Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR

Pornograffi—Yn Ddiniwed neu’n Wenwynig?

Pornograffi—Yn Ddiniwed neu’n Wenwynig?

Mae’r byd heddiw yn llawn pornograffi. a Mae i’w gael mewn hysbysebion, ffasiwn, ffilmiau, cerddoriaeth, a chylchgronau, yn ogystal â rhaglenni teledu, gemau fideo, dyfeisiau electronig, gwefannau, a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae pornograffi yn boblogaidd iawn y dyddiau hyn, ac mae pobl yn gwylio mwy ohono nag erioed o’r blaen.​—Gweler y blwch “ Ffeithiau am Bornograffi.”

Mae natur pornograffi yn newid hefyd. Ysgrifennodd yr Athro Gail Dines: “Mae delweddau a ystyriwyd yn eithafol ar un adeg wedi dod yn beth cyffredin erbyn hyn.”

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rhywbeth diniwed yw pornograffi, neu a yw’n wenwynig? Dywedodd Iesu: “Lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy’r ffrwyth yn ddrwg mae’r goeden yn wael.” (Mathew 7:​17) Pa fath o ffrwyth sy’n dod o bornograffi? I gael yr atebion, dewch inni ystyried rhai cwestiynau sylfaenol am bornograffi.

Sut mae pornograffi yn effeithio ar yr unigolyn?

BARN ARBENIGWYR: Mae’n hawdd iawn mynd yn gaeth i bornograffi. Mae rhai ymchwilwyr a therapyddion yn dweud ei fod yn cael effaith debyg i gocên.

Dywed Brian, b a oedd yn gaeth i bornograffi ar y We: “Doedd dim byd yn gallu fy stopio. Roedd pornograffi fel cyffur imi. Byddwn i’n crynu a chael poenau yn fy mhen. O’n i’n ceisio stopio ond flynyddoedd wedyn o’n i’n dal yn gaeth.”

Yn aml, bydd pobl yn cadw’r arfer hwn yn gyfrinach. Mae llawer yn teimlo cywilydd. Maen nhw’n unig, yn bryderus ac yn dioddef o iselder ysbryd a dicter. Mae rhai hyd yn oed yn meddwl am ladd eu hunain. “Roeddwn i’n meddwl amdana i fy hun drwy’r amser ac yn teimlo’n anobeithiol,” meddai Serge, oedd yn arfer lawrlwytho pornograffi ar ei ffôn bron bob dydd. “O’n i’n teimlo’n dda i ddim, yn euog, yn unig, ac yn gaeth. Roedd gen i ormod o ofn a chywilydd i ofyn am help.”

Gall hyd yn oed gweld delwedd bornograffig yn sydyn ac ar hap gael effaith negyddol. Wrth roi tystiolaeth o flaen pwyllgor Senedd yr Unol Daleithiau, dywedodd y Dr. Judith Reisman, sydd yn ymchwilydd blaenllaw ym maes pornograffi: “Mae delweddau pornograffig yn creu atgof biocemegol sydyn yn yr ymennydd sydd yn anodd neu’n amhosib i’w ddileu.” Gwelodd Susan, sydd yn 19 oed, wefannau pornograffig. Mae hi’n dweud: “Mae’r delweddau a welais wedi eu hargraffu ar fy meddwl. Maen nhw’n codi yn fy mhen yn ddirybudd, ac weithiau mae’n teimlo fel na fyddwn ni byth yn cael gwared arnyn nhw’n llwyr.”

Y GWIR YW: Mae pornograffi yn caethiwo pobl ac yn dinistrio eu bywydau.​—2 Pedr 2:19.

Pa effaith mae pornograffi yn ei chael ar deuluoedd?

BARN ARBENIGWYR: “Mae pornograffi yn gwahanu cyplau ac yn chwalu teuluoedd.”—The Porn Trap, gan Wendy a Larry Maltz.

Mae pornograffi yn niweidio priodasau a theuluoedd

  • Drwy danseilio cariad, agosatrwydd, a’r gallu i ymddiried yn eich cymar.​—Diarhebion 2:​12-17.

  • Drwy hyrwyddo agweddau hunanol, a chreu pellter emosiynol ac anfodlonrwydd rhwng gŵr a gwraig.​—Effesiaid 5:​28, 29.

  • Drwy gynhyrfu ffantasïau a chwantau rhywiol afiach.​—2 Pedr 2:​14.

  • Drwy demtio rhywun i orfodi ei gymar i wneud pethau rhywiol sy’n annerbyniol.​—Effesiaid 5:3, 4.

