedyn, ar ôl ysbaid yn Mhuerto Rico, ddaru ni ddychwelyd i Ewrop. Ein gobaith oedd cael hyd i gwch hwylio y byddwn ni’n medru addasu i fod yn gwch hamdden. Ond ar ôl dri mis o chwilio, daeth ein prosiect i ben yn annisgwyl. Cefais fy ngalw i’r lluoedd arfog Almaenig.

Wnes i dreulio 15 mis yn y llynges Almaenig. Yn ystod yr amser hynny, priodais Laurie a dechreuon ni baratoi i ailgydio yn ein bywyd o deithio. Cyn imi fynd i’r llynges, roedden ni wedi prynu corff bad achub. Tra roeddwn i’n cyflawni fy ngwasanaeth milwrol, aethon ni ati i addasu corff y bad i fod yn gwch bach hwylio. Ein bwriad oedd byw arno a pharhau yn ein hanturiaethau o gwmpas ein planed hardd. Yn ystod y cyfnod hwn—ar ôl cwblhau fy ngwasanaeth milwrol ond cyn gorffen adnewyddu’r cwch—daeth Tystion Jehofa i gyswllt â ni, a dechrau astudiaeth Feiblaidd.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

I ddechrau, doeddwn i ddim yn gweld angen newid llawer ar fy ffordd o fyw. Roeddwn i eisoes wedi priodi fy nghymar, ac wedi stopio ysmygu. (Effesiaid 5:5) Beth am ein cynlluniau i deithio’r byd? Yn fy meddwl i, roedd teithio’r byd i ehangu ein gwerthfawrogiad o greadigaeth ryfeddol Duw yn ymdrech werth chweil.

Mewn gwirionedd, mi oedd angen imi wneud newidiadau—yn enwedig i fy mhersonoliaeth. Oherwydd fy malchder a fy agwedd annibynnol, roeddwn i’n canolbwyntio ar fy nghampau a’m doniau fy hun. O’n i’n meddwl am neb arall ond y fi.

Un diwrnod, wnes i ddarllen geiriau enwog Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd. (Mathew, penodau 5-7) I gychwyn, doeddwn i ddim yn deall yr hyn a ddywedodd Iesu am fendithion. Er enghraifft, fe ddywedodd bod y rhai sy’n llwgu a sychedu wedi eu bendithio’n fawr, neu yn hapus. (Mathew 5:6) Oeddwn i’n pendroni dros sut y gallai rywun oedd mewn angen fod yn hapus. Wrth barhau yn fy astudiaeth des i i sylweddoli bod gan bawb angen ysbrydol, ond bod rhaid inni gydnabod hynny’n ostyngedig cyn i’r angen hwnnw gael ei ateb. Mor wir yw geiriau Iesu: “Mor ddedwydd yw’r rhai sy’n cydnabod eu bod yn dlawd yn ysbrydol.”—Mathew 5:3, Y Ffordd Newydd.

Ar ôl cychwyn ein hastudiaeth Feiblaidd yn yr Almaen, symudodd Laurie a minnau i Ffrainc, ac yna i’r Eidal. Lle bynnag oedden ni, daethon ni o hyd i Dystion Jehofa. Roedd eu cariad diffuant at ei gilydd, a’u hundod, yn gwneud argraff fawr arna i. Gwelais fod y Tystion wir yn frawdoliaeth fyd-eang. (Ioan 13:34, 35) Mewn amser, cafodd Laurie a minnau ein bedyddio fel Tystion Jehofa.

Ar ôl ein bedydd, wnes i barhau i wneud newidiadau yn fy mhersonoliaeth. Roedd Laurie a minnau wedi penderfynu hwylio i lawr arfordir gorllewinol Affrica cyn croesi’r Iwerydd i’r Unol Daleithiau. Yno ar ganol y môr—a ni’n dau ar ein pennau’n hunain ar gwch bach, wedi ein hamgylchynu gan filoedd o filltiroedd o ddŵr​—sylweddolais pa mor fach oeddwn i i gymharu â’n Creawdwr godidog. Gyda chymaint o amser i feddwl (beth arall sydd yna i’w wneud yng nghanol y môr?), treuliais oriau maith yn darllen y Beibl. Un peth yn arbennig wnaeth cyffwrdd â nghalon oedd yr hanesion am fywyd Iesu ar y ddaear. Dyma ddyn perffaith gyda galluoedd tu hwnt i unrhyw beth fedrwn ni ddychmygu, ac eto wnaeth ef erioed ddyrchafu ei hun. Ffocws ei fywyd oedd ei Dad nefol, nid ef ei hun.

Sylweddolais fod angen imi roi Teyrnas Dduw yn gyntaf yn fy mywyd

Wrth imi fyfyrio ar esiampl Iesu, gwelais fod angen i mi roi Teyrnas Dduw yn gyntaf yn fy mywyd, yn hytrach na cheisio ei gwasgu hi rhwng popeth arall oeddwn i eisiau ei wneud. (Mathew 6:33, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Erbyn i Laurie a minnau gyrraedd yr Unol Daleithiau o’r diwedd, penderfynon ni roi ein gwreiddiau i lawr yno a chanolbwyntio ar ein haddoliad.

FY MENDITHION:

Yn gynt, wrth ddibynnu arna i fy hun, oeddwn i’n aml yn ansicr o fy mhenderfyniadau. Ond nawr, mae gen i ffynhonnell ddibynadwy o ddoethineb i’m harwain. (Eseia 48:17, 18) Dw i hefyd wedi dod o hyd i bwrpas newydd i’m mywyd—sef addoli Duw a helpu eraill i ddysgu amdano.

Drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith, mae Laurie a minnau wedi cryfhau ein priodas yn sylweddol. ’Dyn ni hefyd wedi cael ein bendithio gyda merch brydferth, sydd wedi dod i adnabod a charu Jehofa.

Nid ein bod ni wedi hwylio’n esmwyth drwy fywyd, ond gyda help Jehofa, ’dyn ni’n benderfynol o beidio byth a rhoi’r gorau i’w wasanaethu na stopio ymddiried ynddo.—Diarhebion 3:5, 6.