Neidio i'r cynnwys

Menywod yn y Beibl—Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o’u Hesiamplau?

Menywod yn y Beibl—Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o’u Hesiamplau?

Ateb y Beibl

 Yn y Beibl, rydyn ni’n dysgu am lawer o fenywod ac mae gwersi pwysig i’w dysgu o’u bywydau. (Rhufeiniaid 15:4; 2 Timotheus 3:16, 17) Yn yr erthygl hon ceir disgrifiadau byrion o rai o’r menywod y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl. Mae llawer ohonyn nhw’n esiamplau da, tra bod eraill yn esiamplau o’r hyn y dylen ni ei osgoi.—1 Corinthiaid 10:11; Hebreaid 6:12.

  Abigail

 Pwy oedd Abigail? Gwraig dyn cyfoethog o’r enw Nabal oedd Abigail. Roedd Nabal yn ddyn cas, ond dynes ddeallus a gostyngedig oedd Abigail, yn ogystal â bod yn hardd ac yn ysbrydol.—1 Samuel 25:3.

 Beth a wnaeth Abigail? Llwyddodd Abigail i osgoi trychineb, trwy fod yn ddoeth. Roedd hi a Nabal yn byw yn yr ardal lle roedd Dafydd, darpar frenin Israel, yn ffoadur. Tra bod Dafydd a’i ddynion yn yr ardal honno, roedden nhw’n gwarchod preiddiau Nabal rhag lladron. Ond pan anfonodd Dafydd negeswyr at Nabal i ofyn am fwyd, gwrthod a wnaeth Nabal yn y modd mwyaf anghwrtais. Roedd Dafydd yn gandryll! Cychwynnodd gyda’i ddynion gyda’r bwriad o ladd Nabal a phob un o’r dynion yn ei deulu.—1 Samuel 25:10-12, 22.

 Pan glywodd Abigail am yr hyn roedd ei gŵr wedi ei wneud, gweithredodd yn gyflym. Rhoddodd gyflenwad o fwyd i’w gweision a’u hanfon at Dafydd a’i ddynion. Yna aeth hi ar eu holau i ymbil ar Dafydd am drugaredd. (1 Samuel 25:14-19, 24-31) Pan welodd Dafydd ei rhodd a’i hagwedd ostyngedig, a chlywed ei chyngor doeth, sylweddolodd fod Duw wedi ei hanfon ato i atal trychineb. (1 Samuel 25:32, 33) Yn fuan wedyn, bu farw Nabal a daeth Abigail yn wraig i Dafydd.—1 Samuel 25:37-41.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Abigail? Er ei bod yn hardd ac yn gyfoethog, nid oedd Abigail yn falch. Er mwyn cadw heddwch, roedd hi’n fodlon ymddiheuro hyd yn oed pan nad oedd hi ar fai. Deliodd â sefyllfa anodd a pheryglus mewn modd tringar, dewr a deallus.

 Debora

 Pwy oedd Debora? Proffwydes oedd Debora a ddefnyddiwyd gan Jehofa, Duw Israel, i ddatgelu ei ewyllys i’w bobl. Roedd Duw hefyd yn ei defnyddio i ddatrys problemau ymhlith yr Israeliaid.—Barnwyr 4:4, 5.

 Beth a wnaeth Debora? Fe wnaeth Debora gefnogi addolwyr Duw yn ddewr. Dywedodd Duw wrthi am alw Barac i arwain byddin Israel yn erbyn eu gelynion yng ngwlad Canaan. (Barnwyr 4:6, 7) Pan ofynnodd Barac i Debora fynd gydag ef, cytunodd yn ddi-ofn.—Barnwyr 4:8, 9.

 Ar ôl i Dduw roi’r fuddugoliaeth i’r Israeliaid, cyfansoddodd Debora o leiaf ran o’r gân a ganodd hi a Barac i ddathlu’r digwyddiad. Yn y gân, cyfeiriodd hi at yr hyn a wnaeth dynes ddewr arall, Jael, i helpu i drechu’r Canaaneaid.—Barnwyr, pennod 5.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Debora? Roedd Debora yn ddewr ac yn hunanaberthol. Roedd hi’n annog eraill i wneud y peth iawn yng ngolwg Duw ac yna yn eu canmol yn hael.

   Delila

 Pwy oedd Delila? Hi oedd y ddynes y syrthiodd Samson, un o farnwyr Israel, mewn cariad â hi.—Barnwyr 16:4, 5.

