Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Addasu i Gynulleidfa Newydd

Sut i Addasu i Gynulleidfa Newydd

WYT ti erioed wedi symud i gynulleidfa newydd? Os felly, mae’n debyg dy fod ti’n cytuno â Jean-Charles, sy’n dweud: “Mae’n her i addasu i gynulleidfa newydd a cheisio cadw cydbwysedd ysbrydol pawb yn y teulu.” Yn ogystal â dod o hyd i waith, rhywle i fyw, ac efallai ysgolion newydd, efallai bydd rhaid i’r rhai sy’n symud addasu i dywydd gwahanol, i ddiwylliant gwahanol, ac i diriogaeth newydd.

Wynebodd Nicolas a Céline her arall. Gwnaeth y gangen yn Ffrainc ofyn iddyn nhw symud cynulleidfa. Dywedon nhw: “Roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn i ddechrau, ond yna dechreuon ni fethu ein ffrindiau. Doedden ni ddim eto’n ddigon agos at y brodyr yn ein cynulleidfa newydd.” a Gyda’r heriau hyn mewn cof, sut gelli di lwyddo wrth symud i gynulleidfa newydd? Sut gall eraill dy helpu di? Sut gelli di annog eraill a chael dy galonogi yn dy gynulleidfa newydd?

PEDAIR EGWYDDOR A ALL DY HELPU DI I ADDASU

Dibynna ar Jehofa

1. Dibynna ar Jehofa. (Salm 37:5) Roedd Kazumi o Japan yn yr un gynulleidfa am 20 mlynedd, ond roedd rhaid iddi symud pan gafodd ei gŵr jòb newydd. Sut gwnaeth hi ‘roi ei hun yn nwylo’r ARGLWYDD’? Dywedodd hi: “Fe wnes i fwrw fy mol i Jehofa, a dweud wrtho pa mor unig a phryderus o’n i’n teimlo. Bob tro o’n i’n gwneud hynny, cefais fy nerthu gan Jehofa.”

Sut gelli di ddod i ddibynnu ar Jehofa yn fwy? Mae planhigyn angen cael ei fwydo a’i ddyfrio er mwyn iddo dyfu, ac mae’r un peth yn wir am ein ffydd. Myfyriodd Nicolas ar esiamplau Abraham, Iesu, a Paul—dynion a wnaeth aberthu llawer er mwyn gwneud ewyllys Duw. Gwnaeth hyn gryfhau ei hyder yng nghefnogaeth Jehofa. Bydd astudio’r Beibl yn rheolaidd yn dy helpu di i ymdopi â newidiadau yn dy fywyd, ond bydd hefyd yn rhoi rhywbeth iti allu ei ddefnyddio i gefnogi eraill yn dy gynulleidfa newydd.

Paid â chymharu

2. Paid â chymharu. (Preg. 7:10) Roedd rhaid i Jules ddod i arfer â diwylliant gwahanol iawn pan symudodd o Benin i’r Unol Daleithiau. “O’n i’n teimlo fel bod rhaid imi adrodd fy hanes bywyd wrth bob person o’n i’n cyfarfod,” meddai. Roedd hon yn sefyllfa wahanol iawn iddo, felly dechreuodd ynysu ei hun o’r gynulleidfa. Ond ar ôl dod i adnabod y brodyr a’r chwiorydd yn well, newidiodd ei feddwl. Dywedodd: “Dwi’n meddwl bod pobl i gyd yr un fath, ni waeth lle rydyn ni’n byw. Rydyn ni ond yn mynegi ein hunain mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n hynod o bwysig i dderbyn pobl fel y maen nhw.” Felly, paid â chymharu dy gynulleidfa newydd â dy hen gynulleidfa. Dywedodd un arloeswraig o’r enw Anne-Lise, “Symudais i ddarganfod pethau newydd, nid i gael yr un pethau roeddwn ni wedi eu gadael.”

Mae’n rhaid i henuriaid hefyd osgoi cymharu eu cynulleidfa newydd â’u hen gynulleidfa. Dydy dulliau gwahanol ddim o reidrwydd yn anghywir. Byddai’n beth da i ddysgu mwy am yr amgylchiadau lleol cyn dechrau awgrymu newidiadau. (Preg. 3:​1, 7b) Mae’n well gosod esiampl dda yn hytrach na mynnu dy ffordd dy hun.—2 Cor. 1:24.

Cadwa’n brysur yn dy gynulleidfa newydd

3. Cadwa’n brysur yn dy gynulleidfa newydd. (Phil. 1:27) Mae’n wir bod symud yn gofyn am lot o amser ac egni, ond mae’n hynod o bwysig i fynychu’r cyfarfodydd o’r cychwyn cyntaf—mewn person os ydy hynny’n bosib. Wedi’r cwbl, sut gall dy gynulleidfa newydd dy gefnogi di os dydyn nhw byth yn dy weld di? Gwnaeth Lucinda symud gyda’i dwy ferch i ddinas fawr yn Ne Affrica. Dywedodd hi: “Gwnaeth fy ffrindiau awgrymu imi fod yn brysur yn y gynulleidfa, gweithio gydag eraill yn y weinidogaeth, a chael rhan yn y cyfarfodydd. A gwnaethon ni hefyd adael i’r brodyr ddefnyddio ein tŷ ar gyfer grwpiau gweinidogaeth.”

