Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pwy sy’n ‘codi’ ac yn ‘disgleirio’ yn Eseia 60:1?

Mae Eseia 60:1 yn dweud: “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!” Mae’r cyd-destun yn dangos bod yr adnod yn cyfeirio at Seion, neu Jerwsalem, prif ddinas Jwda ar yr adeg. a (Esei. 60:14; 62:​1, 2) Mae’r ddinas yn cynrychioli’r genedl gyfan. Mae geiriau Eseia yn codi dau gwestiwn: Yn gyntaf, sut a phryd gwnaeth Jerwsalem ‘godi’ a ‘disgleirio’ golau ysbrydol? Yn ail, ydy geiriau Eseia hefyd yn cael eu cyflawni heddiw?

Sut a phryd gwnaeth Jerwsalem ‘godi’ a ‘disgleirio’ golau ysbrydol? Roedd Jerwsalem a’i theml yn adfeilion tra oedd yr Iddewon yn alltudion ym Mabilon am 70 o flynyddoedd. Ond ar ôl i Fabilon gael ei choncro gan y Mediaid a’r Persiaid, roedd Israeliaid o bob cwr o Ymerodraeth Babilon yn gallu mynd yn ôl i’w mamwlad ac adfer addoliad pur. (Esra 1:​1-4) Ac ym 537 COG fe ddaeth y rhai cyntaf, pobl ffyddlon o 12 llwyth Israel, yn ôl i Jerwsalem. (Esei. 60:4) Dechreuon nhw aberthu i Jehofa, dathlu’r gwyliau, ac ailadeiladu’r deml. (Esra 3:​1-4, 7-11; 6:​16-22) Unwaith eto, roedd gogoniant Jehofa yn disgleirio ar Jerwsalem—hynny ydy, ar bobl Dduw. Yna, gwnaethon nhw ddechrau dod â goleuni i’r cenhedloedd o’u cwmpas nhw a oedd mewn tywyllwch ysbrydol.

Ond, ni chafodd proffwydoliaethau Eseia eu cyflawni yn llawn bryd hynny. Ni wnaeth y rhan fwyaf o’r Israeliaid barhau i addoli Duw. (Neh. 13:27; Mal. 1:​6-8; 2:​13, 14; Math. 15:​7-9) Yn nes ymlaen, fe wnaethon nhw hyd yn oed wrthod y Meseia, Iesu Grist. (Math. 27:​1, 2) Felly, yn 70 OG, cafodd Jerwsalem a’i theml eu dinistrio eto.

Rhagfynegodd Jehofa’r canlyniadau trist hynny. (Dan. 9:​24-27) Yn amlwg, doedd ef ddim yn bwriadu i’r Jerwsalem ddaearol gyflawni pob rhan o’r proffwydoliaethau yn Eseia pennod 60.

Ydy geiriau Eseia yn cael eu cyflawni heddiw? Ydyn, ond yn y “Jerwsalem uwchben.” Ysgrifennodd yr apostol Paul amdani: “Hi yw ein mam.” (Gal. 4:26) Mae’r Jerwsalem uwchben yn cyfeirio at ran nefol cyfundrefn Jehofa o ysbryd greaduriaid ffyddlon. Mae ei phlant yn cynnwys Iesu a’r 144,000 o Gristnogion eneiniog sydd â’r gobaith nefol, fel Paul. Mae’r eneiniog yn cael eu galw’n “genedl sanctaidd,” neu “Israel Duw.”—1 Pedr 2:9; Gal. 6:16.

Sut gwnaeth y Jerwsalem uwchben ‘godi’ a ‘disgleirio’? Trwy ei meibion eneiniog ar y ddaear. Ystyria sut mae eu profiadau yn debyg i’r proffwydoliaethau yn Eseia pennod 60.

Roedd rhaid i Gristnogion eneiniog ‘godi’ o dywyllwch ysbrydol ar ôl cael eu llethu gan wrthgiliad yn ystod yr ail ganrif. (Math. 13:​37-43) O ganlyniad i hynny, roedden nhw mewn caethiwed i Fabilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, tan ‘gyfnod olaf y system hon,’ adeg a ddechreuodd ym 1914. (Math. 13:​39, 40) Yn fuan wedyn, ym 1919, cawson nhw eu rhyddhau a dechreuon nhw ddisgleirio golau ysbrydol yn syth drwy wneud ymdrech arbennig yn y weinidogaeth. b Dros y blynyddoedd, mae pobl o bob cenedl wedi dod i’r goleuni hwnnw, gan gynnwys gweddill Israel Duw—y “brenhinoedd” sy’n cael eu sôn amdanyn nhw yn Eseia 60:3.—Dat. 5:​9, 10.

Yn y dyfodol, bydd Cristnogion eneiniog yn adlewyrchu golau ysbrydol yn fwy byth. Sut felly? Pan maen nhw’n gorffen eu bywydau ar y ddaear, byddan nhw’n dod yn rhan o “Jerwsalem Newydd,” neu briodferch Crist, sef y 144,000 o frenhinoedd ac offeiriaid.—Dat. 14:1; 21:​1, 2, 24; 22:​3-5.

Bydd Jerwsalem Newydd yn chwarae rôl bwysig yng nghyflawniad Eseia 60:1. (Cymhara Eseia 60:​1, 3, 5, 11, 19, 20 â Datguddiad 21:​2, 9-11, 22-26.) Yn union fel roedd Jerwsalem ddaearol yn ganolfan llywodraeth Israel gynt, bydd Jerwsalem Newydd a Christ Iesu yn llywodraethu dros y system newydd. Sut mae Jerwsalem Newydd yn “dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw”? Drwy weithredu mewn ffordd sy’n effeithio ar y ddaear. Bydd pobl dduwiol o bob cenedl “yn cerdded yn ei goleuni,” a byddan nhw’n rhydd o bechod a marwolaeth. (Dat. 21:​3, 4, 24) O ganlyniad i hynny, bydd popeth yn cael ei adfer yn union fel dywedodd Eseia a phroffwydi eraill. (Act. 3:21) Dechreuodd popeth gael ei adfer pan ddaeth Iesu’n Frenin a bydd yn gorffen ar ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd.

a Yn Eseia 60:​1, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn sôn am “ddynes” yn hytrach na “Seion,” neu “Jerwsalem,” oherwydd bod y berfau gorchmynnol Hebraeg ar gyfer “cod” a “disgleiria” yn fenywaidd. Mae’r cyfieithiad Saesneg wedi ychwanegu’r gair “dynes” i helpu darllenwyr i ddeall bod yr adnod yn cyfeirio at ddynes symbolaidd.

b Disgrifiwyd yr adferiad ysbrydol a ddigwyddodd ym 1919 yn Eseciel 37:​1-14 a Datguddiad 11:​7-12. Rhagfynegodd Eseciel y byddai Cristnogion eneiniog i gyd yn cael eu hadfer yn ysbrydol ar ôl cyfnod hir o gaethiwed. Mae’r broffwydoliaeth yn Datguddiad yn cyfeirio at ailenedigaeth ysbrydol. Cafodd hon ei chyflawni pan gafodd grŵp bach o frodyr eneiniog a oedd yn cymryd y blaen eu rhyddhau ar ôl cael eu caethiwo yn anghyfiawn. Yn ystod y cyfnod byr hwnnw doedden nhw ddim yn gallu gweithredu mewn ffordd ysbrydol. Ym 1919, cawson nhw eu penodi fel y “gwas ffyddlon a chall.”—Math. 24:45; gweler Pure Worship of Jehovah—Restored At Last! t. 118.