 Beth a wnaeth Delila? Cymerodd arian oddi wrth arweinwyr y Philistiaid i fradychu Samson, y dyn y bu Duw yn ei ddefnyddio i achub yr Israeliaid rhag y Philistiaid. Roedd y Philistiaid yn methu ei drechu oherwydd ei gryfder gwyrthiol. (Barnwyr 13:5) Felly aeth yr arweinwyr at Delila i ofyn am ei help.

 Talon nhw arian i Delila gan ofyn iddi ddarganfod pam roedd Samson mor gryf. Cymerodd Delila yr arian, ac ar ôl methu sawl gwaith, llwyddodd i ddysgu cyfrinach Samson. (Barnwyr 16:15-17) Dywedodd y gyfrinach wrth y Philistiaid, ac fe wnaethon nhw ddal Samson a’i roi yn y carchar.—Barnwyr 16:18-21.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Delila? Mae rhybudd i ni yn esiampl Delila. Oherwydd ei hunanoldeb a’i chariad at arian, roedd hi’n fodlon twyllo a bradychu un o weision ffyddlon Jehofa Dduw.

  Efa

 Pwy oedd Efa? Efa oedd y ddynes gyntaf erioed, a’r un gyntaf i gael ei henwi yn y Beibl.

 Beth a wnaeth Efa? Fe wnaeth Efa anufuddhau i orchymyn eglur Duw. Fel ei gŵr Adda, cafodd Efa ei chreu’n berffaith gydag ewyllys rhydd a’r gallu i feithrin rhinweddau, megis cariad a doethineb. (Genesis 1:27) Gwyddai Efa fod Duw wedi dweud wrth Adda y bydden nhw’n marw petaen nhw’n bwyta ffrwyth un goeden arbennig. Ond cafodd Efa ei thwyllo i gredu na fyddai’n marw. Yn wir, cafodd ei darbwyllo y byddai hi’n well ei byd petai hi’n anufuddhau i Dduw. Felly bwytaodd y ffrwyth, ac yn nes ymlaen perswadiodd ei gŵr i fwyta hefyd.—Genesis 3:1-6; 1 Timotheus 2:14.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Efa? Mae esiampl Efa yn dangos yn eglur pa mor beryglus yw meithrin chwantau drwg. Yn groes i orchymyn eglur Duw, gadawodd i ddyhead dyfu yn ei chalon am rywbeth nad oedd yn perthyn iddi hi.—Genesis 3:6; 1 Ioan 2:16.

  Esther

 Pwy oedd Esther? Iddewes oedd Esther a ddewiswyd yn frenhines i Ahasferus, brenin Persia.

 Beth a wnaeth Esther? Defnyddiodd Esther ei dylanwad i atal hil-laddiad ei phobl. Daeth i wybod fod gorchymyn swyddogol wedi ei roi a oedd yn pennu diwrnod i ladd pob Iddew yn Ymerodraeth Persia. Y dyn y tu ôl i’r cynllun creulon hwn oedd Haman, y prif weinidog. (Esther 3:13-15; 4:1, 5) Gyda chefnogaeth Mordecai, ei chefnder hŷn, mentrodd Esther ei bywyd drwy fynd at ei gŵr, y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho am y cynllun. (Esther 4:10-16; 7:1-10) Caniataodd Ahasferus i Esther a Mordecai roi gorchymyn arall yn ei enw a roddodd hawl i’r Iddewon i’w hamddiffyn eu hunain. Fe wnaeth yr Iddewon drechu eu gelynion yn llwyr.—Esther 8:5-11; 9:16, 17.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Esther? Gosododd y Frenhines Esther esiampl wych o ran dewrder, gostyngeiddrwydd, a gwyleidd-dra. (Salm 31:24; Philipiaid 2:3) Er ei bod mor hardd ac mor bwysig, roedd hi’n barod i ofyn am gyngor a help. Wrth siarad â’i gŵr, roedd hi’n dringar ac yn barchus, ond hefyd yn ddewr. Ar adeg beryglus iawn i’r Iddewon, cyhoeddodd yn ddewr ei bod hithau hefyd yn Iddewes.

  Gwraig Lot

 Pwy oedd gwraig Lot? Nid yw’r Beibl yn ei henwi. Ond mae’n dweud bod ganddi ddwy ferch a bod hi a’i theulu yn byw yn ninas Sodom.—Genesis 19:1, 15.

