Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ymprydio?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ymprydio?

Ateb y Beibl

 Yn amser y Beibl, roedd ymprydio yn dderbyniol gan Dduw os oedd yn cael ei wneud â’r cymhelliad iawn. Ond os nad oedd y cymhelliad yn iawn, roedd yn digio Duw. Fodd bynnag, nid yw’r Beibl naill ai’n gorchymyn nac yn gwahardd ymprydio i bobl heddiw.

O dan ba amgylchiadau gwnaeth rhai yn y Beibl ymprydio?

  •   Wrth erfyn am help ac arweiniad gan Dduw. Gwnaeth y bobl oedd yn teithio i Jerwsalem ymprydio i ddangos eu bod yn ddidwyll wrth ofyn am gymorth gan Dduw. (Esra 8:21-23) Ar adegau, penderfynodd Paul a Barnabas ymprydio wrth benodi henuriaid i’r cynulleidfaoedd.​—Actau 14:23.

  •   Wrth ganolbwyntio ar bwrpas Duw. Ar ôl ei fedydd, ymprydiodd Iesu am 40 diwrnod i baratoi ei hun i wneud ewyllys Duw yn ystod ei weinidogaeth oedd i ddilyn.​—Luc 4:1, 2.

  •   Wrth ddangos edifeirwch am bechodau cynt. Drwy’r proffwyd Joel, dywedodd Duw wrth yr Israeliaid anffyddlon: “Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad.”—Joel 2:12-15.

  •   Wrth gadw Dydd y Cymod. Roedd y gyfraith a roddodd Duw i genedl Israel yn cynnwys y gorchymyn i ymprydio yn flynyddol ar Ddydd y Cymod. a (Lefiticus 16:29-31) Roedd ymprydio ar yr achlysur hwn yn addas oherwydd ei fod yn atgoffa’r Israeliaid eu bod yn amherffaith ac angen maddeuant Duw.

Beth yw rhai o’r cymhellion anghywir dros ymprydio?

  •   I edrych yn dda o flaen eraill. Dysgodd Iesu mai mater personol a phreifat y dylai ymprydio fod rhwng unigolyn a Duw.​—Mathew 6:16-18.

  •   I brofi ein cyfiawnder. Nid yw ymprydio yn gwneud person yn uwch-foesol nac yn uwch-ysbrydol.—Luc 18:9-14.

  •   I geisio gwneud yn iawn am ymarferiad bwriadol o bechod. (Eseia 58:3, 4) I fod yn dderbyniol gan Dduw, roedd rhaid i ymprydio gyd-fynd ag ufudd-dod a chydag edifeirwch o’r galon am unrhyw bechodau.

  •   I gynnal defod grefyddol. (Eseia 58:5-7) Yn y cyswllt hwn, mae Duw fel rhiant sy’n ddig pan fydd ei blant yn mynegi cariad, nid o’r galon, ond am ei fod yn ddyletswydd.

Ydy ymprydio yn angenrheidiol i Gristnogion?

 Nac ydy. Gofynnodd Duw i’r Israeliaid ymprydio ar Ddydd y Cymod, ond fe ddileodd yr arferiad hwnnw ar ôl i Iesu dalu’r iawndal am byth dros bechodau pobl edifar. (Hebreaid 9:24-26; 1 Pedr 3:18) Nid yw Cristnogion o dan Gyfraith Moses, oedd yn cynnwys Dydd y Cymod. (Rhufeiniaid 10:4; Colosiaid 2:13, 14) Felly, gall pob Cristion benderfynu drosto’i hun i ymprydio neu ddim.—Rhufeiniaid 14:1-4.

 Mae Cristnogion yn deall nad yw ymprydio yn rhan hanfodol o’u haddoliad. Nid yw’r Beibl byth yn cysylltu ymprydio â hapusrwydd. I’r gwrthwyneb, un o brif nodweddion gwir addoliad Cristnogol yw llawenydd, sy’n adlewyrchu personoliaeth Jehofa, y Duw llawen.—1 Timotheus 1:11; Pregethwr 3:12, 13; Galatiaid 5:22.

Syniadau anghywir ynglŷn â safbwynt y Beibl ar ymprydio

 Camsyniad: Cymeradwyodd yr apostol Paul i gyplau priod Cristnogol ymprydio.—1 Corinthiaid 7:5, Beibl Cysegr-lân.

 Ffaith: Nid yw llawysgrifau cynnar y Beibl yn sôn am ymprydio yn 1 Corinthiaid 7:5. b Yn ôl pob golwg, copïwyr y Beibl a ychwanegodd cyfeiriadau at ymprydio, nid yn unig i’r adnod hon, ond hefyd i Mathew 17:21; Marc 9:29; ac Actau 10:30. Mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau modern y Beibl yn gadael allan y cyfeiriadau ffug hyn i ymprydio.

 Camsyniad: Dylai Cristnogion ymprydio i goffáu’r 40 diwrnod a wnaeth Iesu ymprydio yn yr anialwch ar ôl ei fedydd.

 Ffaith: Ni orchmynnodd Iesu’r fath ymprydio erioed, ac nid oes unrhyw sôn am i’r Cristnogion cynnar fod wedi cadw’r fath defod. c

 Camsyniad: Dylai Cristnogion ymprydio wrth goffáu marwolaeth Iesu.

 Ffaith: Ni roddodd Iesu orchymyn i’w ddisgyblion i ymprydio wrth goffáu ei farwolaeth. (Luc 22:14-18) Er i Iesu ddweud y byddai ei ddisgyblion yn ymprydio wedi iddo farw, nid oedd yn rhoi gorchymyn iddyn nhw, dim ond dweud beth oedd yn mynd i ddigwydd. (Mathew 9:15) Cyfarwyddyd y Beibl i Gristnogion llwglyd oedd i fwyta adref cyn cadw’r Goffadwriaeth o farwolaeth Iesu.—1 Corinthiaid 11:33, 34.

a Dywedodd Duw wrth yr Israeliaid: “Y cystuddiwch eich eneidiau” ar Ddydd y Cymod. (Lefiticus 16:29, 31; Beibl Cysegr-lân) Deallwn fod y dywediad hwn yn cyfeirio at ymprydio. (Eseia 58:3) Felly, mae beibl.net yn dweud: “Dych chi i beidio bwyta.”

b Gweler A Textual Commentary on the Greek New Testament, gan Bruce M. Metzger, Trydydd Rhifyn, tudalen 554.

c Yn cyfeirio at hanes ympryd y Grawys sy’n parhau 40 diwrnod, mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud: “Yn y tair canrif gyntaf, nid oedd y cyfnod o ymprydio i baratoi ar gyfer y wledd basgedig [Pasg] yn parhau am fwy nag wythnos; un neu ddau ddiwrnod oedd y terfyn arferol. . . . Mae’r cyfeiriad cyntaf at gyfnod o 40 diwrnod yn ymddangos ym mhumed canon Cyngor Nicaea (325), er bod rhai ysgolheigion yn dadlau ai’r Grawys oedd yn cael ei gyfeirio ato yno.”—Ail Rifyn, Cyfrol 8, tudalen 468.