  • Drwy hyrwyddo anffyddlondeb, naill ai’n emosiynol neu’n gorfforol.​—Mathew 5:​28.

Mae’r Beibl yn dweud wrth gyplau priod am beidio â bod yn anffyddlon. (Malachi 2:​16) Mae anffyddlondeb yn gallu dinistrio priodas ac arwain at wahanu ac ysgaru. Mae hyn, yn ei dro, yn niweidio’r plant.

Gall pornograffi hefyd niweidio plant mewn ffordd fwy uniongyrchol. Dywed Brian, y soniwyd amdano gynt: “Pan oeddwn i tua deg mlwydd oed, des i ar draws cylchgronau pornograffig fy nhad tra oeddwn i’n chwarae. Dechreuais edrych arnyn nhw’n ddistaw bach, heb ddeall yn iawn pam roedden nhw mor ddeniadol imi. Dyna gychwyn cylch o ymddygiad dinistriol oedd yn para am flynyddoedd.” Mae ymchwil yn dangos bod plant yn eu harddegau sy’n gweld pornograffi yn tueddu i ddechrau perthynas rywiol yn iau, i gael rhyw gyda mwy o bartneriaid, i fod yn rhywiol dreisgar, ac i gael problemau emosiynol a seicolegol.

Y GWIR YW: Mae pornograffi yn dinistrio perthynas gariadus. Mae’n torri calonnau ac yn achosi poen difrifol.​—Diarhebion 6:27.

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bornograffi?

MAE GAIR DUW YN DWEUD: “Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol​—addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!”​—Colosiaid 3:5.

Yn syml, mae Jehofa c yn casáu pornograffi. Dydy hyn ddim yn golygu ei fod yn erbyn rhyw. Duw a greodd ein gallu i gael rhyw, a’i fwriad oedd i gyplau priod ddefnyddio’r gallu i roi pleser i’w gilydd, i ddod yn agosach yn emosiynol, a chael y llawenydd sy’n dod o fagu plant.​—Iago 1:17.

Felly, sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn casáu pornograffi? Ystyriwch rai rhesymau.

  • Y mae’n gwybod bod pornograffi yn gallu dinistrio bywydau.​—Effesiaid 4:​17-​19.

  • Y mae yn ein caru ac eisiau ein hamddiffyn rhag niwed.​—Eseia 48:17, 18.

  • Y mae eisiau cadw priodasau a theuluoedd yn ddiogel.​—Mathew 19:​4-6.

  • Y mae eisiau inni fod yn foesol lân a pharchu pobl eraill.​—1 Thesaloniaid 4:​3-6.

  • Y mae eisiau inni gael agwedd barchus a glân tuag at ryw.​—Hebreaid 13:4.

  • Y mae’n gwybod bod pornograffi yn rhoi darlun o ryw sy’n annaturiol, hunanol a satanaidd.​—Genesis 6:2; Jwdas 6, 7.

Y GWIR YW: Mae pornograffi yn niweidio ein perthynas â Duw.​—Rhufeiniaid 1:​24.

Ond mae Jehofa wir eisiau helpu’r rhai sydd eisiau dianc o afael pornograffi. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig; mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Ydy, mae e’n gwybod am ein defnydd ni; mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.” (Salm 103:8, 14) Os ydyn ni’n troi ato’n ostyngedig, bydd Jehofa “yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.”​—Hebreaid 4:16, gweler y blwch “ Torri’n Rhydd o Afael Pornograffi.”

Mae nifer mawr o bobl wedi derbyn help Duw. Beth oedd y canlyniad? Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am rai a dorrodd yn rhydd oddi wrth arferion drwg: “Dych chi wedi cael eich glanhau a’ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae’r Arglwydd Iesu Grist a’r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.” (1 Corinthiaid 6:​11) Fel yr apostol Paul, mae’r rhai hyn yn gallu dweud “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.”​—Philipiaid 4:​13, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Mae Susan, a lwyddodd i dorri’n rhydd oddi wrth bornograffi yn dweud: “Jehofa yw’r unig un sy’n gallu eich helpu chi i dorri’n rhydd. Os ydych chi’n gofyn am ei help a’i gyngor, gallwch gael perthynas iawn ag ef. Fydd ef byth yn eich siomi.”

a Mae’r gair “pornograffi” yn cyfeirio at ddeunydd sy’n portreadu gweithredoedd erotig gyda’r bwriad o ysgogi cyffro rhywiol yn yr un sy’n ei wylio, ei ddarllen, neu wrando arno. Gall gynnwys lluniau yn ogystal â deunydd ysgrifenedig neu sain.

b Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.

c Jehofa yw enw Duw yn ôl y Beibl.