 Beth a wnaeth gwraig Lot? Roedd hi’n anufudd i Dduw. Roedd Duw wedi penderfynu dinistrio Sodom a’r trefi cyfagos am fod y bobl mor anfoesol. Ond oherwydd ei gariad tuag at y dyn cyfiawn Lot a’i deulu, anfonodd ddau angel i ddod â nhw allan o’r ddinas yn ddiogel.—Genesis 18:20; 19:1, 12, 13.

 Dywedodd yr angylion wrth Lot a’i deulu am ffoi o’r ardal a pheidio ag edrych yn ôl, rhag ofn iddyn nhw farw. (Genesis 19:17) Ond, fe wnaeth gwraig Lot “edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a chafodd ei throi yn golofn o halen.”—Genesis 19:26.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl gwraig Lot? Mae ei hanes yn dangos pa mor beryglus yw caru pethau materol gymaint nes bod yn anufudd i Dduw. Cyfeiriodd Iesu ati fel esiampl o’r hyn y dylen ni ei osgoi. Dywedodd Iesu: “Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot!”—Luc 17:32.

  Hanna

 Pwy oedd Hanna? Roedd Hanna yn wraig i Elcana ac yn fam i Samuel a ddaeth yn broffwyd blaenllaw yn Israel gynt.—1 Samuel 1:1, 2, 4-7.

 Beth a wnaeth Hanna? Trodd Hanna at Dduw am gysur ar ôl iddi fethu cael plant. Roedd gan ŵr Hanna ddwy wraig. Roedd plant gan Penina, ei wraig arall, ond am amser maith ar ôl iddi briodi, roedd Hanna heb blant. Byddai Penina yn ei gwawdio’n greulon, ond gweddïai Hanna ar Dduw am gysur. Addawodd Hanna, petai Duw yn rhoi mab iddi, y byddai hi’n rhoi’r plentyn yn ôl i Dduw drwy drefnu iddo wasanaethu yn y tabernacl, sef y babell yr oedd yr Israeliaid yn ei defnyddio i addoli Duw.—1 Samuel 1:11.

 Atebodd Duw weddi Hanna, a chafodd Samuel ei eni. Cadwodd Hanna ei haddewid a phan oedd Samuel yn dal yn fachgen bach aeth hi ag ef i wasanaethu yn y tabernacl. (1 Samuel 1:27, 28) Bob blwyddyn, byddai hi yn gwneud côt iddo a mynd â hi i’r tabernacl. Ym mhen amser, bendithiodd Duw Hanna, a chafodd hi bump o blant eraill—tri mab a dwy ferch.—1 Samuel 2:18-21.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Hanna? Roedd gweddïo ar Jehofa o’i chalon yn helpu Hanna drwy amseroedd anodd. Diolchodd i Dduw yn y weddi a gofnodir yn 1 Samuel 2:1-10. Mae ei geiriau yn dangos pa mor gryf oedd ei ffydd.

  Jael

 Pwy oedd Jael? Roedd hi’n wraig i Heber, dyn nad oedd yn un o bobl Israel. Safodd Jael yn ddewr o blaid pobl Dduw.

 Beth a wnaeth Jael? Gweithredodd Jael yn ddiymdroi pan ddaeth Sisera, cadfridog byddin Canaan, i’w gwersyll. Roedd Sisera wedi colli’r frwydr yn erbyn Israel ac roedd yn chwilio am loches. Dywedodd Jael y gallai guddio yn ei phabell a chael gorffwys. Tra ei fod yn cysgu, fe’i lladdodd.—Barnwyr 4:17-21.

 Roedd yr hyn a wnaeth Jael yn cyflawni proffwydoliaeth Debora: “Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” (Barnwyr 4:9) Am ei chyfraniad hi, cafodd Jael ei hanrhydeddu yn y gân sy’n dathlu’r fuddugoliaeth.—Barnwyr 5:24.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jael? Gweithredodd Jael yn ddi-oed ac yn ddewr. Mae ei phrofiad yn dangos sut y gall Duw drefnu pethau er mwyn cyflawni proffwydoliaethau.

  Jesebel

 Pwy oedd Jesebel? Gwraig y Brenin Ahab oedd Jesebel. Nid oedd hi’n un o bobl Israel ac nid oedd hi’n addoli Jehofa. Roedd hi’n addoli Baal, duw pobl Canaan.