Mae “ymdrechu ochr yn ochr” â dy frodyr a dy chwiorydd yn dy gynulleidfa newydd yn ffordd dda o gyfrannu at “ffydd y newyddion da.” Gwnaeth henuriaid yng nghynulleidfa Anne-Lise ei hannog hi i weithio yn y weinidogaeth gyda phawb yn y gynulleidfa. Beth oedd y canlyniad? Dywedodd hi:“Roedd hyn yn wir yn fy helpu i i deimlo’n rhan o’r gynulleidfa.” Bydd gwirfoddoli ar gyfer pethau fel glanhau a gofalu am y Neuadd yn dangos i dy frodyr a dy chwiorydd dy fod ti’n gweld dy hun fel rhan o’r gynulleidfa. Os wyt ti’n gyflym i gael rhan lawn yn dy gynulleidfa, byddi di’n teimlo’n rhan o dy deulu ysbrydol newydd yn gyflymach.

Gwna ffrindiau newydd

4. Gwna ffrindiau newydd. (2 Cor. 6:​11-13) Mae’n haws gwneud ffrindiau â phobl os ydyn nhw’n gwybod dy fod ti’n eu caru nhw. Felly, neilltua ddigon o amser cyn ac ar ôl y cyfarfodydd i siarad ag eraill a’u dod i’w hadnabod. Ymdrecha i gofio enwau pobl. Bydd gwneud hynny a bod yn gynnes ac yn gyfeillgar yn denu eraill atat ti, a byddi di’n siŵr o wneud ffrindiau da.

Yn hytrach na phoeni am beth mae eraill yn ei feddwl amdanat ti, gad i dy frodyr a dy chwiorydd newydd dy weld di fel rwyt ti go iawn. Dilyna esiampl Lucinda, sy’n dweud: “Mae gynnon ni ffrindiau agos nawr, oherwydd gwnaethon ni gymryd y cam cyntaf a’u gwahodd nhw i’n tŷ.”

“CROESAWU EICH GILYDD”

Gall cerdded i mewn i Neuadd y sy’n llawn o bobl dydyn ni ddim yn eu hadnabod fod yn anodd. Felly sut gelli di helpu’r rhai sy’n symud i dy gynulleidfa di? Dywedodd yr apostol Paul: “Mae’n rhaid ichi groesawu eich gilydd,” “yn union fel gwnaeth y Crist.” (Rhuf. 15:​7, tdn.) Trwy efelychu Iesu, gall henuriaid helpu rhai newydd i deimlo’n gartrefol. (Gweler y blwch “ Sut i Lwyddo Wrth Symud Cynulleidfa.”) Ond, gall pawb yn y gynulleidfa, gan gynnwys plant, helpu’r rhai newydd i deimlo’n gyfforddus.

Gall croesawu eraill gynnwys dangos lletygarwch, ond hefyd cynnwys cynnig help ymarferol. Er enghraifft, neilltuodd un chwaer amser i ddangos chwaer a oedd newydd symud i’r ardal o gwmpas y dref, ac esboniodd iddi sut i ddefnyddio’r bysys a’r trenau. Gwnaeth hyn gyffwrdd â chalon y chwaer a’i helpu i addasu i’w chartref newydd.

CYFLE I DYFU

Efallai byddai cyw yn oedi cyn gadael y nyth i hedfan am y tro cyntaf. Ond, unwaith iddo wneud hynny, mae’n gallu hedfan yn uchel. Mewn ffordd debyg, efallai byddi di’n cilio’n ôl ar ôl symud i gynulleidfa newydd, ond unwaith iti drechu dy ofnau, byddi di’n gallu lledu dy adenydd yng ngwasanaeth Jehofa. Dywedodd Nicolas a Céline: “Mae symud cynulleidfa yn hyfforddiant gwych. Roedd addasu i bobl ac amgylchiadau gwahanol yn ein helpu ni i feithrin rhinweddau newydd.” Gwnaeth Jean-Charles sôn am sut mae ei deulu wedi elwa: “Mae’r newidiadau wedi galluogi’r plant i ffynnu yn y gynulleidfa newydd. Ar ôl rhai misoedd, dechreuodd ein merch dderbyn aseiniadau yn y cyfarfodydd canol wythnos a daeth ein mab yn gyhoeddwr difedydd.”

Beth os dydy dy amgylchiadau ddim yn caniatáu iti symud i le mae’r angen yn fwy? Beth am geisio rhoi egwyddorion yr erthygl hon ar waith yn dy gynulleidfa bresennol? Dibynna ar Jehofa a thafla dy hun i mewn i weithgareddau’r gynulleidfa. Gweithia gydag eraill yn y weinidogaeth a cheisia gwneud ffrindiau newydd, neu gryfhau’r berthynas sydd gen ti ag eraill yn barod. A elli di hefyd helpu rhai newydd neu anghenus drwy gynnig help ymarferol iddyn nhw? Gan mai cariad ydy prif rinwedd Cristnogion, byddai helpu eraill yn dy helpu di i dyfu’n ysbrydol. (Ioan 13:35) Gelli di fod yn hyderus “bod aberthau o’r fath yn plesio Duw’n fawr.”—Heb. 13:16.

Mae llawer o Gristnogion wedi llwyddo wrth symud i gynulleidfa newydd er gwaetha’r heriau—a gelli di lwyddo hefyd! Dywedodd Anne-Lise: “Gwnaeth symud cynulleidfa fy helpu i agor fy nghalon yn llydan.” Mae Kazumi bellach yn hyderus bod symud cynulleidfa “yn ei gwneud hi’n bosib i brofi cefnogaeth Jehofa mewn ffyrdd hollol newydd.” A dywedodd Jules: “Mae’r ffrindiau rydw i wedi eu gwneud wedi fy helpu i deimlo’n gartrefol. Dwi’n meddwl bydda i bellach yn ei chael hi’n anodd gadael fy nghynulleidfa.”

a Os wyt ti’n teimlo’n unig ac yn hiraethu am dy deulu a dy ffrindiau, gweler yr erthygl “Coping With Homesickness in God’s Service,” yn rhifyn Mai 15, 1994, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.