 Beth a wnaeth Jesebel? Roedd y Frenhines Jesebel yn ormesol, yn greulon, ac yn dreisgar. Roedd hi’n hyrwyddo addoliad Baal a’r holl anfoesoldeb a oedd ynghlwm wrtho. Ar yr un pryd, ceisiodd gael gwared ar addoliad y gwir Dduw, Jehofa.—1 Brenhinoedd 18:4, 13; 19:1-3.

 I gael ei ffordd ei hun, roedd Jesebel yn fodlon dweud celwyddau a llofruddio pobl. (1 Brenhinoedd 21:8-16) Fel y rhagfynegodd Duw, bu farw hi mewn ffordd dreisgar, a chafodd hi mo’i chladdu.—1 Brenhinoedd 21:23; 2 Brenhinoedd 9:10, 32-37.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jesebel? Mae esiampl Jesebel yn rhybudd i ni. Roedd hi mor llwgr a diegwyddor nes bod ei henw hi wedi dod i olygu unrhyw wraig anfoesol, benrhydd, a digywilydd.

  Lea

 Pwy oedd Lea? Lea oedd gwraig gyntaf y patriarch Jacob. Ei chwaer ieuengaf, Rachel, oedd ei wraig arall.—Genesis 29:20-29.

 Beth a wnaeth Lea? Daeth Lea yn fam i chwech o feibion Jacob. (Ruth 4:11) Bwriad Jacob oedd priodi â Rachel, nid Lea. Ond fe drefnodd Laban, tad y ddwy ferch, i Lea gymryd lle Rachel yn y briodas. Pan sylweddolodd Jacob fod Laban wedi’i dwyllo, aeth i’w wynebu. Esgus Laban oedd ei bod hi’n arfer i’r ferch hynaf briodi cyn y ferch ieuengaf. Wythnos yn ddiweddarach, cafodd Jacob briodi â Rachel.—Genesis 29:26-28.

 Roedd Jacob yn caru Rachel yn fwy na Lea. (Genesis 29:30) O ganlyniad, roedd Lea yn cenfigennu wrth ei chwaer ac yn cystadlu am sylw a chariad Jacob. Ond gwelodd Duw deimladau Lea a’i bendithio gyda saith o blant—chwe mab ac un ferch.—Genesis 29:31.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Lea? Roedd Lea yn troi at Dduw mewn gweddi. Er gwaethaf y problemau yn ei theulu, roedd hi’n dal yn ddiolchgar i Dduw am ei help. (Genesis 29:32-35; 30:20) Mae hanes ei bywyd yn dangos y problemau sy’n codi pan gymer dyn fwy nag un wraig, er bod Duw wedi caniatáu hyn am gyfnod. Safon Duw ar gyfer priodas yw un gŵr ac un wraig.—Mathew 19:4-6.

  Mair (chwaer i Martha a Lasarus)

 Pwy oedd Mair? Roedd Mair yn ffrind agos i Iesu, fel ei brawd Lasarus a’i chwaer Martha.

 Beth a wnaeth Mair? Dangosodd Mair lawer gwaith fod ganddi barch mawr at Iesu fel Mab Duw. Roedd ganddi ffydd yng ngallu Iesu i atal ei brawd rhag marw, ac roedd hi yno pan gafodd Lasarus ei atgyfodi gan Iesu. Pan aeth hi i wrando ar Iesu yn lle helpu gyda’r gwaith yn y tŷ, cwynodd ei chwaer Martha. Ond canmol Mair a wnaeth Iesu am roi pethau ysbrydol yn gyntaf.—Luc 10:38-42.

 Dro arall, roedd Mair yn hael iawn wrth Iesu pan gymerodd hi “bersawr drud” a’i roi ar ei ben a’i draed. (Mathew 26:6, 7) Fe wnaeth rhai gyhuddo Mair o fod yn wastraffus. Ond achub ei cham a wnaeth Iesu, gan ddweud: “Ble bynnag fydd y newyddion da [am Deyrnas Dduw] yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma.”—Mathew 24:14; 26:8-13.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Mair? Roedd gan Mair ffydd gref. Iddi hi, roedd addoli Duw yn bwysicach na phethau pob dydd. Dewisodd anrhydeddu Iesu, hyd yn oed pan oedd hynny’n costio’n ddrud iddi.

  Mair (mam Iesu)

 Pwy oedd Mair? Iddewes ifanc oedd Mair. Roedd hi’n wyryf pan roddodd enedigaeth i fab Duw, Iesu, y plentyn a oedd wedi ei genhedlu drwy wyrth.

 Beth a wnaeth Mair? Ildiodd Mair yn ostyngedig i ewyllys Duw. Roedd hi wedi addo priodi Joseff pan ddaeth angel ati a dweud y byddai hi’n beichiogi ac yn rhoi genedigaeth i’r Meseia. (Luc 1:26-33) Derbyniodd ei rhan yn llawen. Ar ôl i Iesu gael ei eni, cafodd Mair a Joseff bedwar mab ac o leiaf ddwy ferch. Felly nid oedd Mair yn wyryf am byth. (Mathew 13:55, 56) Er iddi gael braint unigryw, nid oedd hi’n disgwyl cael ei moli. Chafodd hi mo’i thrin mewn ffordd arbennig tra bod Iesu ar y ddaear nac ymhlith y Cristnogion cynnar.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Mair? Roedd Mair yn ddynes ffyddlon a dderbyniodd gyfrifoldeb mawr yn llawen. Roedd hi’n adnabod yr Ysgrythurau’n dda iawn. Ymddengys ei bod hi’n cyfeirio at yr Ysgrythurau ryw ugain o weithiau yn yr araith a gofnodir yn Luc 1:46-55.

  Mair Magdalen

 Pwy oedd Mair Magdalen? Disgybl ffyddlon i Iesu oedd Mair Magdalen.

 Beth a wnaeth Mair Magdalen? Roedd Mair Magdalen yn un ymhlith nifer o wragedd a oedd yn teithio gyda Iesu a’i ddisgyblion. Roedd hi’n defnyddio ei harian ei hun i’w helpu. (Luc 8:1-3) Fe wnaeth hi ddilyn Iesu hyd at ddiwedd ei weinidogaeth, ac roedd hi’n bresennol pan gafodd Iesu ei ddienyddio. Cafodd hi’r fraint o fod ymhlith y bobl gyntaf i weld Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi.—Ioan 20:11-18.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Mair? Roedd Mair Magdalen yn hael wrth gefnogi gweinidogaeth Iesu, ac arhosodd yn ddisgybl ffyddlon iddo.

  Martha

 Pwy oedd Martha? Chwaer i Lasarus a Mair oedd Martha, ac roedden nhw’n byw ger Jerwsalem mewn pentref o’r enw Bethania.

 Beth a wnaeth Martha? Roedd Martha’n ffrind agos i Iesu, ac roedd yntau’n “hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus.” (Ioan 11:5) Dynes groesawgar oedd Martha. Un tro, pan oedd Iesu’n ymweld â nhw, aeth Mair i wrando ar Iesu gan adael Martha i wneud y gwaith. Cwynodd Martha a dweud y dylai Mair ei helpu. Mewn ffordd garedig, cywirodd Iesu agwedd Martha.—Luc 10:38-42.

 Pan aeth Lasarus yn sâl, gofynnodd Martha a’i chwaer i Iesu ddod, yn ffyddiog y gallai iacháu eu brawd. (Ioan 11:3, 21) Ond bu farw Lasarus. Yn y sgwrs rhwng Martha ac Iesu, gwelwn ei ffydd yn yr addewid am yr atgyfodiad, ac yng ngallu Iesu i ddod â’i brawd yn ôl yn fyw.—Ioan 11:20-27.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Martha? Roedd Martha’n gweithio’n galed i fod yn groesawgar. Roedd hi’n barod i dderbyn cyngor. Siaradai’n agored am ei theimladau a’i ffydd.

  Miriam

 Pwy oedd Miriam? Roedd Miriam yn chwaer i Moses ac Aaron. Hi yw’r ddynes gyntaf yn y Beibl i gael ei galw’n broffwydes.

 Beth a wnaeth Miriam? A hithau’n broffwydes, ei gwaith hi oedd mynd â negeseuon Duw at y bobl. Roedd ganddi le amlwg ymhlith pobl Israel ac fe gymerodd rhan gyda’r dynion yn y gân o fuddugoliaeth ar ôl i Dduw ddinistrio byddin yr Aifft yn y Môr Coch.—Exodus 15:1, 20, 21.

 Yn nes ymlaen, dechreuodd Miriam ac Aaron feirniadu Moses. Ymddengys mai balchder a chenfigen oedd y tu ôl i’w geiriau. Ond roedd Duw “wedi eu clywed nhw,” ac fe geryddodd Miriam ac Aaron. (Numeri 12:1-9) Trawodd Duw Miriam â’r gwahanglwyf, efallai oherwydd hi a oedd wedi dechrau’r cwyno. Fe wnaeth Moses ymbil ar Dduw drosti, ac fe gafodd hi ei hiacháu. Ar ôl cael ei chadw y tu allan i’r gwersyll am wythnos, caniatawyd iddi ddod yn ôl.—Numeri 12:10-15.

 Mae’r Beibl yn dangos bod Miriam wedi derbyn y cyngor. Ganrifoedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd Duw at ei braint unigryw wrth atgoffa’r Israeliaid: “Anfonais Moses i’ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e.”—Micha 6:4.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Miriam? Mae hanes Miriam yn dangos bod Duw yn clywed beth mae ei weision yn ei ddweud wrth ei gilydd ac am ei gilydd. Dysgwn hefyd fod rhaid inni osgoi bod yn falch ac yn genfigennus os ydyn ni am blesio Duw. Gall y beiau hyn wneud inni ddweud pethau sy’n pardduo enw rhywun arall.

  Rachel

 Pwy oedd Rachel? Merch Laban a hoff wraig y patriarch Jacob oedd Rachel.

 Beth a wnaeth Rachel? Priododd Rachel â Jacob a chawson nhw ddau fab a aeth ymlaen i sefydlu dau o’r deuddeg llwyth yn Israel gynt. Y tro cyntaf i Rachel gyfarfod Jacob roedd hi’n gofalu am ddefaid ei thad. (Genesis 29:9, 10) O’i chymharu â’i chwaer hynaf, Lea, roedd Rachel “yn ferch wirioneddol hardd.”—Genesis 29:17.

 Syrthiodd Jacob mewn cariad â Rachel a chytunodd i weithio am saith mlynedd er mwyn ei phriodi. (Genesis 29:18) Ond, twyllwyd Jacob gan Laban i briodi Lea yn gyntaf, ac yna cafodd briodi Rachel.—Genesis 29:25-27.

 Roedd Jacob yn caru Rachel a’i dau fab yn fwy na Lea a’i phlant hi. (Genesis 37:3; 44:20, 27-29) O ganlyniad, roedd cynnen rhwng y ddwy wraig.—Genesis 29:30; 30:1, 15.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Rachel? Er nad oedd y sefyllfa yn ei theulu yn un hawdd, daliodd Rachel ati, yn ffyddiog y byddai Duw yn clywed ei gweddïau. (Genesis 30:22-24) Mae ei hanes hi yn amlygu’r problemau sy’n wynebu teuluoedd lle mae’r gŵr yn cymryd mwy nag un wraig. Mae ei phrofiad hi yn dangos pa mor ddoeth yw safon wreiddiol Duw ar gyfer priodas, sef bod dyn yn cymryd dim ond un wraig.—Mathew 19:4-6.

   Rahab

Pwy oedd Rahab? Roedd Rahab yn byw yn ninas Jericho yng Ngwlad Canaan. Putain oedd hi, ond newidiodd a dechrau addoli Jehofa.

 Beth a wnaeth Rahab? Cuddiodd Rahab ddau Israeliad a oedd wedi dod i ysbïo’r tir. Fe wnaeth hyn oherwydd ei bod wedi clywed sôn am Jehofa, Duw Israel, a’r ffordd yr oedd wedi achub ei bobl o’r Aifft a’u hamddiffyn rhag ymosodiad gan lwyth yr Amoriaid.

 Fe wnaeth hi helpu’r ysbïwyr, gan ofyn iddyn nhw arbed ei theulu pan ddeuai’r Israeliaid i ddinistrio Jericho. Cytunon nhw, ar rai amodau: Roedd hi i gadw eu hymweliad yn gyfrinach, roedd hi a’i theulu i aros yn nhŷ Rahab pan ymosodai’r Israeliaid, ac roedd hi i glymu rhaff goch wrth y ffenestr i ddangos pa un oedd ei thŷ hi. Dilynodd Rahab y cyfarwyddiadau’n ofalus, a chafodd hi a’i theulu eu hachub pan gwympodd Jericho.

 Yn ddiweddarach, priododd Rahab ag un o’r Israeliaid, ac ymhlith ei disgynyddion y mae’r Brenin Dafydd ac Iesu Grist.—Josua 2:1-24; 6:25; Mathew 1:5, 6, 16.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Rahab? Mae’r Beibl yn cyfeirio at Rahab fel esiampl eithriadol o ran ffydd. (Hebreaid 11:30, 31; Iago 2:25) Mae ei hanes yn dangos bod Duw yn faddeugar ac yn ddiragfarn. Y mae’n bendithio’r rhai sy’n ymddiried ynddo ni waeth beth yw eu cefndir.

  Rebeca

 Pwy oedd Rebeca? Gwraig Isaac oedd Rebeca. Roedd hi’n fam i’r efeilliaid Jacob ac Esau.

 Beth a wnaeth Rebeca? Roedd Rebeca yn gwneud ewyllys Duw hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd. Roedd Rebeca yn codi dŵr o’r ffynnon pan ofynnodd dyn iddi am ddiod. Ar unwaith, rhoddodd Rebeca ddŵr iddo a chynigiodd godi dŵr i’w gamelod hefyd. (Genesis 24:15-20) Gwas Abraham oedd y dyn, ac roedd wedi teithio o bell i gael hyd i wraig i Isaac, mab Abraham. (Genesis 24:2-4) Hefyd roedd ef wedi gweddïo am fendith Duw ar ei ymdrechion. Pan welodd pa mor weithgar a chroesawgar oedd Rebeca, gwelodd fod Duw wedi ateb ei weddi a dangos mai hi oedd yr un yr oedd Ef wedi dewis i fod yn wraig i Isaac.—Genesis 24:10-14, 21, 27.

 Pan glywodd Rebeca y rheswm i’r gwas ddod mor bell, cytunodd i ddychwelyd gydag ef a dod yn wraig i Isaac. (Genesis 24:57-59) Ymhen amser cafodd Rebeca efeilliaid. Roedd Duw wedi rhoi gwybod iddi y byddai’r mab hynaf, Esau, yn gwasanaethu’r mab ieuengaf, Jacob. (Genesis 25:23) Pan ddaeth hi’n amser i Isaac fendithio’r mab hynaf, Esau, cymerodd Rebeca gamau i sicrhau mai Jacob oedd yn cael y fendith, gan ei bod hi’n gwybod mai dyna oedd ewyllys Duw.—Genesis 27:1-17.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Rebeca? Roedd Rebeca yn wylaidd, yn weithgar, ac yn groesawgar—rhinweddau a’i helpodd i lwyddo fel gwraig a mam, ac fel un a oedd yn addoli’r gwir Dduw.

  Ruth

 Pwy oedd Ruth? Moabes oedd Ruth, ond fe adawodd ei duwiau a’i mamwlad er mwyn addoli Jehofa.

 Beth a wnaeth Ruth? Dangosodd Ruth gariad eithriadol at ei mam yng nghyfraith, Naomi. Roedd Naomi, ynghyd â’i gŵr a’i dau mab, wedi symud i wlad Moab pan oedd newyn yn Israel. Priododd y ddau fab â gwragedd o wlad Moab—Ruth ac Orpa. Ond ymhen amser, bu farw gŵr Naomi a’r ddau fab hefyd, gan adael y tair gwraig yn weddwon.

 Penderfynodd Naomi ddychwelyd i Israel, lle roedd y cyfnod o sychder wedi dod i ben. Dewisodd Ruth ac Orpa fynd gyda hi. Dywedodd Naomi y dylen nhw fynd yn ôl at eu pobl eu hunain, a dyna a wnaeth Orpa. (Ruth 1:1-6, 15) Ond arhosodd Ruth gyda’i mam yng nghyfraith. Roedd hi’n caru Naomi ac eisiau addoli Jehofa, Duw Naomi.—Ruth 1:16, 17; 2:11.

 Aethon nhw i Bethlehem, tref enedigol Naomi, ac yn fuan iawn roedd gan Ruth enw da am ei gweithgarwch a’i charedigrwydd tuag at ei mam yng nghyfraith. Fe wnaeth hyn argraff fawr ar dirfeddiannwr cyfoethog o’r enw Boas, ac fe roddodd ef fwyd iddi hi a Naomi. (Ruth 2:5-7, 20) Yn ddiweddarach priododd Ruth â Boas ac ymhlith eu disgynyddion y mae’r Brenin Dafydd ac Iesu Grist.—Mathew 1:5, 6, 16.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Ruth? Oherwydd ei chariad tuag at Naomi a Jehofa, roedd Ruth yn fodlon gadael ei gwlad a’i theulu. Roedd hi’n weithgar, yn garedig, ac yn ffyddlon hyd yn oed pan nad oedd bywyd yn hawdd.

  Sara

 Pwy oedd Sara? Gwraig Abraham a mam Isaac oedd Sara.

 Beth a wnaeth Sara? Roedd gan Sara ffydd yn yr addewidion roedd Duw wedi eu rhoi i Abraham, ac felly, gadawodd ei chartref a’i bywyd cyfforddus yn ninas gyfoethog Ur. Dywedodd Duw wrth Abraham am adael Ur a mynd i wlad Canaan. Addawodd Duw y byddai’n bendithio Abraham a’i wneud yn dad i genedl fawr. (Genesis 12:1-5) Mae’n debyg bod Sara yn ei chwedegau ar y pryd. O hynny ymlaen, roedd Sara a’i gŵr yn byw bywyd nomadaidd mewn pebyll.

 Nid oedd bywyd nomadaidd heb ei beryglon, ond fe wnaeth Sara gefnogi Abraham yn ffyddlon wrth iddo ddilyn cyfarwyddyd Duw. (Genesis 12:10, 15) Am flynyddoedd lawer, roedd Sara’n methu cael plant, ac roedd hynny yn loes calon iddi. Ond roedd Duw wedi addo bendithio disgynyddion Abraham. (Genesis 12:7; 13:15; 15:18; 16:1, 2, 15) Ymhen amser, cadarnhaodd Duw y byddai Sara yn cael plentyn. A phan oedd hi wedi hen basio’r oed i gael plant, dyna a ddigwyddodd. Pan ganed ei mab Isaac, roedd Sara’n 90 mlwydd oed ac Abraham yn gant oed. (Genesis 17:17; 21:2-5) Rhoddon nhw’r enw Isaac ar eu mab.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Sara? Mae esiampl Sara yn dangos y gallwn ni ddibynnu ar Dduw i gyflawni ei addewidion, hyd yn oed pan fydd hynny yn edrych yn amhosib. (Hebreaid 11:11) Ac mae ei hesiampl fel gwraig yn dangos pa mor bwysig yw parch mewn priodas.—1 Pedr 3:5, 6.

  Y ferch o Shwnem

 Pwy oedd y ferch o Shwnem? Hi yw’r cymeriad canolog yn yr hanes a geir yn llyfr Caniad Solomon yn y Beibl. Merch brydferth o’r cefn gwlad oedd hi. Nid yw’r Beibl yn ei henwi.

 Beth a wnaeth y ferch o Shwnem? Arhosodd hi yn ffyddlon i’r bugail ifanc yr oedd hi’n ei garu. (Caniad Solomon 1:7; 2:16) Ond oherwydd ei bod mor brydferth, fe ddaliodd lygad y Brenin Solomon a aeth ati i ennill ei chalon. (Caniad Solomon 7:6) Dywedodd rhai pobl y dylai hi ddewis Solomon a oedd yn gyfoethog iawn, ond gwrthod a wnaeth y Shwlames. Roedd hi’n caru’r bugail er ei fod yn dlawd, ac arhosodd yn ffyddlon iddo.—Caniad Solomon 3:5; 7:10; 8:6.

 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y ferch o Shwnem? Er ei bod mor brydferth ac yn cael llawer o sylw, roedd hi’n aros yn ostyngedig. Wnaeth hi ddim gadael i bobl eraill, na’r temtasiwn i fod yn gyfoethog ac yn bwysig, ddylanwadu ar ei chalon. Llwyddodd i reoli ei hemosiynau ac i aros yn foesol bur.

 Llinell Amser Menywod yn y Beibl

  1.  Efa

  2. Y Dilyw (2370 COG)

  3.  Sara

  4.  Gwraig Lot

  5.  Rebeca

  6.  Lea

  7.  Rachel

  8. Exodus (1513 COG)

  9.  Miriam

  10.  Rahab

  11.  Ruth

  12.  Debora

  13.  Jael

  14.  Delila

  15.  Hanna

  16. Brenin cyntaf Israel (1117 COG)

  17.  Abigail

  18.  Y ferch o Shwnem

  19.  Jesebel

  20.  Esther

  21.  Mair (mam Iesu)

  22. Bedydd Iesu (29 OG)

  23.  Martha

  24.  Mair (chwaer Martha a Lasarus)

  25.  Mair Magdalen

  26. Marwolaeth Iesu (33 OG)